Dysgu gartref gyda TrC

Rydym wedi datblygu pecyn addysg ar gyfer ein teithwyr ifanc sy'n dysgu o gartref. Mae'r pecyn yn cynnwys taflenni gwaith ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd, gyda thasgau ar gyfer mathemateg, Saesneg a Chymraeg. Mae pob taflen waith yn cynnwys nodiadau canllaw, sesiynau cyflwyno a gweithgaredd ar ffurf gwers sy'n mynd i'r afael â phynciau sydd yn y cwricwlwm.

Adnoddau dysgu

 

Trymps Trên

Argraffwch eich cardiau Trymps Trên eich hun a chwarae yn eich gartref gyda'ch teulu neu heriwch eich ffrindiau dros sgwrs fideo, i weld pwy sy'n gwybod fwyaf am drenau TrC.

 

Dyluniwch lliw trên eich hun

Ydych chi erioed wedi meddwl sut brofiad fyddai llunio'ch cynllun lliw eich hun ar gyfer trên - nawr gallwch chi. Lliwiwch yr amlinelliadau hyn o'n trenau a byddwch mor fentrus ag y dymunwch.

 

Dyluniwch rhwydwaith trên eich hun

Ble hoffech chi fynd ar drên - cynlluniwch eich rhwydwaith reilffyrdd eich hun.

 

Cwis

Profwch eich gwybodaeth am bopeth rheilffyrdd gyda'n cwis.

 

Neu lawrlwythwch yr holl weithgareddau mewn un pecyn.

Agorwch y gweithgareddau fel PDF.