Archwiliwch Aberystwyth

Gwybodaeth llwybr Aberystwyth

Mae’r llwybr hwn yn cynnwys rhywfaint o gerdded ar hyd yr arfordir a glan yr afon yn ardal traeth y de yn Aberystwyth. Gellid ymestyn y daith i gynnwys bryngaer Pendinas.

Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.

 

Llwybr Aberystwyth Ramblers Cymru

Aberystwyth route map
  1. Gadewch yr orsaf a throi i’r chwith ar hyd yr A487. Wrth y gylchfan fach, trowch i'r chwith ar hyd Coedlan y Parc. Ewch heibio Marks and Spencer a Tesco. Cymerwch y troad cyntaf i'r dde ar ôl Matalan (Stryd Cae Glas). Trowch i’r chwith yn y pen draw, ac yna i’r dde gan ddefnyddio’r bont droed i groesi’r afon. Ewch yn syth ymlaen ar ôl mynd dros y bont (Arwydd llwybr beicio 81) Pan fyddwch yn cwrdd â ffordd Penparcau, croeswch drosodd a dilyn Pen yr Angor. Ewch ymlaen yr holl ffordd at y traeth.
  2. Cerddwch ar hyd y llwybr wrth ben y traeth gan gadw afon Ystwyth ar y chwith i chi a'r traeth ar y dde i chi. Dilynwch yr afon a'r llwybr tua’r chwith a mynd draw oddi wrth y traeth, gan gadw’r afon ar y chwith i chi. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr ar hyd ymyl yr afon gyda'r tir fferm ar y dde i chi. Mae’r llwybr yn dolennu gyda'r afon ac yn gwyro'n gyson i’r dde. Yn y pen draw, fe ddewch drwy gât i gerddwyr sy’n arwain at ffordd.
  3. Trowch i'r chwith ar y ffordd, cofiwch beidio â mynd ar y trac yma. Parhewch i ddilyn y ffordd am ychydig, a throi i'r chwith wrth y fforch tuag at Blas Tanybwlch.
  4. Ewch yn eich blaen ar hyd y lôn nes i chi ddod at arwyddbost a mynd i'r dde at lwybr troed. Dilynwch y llwybr troed nes i chi gyrraedd yr arfordir a thraeth Tan y Bwlch. Ewch drwy’r gât a mynd ar y traeth. Yna, trowch i’r chwith a gwneud eich ffordd yn ôl ar draws y traeth.
  5. Dychwelwch yr un ffordd o’r traeth at yr orsaf.

Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX

Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau

 

Cyrraedd

Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.