Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe
Porth Tywyn i Gynffig
Mae’r rhan hon o’r Llwybr yn ardal o nodweddion sy’n gwrthgyferbynnu, o arfordir ysblennydd Penrhyn Gŵyr a’i draethau euraidd sydd wedi ennill gwobrau, i ddinas glan môr fywiog Abertawe a phentref hardd Fictoraidd y Mwmbwls.
Abertawe
Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru yma i gael taith gerdded gwastad o Farina Abertawe o amgylch Bae Abertawe i bentref glan môr hyfryd y Mwmbwls. Neu ewch i’r dwyrain drwy’r gwaith parhaus o ailddatblygu’r marina a’r brifysgol ac ar hyd Camlas Tennant, sy’n segur. I fynd ar y llwybr, cerddwch 0.9 milltir / 1.5 cilomedr yn syth o orsaf Abertawe i lawr y Stryd Fawr, gan fynd heibio olion Castell Abertawe ar y chwith i chi. Ewch ymlaen i lawr Wind Street, gan groesi dros yr A4067 brysur ac i lawr Somerset Place i groesi Afon Tawe dros y bont droed. Ewch yn syth ymlaen i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru yng nghornel pigfain Doc Tywysog Cymru.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.