Ynys Môn
Dewch i ddarganfod trysorau Ynys Môn! Gallwch weld nodweddion daearegol a thraethau prydferth heb eu hail ar hyd yr arfordir godidog yma.
Caergybi
Wedi’i disgrifio gan lawer fel un o’r rhannau gorau i’w cherdded ar y llwybr, mae’r daith gerdded o Gaergybi i Drearddur yn cynnwys parc gwledig, clogwyni garw, henebion, goleudy eiconig a gwarchodfa natur fel rhai o’i huchafbwyntiau.
Mae’n hawdd iawn cyrraedd y fan hon. Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru ar bont y Porth Celtaidd sy'n cysylltu'r orsaf â thref Caergybi.
Llanfairpwll
Mae arwydd yr orsaf yn Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yn cynnig cyfle i dynnu lluniau eiconig cyn dechrau o’r orsaf reilffordd hon.
Mae'n daith gerdded 0.4 milltir / 0.6 cilometr i gyrraedd y llwybr sy'n cychwyn ar hyd trac glaswelltog yng nghefn yr orsaf reilffordd. Trowch i'r dde ar Ffordd yr Orsaf ac i'r dde eto wrth y gyffordd gyda'r A4080.
Byddwch yn cyrraedd y llwybr ymhen ychydig gannoedd o lathenni a bydd gennych yr opsiwn i barhau yn syth ymlaen am Dde Orllewin Môn neu droi i’r chwith i gyrraedd cerflun Nelson ar lannau’r Fenai a cherdded o dan Bont Britannia a Phont Menai.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.