Llŷn ac Arfordir Eryri
Bangor i Fachnylleth
Gyda thirwedd fawreddog Parc Cenedlaethol Eryri yn y cefndir, mae’n hawdd deall pam y mae pobl mor hoff o’r ardal. Mae llwybrau ardderchog i’w cael a byddwch yn gweld pentrefi pysgota bach, aberoedd afonydd a milltiroedd o draethau tywodlyd.
Pwllheli
Mae tref farchnad ffyniannus Pwllheli’n nodi diwedd rheilffordd y Cambrian, ac yn lle gwych arall i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru, ychydig y tu allan i'r orsaf. Ewch i'r gorllewin am Gei'r Gogledd tuag at Gricieth, neu ewch am y de i lawr Ffordd y Cob, sy’n gwbl syth, i gyrraedd yr arfordir wrth Gylch yr Orsedd, lle allwch chi barhau i fynd tuag at Lanbedrog ac Abersoch.
Y Bermo
Mae taith gerdded hawdd dros un o nodweddion pensaernïol eiconig Cymru yn eich disgwyl yma. Croesi aber Afon Mawddach dros bont y Bermo, na ellir ond ei chroesi ar droed, ar feic neu yn y trên. Mae Llwybr Arfordir Cymru 0.1 milltir / 0.15 cilometr o’r orsaf - ewch i’r dde i lawr Ffordd y Traeth ar ôl dod oddi ar y trên.
Aberdyfi
Mae dwy daith gerdded gwbl wahanol yn aros amdanoch os ydych yn mynd oddi ar drên yn yr orsaf yma. Ewch i'r gogledd am Dywyn i gael taith gerdded hollol wastad, pum milltir o hyd, y tu ôl i dwyni Tywyn, neu ewch i'r dwyrain am lwybr sy’n mynd am yr ucheldir, i archwilio’r cefn gwlad uwchben Dyffryn Dyfi.
Machynlleth
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio yn syth o flaen yr orsaf hon. Yn syml, ewch allan o'r orsaf i gyrraedd cefnffordd yr A487 a Llwybr Arfordir Cymru. Trowch i'r dde am Aberdyfi a throwch i’r chwith tuag at y Borth ac Aberystwyth.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.