Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy

Caer i Gonwy

Cyfuniad o lwybrau hamddenol ar lan yr afon, ar draethau tywodlyd bendigedig, ac mewn trefi a phentrefi sy’n croesawu teuluoedd - ynghyd a dewis mwy egnïol ymhellach i mewn i’r tir.

 

Caer

O orsaf Caer, mae'n daith gerdded ddymunol 2.3 milltir / 3.75 cilometr ar ochr y gamlas i ddechrau (neu ddiwedd) Llwybr Arfordir Cymru.

O'r orsaf, cerddwch yn syth ymlaen ar Heol y Ddinas am ychydig gannoedd o lathenni nes i chi gyrraedd y gamlas. Cymerwch y grisiau i lawr i'r gamlas a mynd tua’r gorllewin gyda waliau dinas Caer yn cadw cwmni i chi am ran o'r llwybr. Dyma'r waliau hynaf, hiraf a'r rhai mwyaf cyflawn ym Mhrydain, ac mae rhai rhannau wedi bod yno ers 2,000 o flynyddoedd. Ar ôl; cyrraedd basn y gamlas, ewch drwy dwll yn y wal ac i lawr Stryd Catherine i dir hamdden. Oddi yma, mae arwyddbost Llwybr Arfordir Cymru yn dangos y ffordd ochr yn ochr ag afon Dyfrdwy.

 

Y Fflint

Man dechrau’r daith gerdded hon yw Castell unigryw y Fflint. I gyrraedd Castell y Fflint o’r orsaf, cerddwch 0.1 milltir / 0.2 cilomedr i lawr Castle Street. O’r fan hon gallwch fwynhau’r llwybr gwastad iawn sy’n rhedeg ar hyd glannau aber Afon Dyfrdwy, sy’n safle gwarchodedig oherwydd ei bwysigrwydd i adar a bywyd gwyllt arall.

 

Prestatyn

Mae'r daith o orsaf reilffordd Prestatyn i'r arfordir yn unigryw gan ei bod yn dilyn un o Lwybrau Cenedlaethol arall Cymru, sef Llwybr Clawdd Offa. O'r orsaf, ewch yn syth i lawr Ffordd Bastion am 0.5 milltir / 0.8 cilomedr i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru wrth Ganolfan Nova, Prestatyn.

 

Y Rhyl

Cerddwch yn syth o’r orsaf drenau am 0.3 milltir / 0.5 cilomedr i lawr Stryd Elwy, yna Stryd Bodfor, yna Heol y Frenhines i gyrraedd promenâd y Rhyl a Llwybr Arfordir Cymru. Wedi i chi gyrraedd y môr yn y Rhyl, bydd tywod euraidd yn ymestyn yn ddiddiwedd i bob cyfeiriad, p’un ai a ydych yn troi i’r dde tuag at Brestatyn neu i’r chwith tuag at Fae Colwyn.

 

Llandudno Junction

I gyrraedd y llwybr, trowch i'r chwith drwy faes parcio'r orsaf ac i'r chwith eto i Heol Conwy wrth y gylchfan fach. Ewch drwy danlwybr byr ac o dan y drosffordd cyn cymryd y grisiau neu'r ramp i ymuno â'r cob dros yr aber i Gonwy neu ar hyd yr aber drwy Ddeganwy i Landudno.

 

Conwy

Yn un o’r trefi bach mwyaf prydferth yng Nghymru, mae strydoedd cul Conwy a chastell canoloesol (gweler ein cynnig mynediad 2-am-1 i safleoedd CADW) yn cynnig cychwyn gwych i’ch taith gerdded arfordirol.

O'r orsaf (mae rhai trenau ond yn stopio yma ar gais) croeswch Sgwâr Lancaster ac ewch i lawr y Stryd Fawr am 0.2 milltir / 0.3 cilometr i'r cei tlws sy'n gartref i lynges fechan o gychod pysgota lliwgar a'r tŷ lleiaf ym Mhrydain. Trowch i'r chwith i gyfeiriad Penmaenmawr ac mae gennych ddewis o fynd â'r llwybr gwastad wrth ymyl yr arfordir neu'r llwybr mwy trawiadol - ond hefyd yn fwy heriol - ar hyd y bryniau a'r rhosydd i Lanfairfechan.

 

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.