Go Jauntly x TfW | Walking routes Wales

Y 12 taith gerdded orau heb gar yng Nghymru

Mae'r haf ar y gorwel ac rydym ar ein ffordd i Gymru. Darganfyddwch lwybrau di-gar yng Nghymru gyda Go Jauntly. Anghofiwch y tagfeydd traffig a'r meysydd parcio gorlawn, beth am adael y car gartref a dechrau antur gyda'n gilydd o’r Cledrau i’r Llwybrau: cyrhaeddwch ar drên, crwydrwch ar droed.

Mae rhwydwaith gwych Trafnidiaeth Cymru yn cynnig y porth i filoedd o lwybrau cenedlaethol a llwybrau cerdded hunan-dywys na ddylid eu colli ledled y genedl. Paciwch eich bagiau a neidiwch ar un o'u trenau i fynd yn syth o'r cledrau i'r llwybrau cerdded gyda'r ap Go Jauntly.

O’r cledrau i’r llwybrau

 

Ble fyddwch chi'n dechrau? Dyma rai o'n hoff lwybrau cerdded:

Rhyfeddodau arfordirol

Portmeirion

Archwiliwch 4 taith gerdded ar hyd arfordir hardd Cymru gan ymweld â chestyll, twyni tywod, traethau godidog Cymru a phensaernïaeth ysblennydd.

Bae Colwyn i Gapel St Trillo, Conwy

Mae'r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o Fae Colwyn i Gapel Sant Trillo yn Llandrillo-yn-Rhos. Mae'n cynnig golygfeydd glan môr godidog yr holl ffordd.

https://walks.gojauntly.com/walks/colwyn-bay-to-st-trillos-chapel-11152272278560248301

Porthmadog i Bortmeirion Hudolus, Gwynedd

Cerddwch ochr yn ochr â'r trên stêm gyda golygfeydd o’r Wyddfa, yna dringwch drwy goetiroedd a gorffen yn nhref odidog Portmeirion.

https://walks.gojauntly.com/walks/porthmadog-to-gorgeous-portmeirion-11544376035530969581

Twyni Rhosneigr, Taith Traeth a Llyn, Ynys Môn

Mwynhewch ran o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn ar y daith gerdded heddychlon hon drwy dwyni a glannau llyn. Mae lluniaeth ar gael ar y ffordd.

https://walks.gojauntly.com/walks/rhosneigr-dunes-beach-lake-tour-5002341284021342701

Gorsaf Dinbych-y-pysgod a thaith gerdded Waterwynch, Sir Benfro

O'r orsaf i'r môr ac yn ôl. Llawer o gerdded serth i fyny ac i lawr y bryn. Ceir golygfeydd gwerth chweil!

https://walks.gojauntly.com/walks/tenby-station-waterwynch-wander-5930703477748601326

 

Darganfyddiadau treftadaeth

Harlech

Datgelwch hanes cyfoethog Cymru ar y 4 llwybr hyn ar draws y wlad. Byddwch yn barod i ymgolli yn hanes mwyngloddio, melinau gwlân ac wrth gwrs, cestyll ysblennydd Cymru.

Castell Harlech a'r Ffordd Fwyaf Serth, Gwynedd

Ewch i fyny'r ffordd fwyaf serth i bentref perffaith Harlech. Gyda golygfeydd godidog o’r Wyddfa ynghyd â'r opsiwn i ymweld â'r castell a siopau annibynnol.

https://walks.gojauntly.com/walks/harlech-castle-the-steepest-road-11675493561674764781 

Llanrwst a Threfriw, Conwy

Cylchdaith syfrdanol yn Nyffryn Conwy. Mwynhewch olygfeydd glan yr afon, tirweddau bugeiliol, melin wlân a rhaeadr.

https://walks.gojauntly.com/walks/llanrwst-and-trefriw-on-the-conwy-9489953514120286701 

Llwybr Treftadaeth Mwyngloddio, Rhondda Cynon Taf

Mwynhewch hanes y Rhondda gydag ymweliad â'r Parc Treftadaeth, Parc Gwledig Barry Sidings, a chanol tref Pontypridd.

https://walks.gojauntly.com/walks/mining-heritage-trail-12431452267021734381

Llwybr Cylchol Gorsaf Penarlâg, Sir y Fflint

Taith gerdded i deuluoedd o amgylch Penarlâg. Mae yna sawl gris ond fel arall mae'r llwybr yn wastad. Ceir castell ac eglwys ar y ffordd, gan gynnwys rhannau oddi ar y ffordd hefyd.

https://walks.gojauntly.com/walks/hawarden-station-circular-walk-9259598265269359086

 

Anturiaethau sy'n addas i deuluoedd

Barmouth

Bydd plant wrth eu bodd â’r amrywiaeth a gynigir yn y 4 taith gerdded hyn yng Nghymru, sy’n berffaith ar gyfer teuluoedd. O’r daith ar fferi fach i’r cyfle i astudio natur, o gestyll i barciau chwarae gyda golygfeydd o lan y llyn.

