Sir Benfro
Cardigan to Amroth
Mae Arfordir Penfro yn un o’r Parciau Cenedlaethol lleiaf yn y DU, ond peidiwch â gadael i’r maint eich twyllo chi, rydych chi wrth y fynedfa i amrediad o dirweddau rhyfeddol. Mae gan yr arfordir o ansawdd gefndir o fryniau, aberoedd, dyffrynnoedd a choetiroedd sy’n eich galluogi chi i ddarganfod rhywbeth gwahanol
Abergwaun ac Wdig
Cerdded ysblennydd ar ben y clogwyni yw trefn y dydd ar Lwybr Arfordir Cymru yma, p’un a ydych yn mynd i’r gogledd drwy Bentref hardd Abergwaun tuag at Gasnewydd neu i’r gorllewin allan i’r pentir tuag at y goleudy godidog, anghysbell ym Mhen Strwmbwl.
Trowch i'r dde allan o'r orsaf i lawr Allt yr Orsaf. Pan gyrhaeddwch gylchfan trowch i'r chwith tuag at y môr a Llwybr Arfordir Cymru. Mae dim ond 0.1 milltir / 0.2 cilomedr o’r orsaf.
Aberdaugleddau
O Aberdaugleddau, ewch i'r gorllewin tuag at Sandy Haven hardd neu i'r dwyrain ar ran annisgwyl o'r llwybr sy’n ymddangos pe bai’n osgoi llawer o ddiwydiant yr aber. I gyrraedd y llwybr, trowch i'r chwith allan o'r orsaf, gan sicrhau bod archfarchnad Tesco dros y ffordd ar y dde i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru wrth y gylchfan mewn 0.1 milltir / 0.2 cilometr.
Dinbych-y-pysgod
O’r orsaf, ewch i’r de i ddarganfod olion castell Dinbych -y-Pysgod ar y pentir a Thraeth y De, ac yna ymlaen i Benalun, Lydstep a Maenorbŷr. Os nad ydych chi eisiau cerdded y daith gron gallwch neidio ar y trên i ddychwelyd o Benalun neu Faenorbŷr.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.