Ceredigion

Machynlleth i Aberteifi

O dwyni tywod Ynyslas yn y gogledd i hen dref farchnad Aberteifi yn y de, mae bae mawreddog Ceredigion yn lle da i gerddwyr weld dolffiniaid a llamhidyddion, morloi a llu o adar y môr. Ewch ati i archwilio’r trefi a’r pentrefi prydferth a’r traethau trawiadol ar hyd glannau Arfordir Treftadaeth Ceredigion.

 

Machynlleth

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio yn syth o flaen yr orsaf hon. Yn syml, ewch allan o'r orsaf i gyrraedd cefnffordd yr A487 a Llwybr Arfordir Cymru. Trowch i'r dde am Aberdyfi a throwch i’r chwith tuag at y Borth ac Aberystwyth.

 

Y Borth

Dim ond tua dau gan llath yw Llwybr Arfordir Cymru o orsaf y Borth. Trowch i’r chwith wrth fynd allan o’r orsaf, i lawr Princess Street (B4353) i gyrraedd y llwybr wrth gyffordd gyda thrac ar y chwith.  Trowch i'r chwith yma i fynd am y gogledd drwy Gors Fochno a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi tuag at Fachynlleth, neu arhoswch ar y brif ffordd drwy'r Borth i fynd am y de tuag at Aberystwyth.

 

Aberystwyth

Boed a ydych yn cerdded i'r gogledd neu’r de, mae gennych ddau ddewis wrth adael gorsaf drenau Aberystwyth.

Dewis 1. Trowch i'r chwith am 0.2 milltir / 0.3 cilometr ar hyd Ffordd Alexandra yna Dan Dre (A487) i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru dros Bont Trefechan. Trowch i’r chwith i groesi'r bont ac ewch am y de tuag at Lanrhystud ac Aberaeron. Neu ewch yn syth yn eich blaen yma i weld y golygfeydd arfordirol i’r de a mynd heibio gweddillion Castell Aberystwyth, adeilad eiconig yr Hen Goleg, y pier a’r promenâd.

Dewis 2. Neu croeswch y brif ffordd wrth y goleuadau a mynd ar hyd Ffordd y Môr. Ewch yn syth yn eich blaen drwy'r dref i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ar y promenâd. Yma fe allwch droi i'r dde i fynd i fyny Craig Glais a mynd i'r gogledd tuag at y Borth, neu fe allwch droi i'r chwith i fynd am gyfeiriad y de, heibio'r pier tuag at Aberaeron.

 

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.