Pont y Bermo a Hwyl y Fferi, Gwynedd

Ewch ar draws Afon Mawddach ar Bont y Bermo a mwynhewch dirweddau'r afon a'r arfordir ar y daith gylchol wastad hon sy’n cynnwys taith mewn cwch.

https://walks.gojauntly.com/walks/barmouth-bridge-and-ferry-fun-10300389567735206381

Cylchdaith Castell-nedd a Pharc Gwledig y Gnoll, Castell-nedd Port Talbot

Mae'r daith gerdded gylchol hon yn mynd â chi drwy ganol tref Castell-nedd i Barc Gwledig hyfryd y Gnoll. Disgwyliwch weld mannau o ddiddordeb hanesyddol a naturiol. Llwybr heb risiau yw hwn.

https://walks.gojauntly.com/walks/neath-gnoll-country-park-loop-13978635995893010926

Cylchdaith Hyfryd Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

Disgwyliwch olygfeydd godidog o Afon Tywi, taith gerdded drwy Goedwig y Castell a chyfle i weld natur yng Ngwarchodfa Natur Coed Tregib.

https://walks.gojauntly.com/walks/the-lovely-llandeilo-loop-12242629842850681326

Castell a Llwybr yr Arfordir, Sir y Fflint

Mae'r llwybr hwn yn dilyn llwybrau wyneb caled o amgylch Castell y Fflint ac ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, gyda golygfeydd ardderchog o Aber Afon Dyfrdwy.

 

Teithio’n bellach

Dolw

Ydych chi’n chwilio am deithiau cerdded hirach, mwy heriol yng Nghymru? Edrychwch ddim pellach! Bydd y 4 taith gerdded hyn yn cynnig pob dim, o olygfeydd gwych ar draws Parc Cenedlaethol Eryri (Eryri) i daith yn seiliedig ar luniau, ar hyd Llwybr Cenedlaethol godidog Clawdd Offa.

Digonedd o olygfeydd ar Daith y Waun Fawr, Wrecsam

Dyma daith gerdded gylchol anhygoel o amgylch y Waun ar hyd y ffin genedlaethol. Mwynhewch borfeydd i goetiroedd, afonydd i fryniau tonnog. Mae'n anhygoel!

https://walks.gojauntly.com/walks/views-galore-on-the-big-chirk-tour-17792265799359271406

Pen Y Benar a Chastell Dolwyddelan, Conwy

Dringfa egnïol i fyny Pen Y Benar gyda golygfeydd o'r Wyddfa, coedwigoedd, afonydd, tirweddau bugeiliol a'r castell.

https://walks.gojauntly.com/walks/pen-y-benar-and-dolwyddelan-castle-13754129699949253101

Harbwr, Traeth y De a Phen Dinas, Ceredigion

Mae'r llwybr hwn yn cynnwys taith gerdded ar hyd yr arfordir a glan yr afon o amgylch traeth deheuol Aberystwyth. Mae’r daith hefyd yn cynnwys estyniad anhygoel i fryngaer Pen Dinas.

https://walks.gojauntly.com/walks/harbour-south-beach-and-pen-dinas-16214880024430318061

Llwybr Clawdd Offa o Drefyclo, Powys

Ewch i ganolfan Clawdd Offa a'r ffin genedlaethol cyn crwydro strydoedd hyfryd Trefyclo a'r Llwybr Cenedlaethol anhygoel.

https://walks.gojauntly.com/walks/offas-dyke-path-from-knighton-108065012115771886 

 

Archebwch docynnau nawr!

Chwiliwch am fargeinion gwych a bachwch eich tocynnau yma. Gall plant 11-15 oed deithio am ddim ar drenau TrC yn ystod oriau tawel tra gall plant dan 11 oed deithio am ddim ar unrhyw adeg, a bydd angen i blant deithio gydag oedolyn sy'n talu am docyn yn y ddau achos.

Cynigion ac arbedion ar docynnau trên

 

Darganfyddwch fwy

Gyda dros 100 milltir o lwybrau cerdded ledled Cymru, mentrwch ar antur a dewiswch eich ffefryn o’r casgliad anferth hwn. Ewch ar gefn beic a cherddwch ar hyd y rhwydwaith gyda Trafnidiaeth Cymru. Trefnwch eich taith ddelfrydol, chi sydd i benderfynu ar y gyrchfan.

https://walks.gojauntly.com/collections/wales-by-trails-with-transport-for-wales-195

 

Go explore!
Ewch ati i’w archwilio!