Archwiliwch Ynys y Barri

Gwybodaeth llwybr Ynys y Barri

Mae'r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Nells Point, Bae Whitmore a Friars Point. Mae'r llwybr yn wastad ar wahân i ddringfa gyson ar y dechrau. Mae'r golygfeydd o'r arfordir yn werth chweil. Ar ôl eich taith gerdded gallwch ddod o hyd i sawl opsiwn bwyd da ym Mae Whitmore. Mae yna opsiwn i ymestyn y daith gerdded hon.

Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.

 

Llwybr Ynys y Barri Ramblers Cymru

Barry Island route map
  1. Wrth i chi adael yr orsaf drenau, ewch i'r chwith i fyny Station Approach Road, sydd wedyn yn troi’n Breaksea Drive. Gwnewch yn siŵr eich bod yn croesi'r ffordd yn un o'r croesfannau â chyrbiau isel wrth i chi ddringo, os oes angen. Mae ein llwybr yn troi i’r dde yn y groesfan T ar ben y rhiw i ymuno â Heol Friars, lle nad oes darpariaeth symudedd. Dilynwch y palmant o gwmpas i'r dde a chroesi'r ffordd gan ddefnyddio'r man croesi â chyrb isel. Ewch yn eich blaen i'r dde i gyrraedd llwybr tarmac ar y chwith, a fydd yn mynd â chi i lawr at lwybr yr arfordir.
  2. Ewch i'r dde ar lwybr yr arfordir gan fwynhau'r golygfeydd godidog ar draws Aber Afon Hafren gyda Bae Jackson oddi tanoch a Goleudy Breakwater yn y golwg. Dilynwch y llwybr i rownd y gornel i gyrraedd Trwyn Nell lle mae adeilad y Sefydliad Arfordirol Cenedlaethol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y llwybr serth ar y chwith yn syth ar ôl yr adeilad, sy’n arwain i lawr at y llwybr gwaelod. Dyma’r unig lwybr hygyrch sy’n eich arwain o gwmpas ac i lawr i'r promenâd ym Mae Whitmore. Dilynwch y llwybr hwn wrth iddo eich arwain o amgylch Trwyn Nell gan basio adeilad Gynau Mawr y Glannau o'r Ail Ryfel Byd. Dilynwch y llwybr wrth iddo fynd i lawr yn raddol at Fae Whitmore a'r promenâd llydan.
  3. Mae toiledau cyhoeddus ar ddechrau’r promenâd, ynghyd â gorsaf aillenwi poteli dŵr. Daliwch ati i ddilyn y promenâd sy’n dilyn amlinelliad Bae Whitmore gan arwain at gaffis. Mae modd cerdded ar draws y traeth yma. Mae ein llwybr symudedd yn dilyn y promenâd i’r ochr bellaf ac yn mynd i’r dde i ymuno â’r palmant ychydig cyn yr ardal fwy lle mae caffis ac adeilad colofnog mawreddog. Ar y palmant, ewch i’r chwith i gerdded y tu ôl i’r adeilad colofnog ar lwybr gyda choed bob ochr iddo. Mae’r llwybr hwn yn agor allan i Drwyn y Brodyr yn y pen draw. Os gwnaethoch chi gerdded ar hyd y traeth, gallwch ymuno â’r un llwybr ar yr ochr bellaf drwy ddefnyddio’r ramp oddi ar y traeth.
  4. Dilynwch y llwybr yr holl ffordd i ddiwedd Trwyn y Brodyr i weld y golygfeydd anhygoel ar draws Aber Afon Hafren. Daliwch ati i fynd o gwmpas i'r dde wrth i'r llwybr droi a dilyn y llwybr yn ôl i'r promenâd. Mae opsiwn yma i ymestyn eich taith - Wrth i’r llwybr fynd yn ei ôl, ewch ar y llwybr tarmac i’r chwith gyferbyn â’r ramp i lawr i’r traeth. Mae’r llwybr hwn yn eich arwain o gwmpas i Harbwr y Barri ac i faes parcio. Ewch ar draws y maes parcio i gyrraedd y ffordd. Ewch i'r dde yma ac yna i'r chwith yn syth ar ôl i chi fynd o dan bont y rheilffordd i fynd yn ôl i’r orsaf. Mae’r adran hon yn ystyriol o symudedd hefyd.
  5. Mae ein llwybr yn mynd â chi’n ôl i Fae Whitmore lle mae digon o gaffis ar gael. Ar ôl i chi fwynhau’r caffis a’r arcedau, dilynwch yr ardal i gerddwyr yn unig i fyny oddi wrth y promenâd i gyrraedd Station Approach Road. Defnyddiwch y man croesi â chyrb isel ac yna ewch i'r dde i fynd yn ôl i’r orsaf drenau.

Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX

Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau

 

Cyrraedd

Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.