Trefniadau mynediad i'r orsaf

Ailagor llwybr i gerddwyr ger Caerdydd Canolog

Mae adran o'r llwybr cerddwyr ar Heol Penarth sy'n gyfagos i hen faes parcio'r orsaf - a oedd wedi cau dros dro ar 5 Hydref - wedi ailagor yn gynharach na'r disgwyl.

Parhewch i ddilyn yr arwyddion wrth gyrraedd yr orsaf, gan fod y gwaith adeiladu yn parhau.
 

Map o lwybr troed yng Nghaerdydd CanologLlunDisgrifiad
Mae'r ddelwedd hon yn fap llwybr symlach sy'n dangos y llwybr i gerddwyr rhwng maes parcio aml-lawr Cei Canolog Caerdydd a mynedfa ddeheuol gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Gellir defnyddio'r maes parcio aml-lawr ar gyfer casglu a gollwng ar gyfer gorsaf Ganolog Caerdydd.Dangosir llwybr cerddwyr wedi'i farcio'n glir gyda llinell las drwchus. Mae'r llwybr yn dechrau ger y maes parcio aml-lawr, yn teithio i'r gogledd-ddwyrain o amgylch ymyl y gwaith adeiladu, yna'n troi i'r gogledd-orllewin tuag at yr orsaf. Mae'r llwybr yn osgoi'r llwybrau troed a'r ardaloedd adeiladu caeedig. Mae symbolau hygyrchedd glas ar hyd y llwybr yn dangos bod y rhodfa heb risiau ac yn hygyrch.
Mynediad i’r orsaf.
Llwybr troed ar gau.

Mae llwybrau cerdded heb risiau ac yn gwbl hygyrch.

Maes parcio aml-lawr Cei Caerdydd Canolog a man codi a gollwng yr orsaf.

Safle adeiladu.

Safle bws yn lle trên.

Map o lwybr troed yng Nghaerdydd Canolog

This image is a simplified route map showing the pedestrian route between the Cardiff Central Quay multi-storey car park and the southern entrance of Cardiff Central railway station. The multi-storey car park can be used for pick up and drop off for Cardiff Central station. A clearly marked pedestrian route is shown with a thick blue line. The route begins near the multi-storey car park, travels north-east around the edge of the construction works, then turns north-west towards the station. The route avoids the closed footpaths and construction areas. Blue accessibility symbols along the route show that the walkway is step-free and accessible.

Llun a disgrifiad

Eicon mynedfa'r orsaf
Mynediad i’r orsaf.
 

Eicon dim mynediad
Llwybr troed ar gau.
 

Eicon llwybr hygyrch
Mae llwybrau cerdded heb risiau ac yn gwbl hygyrch.
 

Eicon maes parcio
Maes parcio aml-lawr Cei Caerdydd Canolog a man codi a gollwng yr orsaf.
 

Eicon safle adeiladu
Safle adeiladu.
 

Eicon bws amnewid rheilffordd
Safle bws yn lle trên.
 

Cau'r llwybr troed dros dro wrth ymyl wal ddeheuol gorsaf Caerdydd Canolog - o 23 Medi

Bydd y llwybr troed i gerddwyr sy'n rhedeg ochr yn ochr â wal gorsaf Caerdydd Canolog i gael mynediad i'r fynedfa ddeheuol (ar ochr Heol Penarth i'r orsaf) yn cau dros dro o 23 Medi.

Byddwch yn dal i allu cael mynediad i fynedfa ddeheuol yr orsaf, dilynwch yr arwyddion cyfeiriadol a fydd ar waith a chaniatewch ddigon o amser ar gyfer eich taith. Ni fydd y cau llwybr troed hwn yn effeithio ar fynediad rhwng maes parcio aml-lawr Cei Caerdydd Canolog a'r fynedfa ddeheuol.

Mae angen cau'r llwybr troed fel y gellir gwneud gwaith paratoadol ar gyfer adeiladu giât dros dro yn ne'r orsaf. Bydd y llwybr troed yn ailagor yn ddiweddarach yn yr hydref, byddwn yn rhannu'r dyddiad a gwybodaeth bellach cyn gynted ag y bydd hyn wedi'i gadarnhau.

Bydd y man codi a gollwng i gwasanaethau bysiau yn lle trenau yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn parhau i fod wedi'i leoli yn yr arhosfan bysiau y tu allan i 3 Sgwâr Callaghan, ger cyffordd Heol Penarth a Glanfa Gamlas y Gorllewin.

Cau meysydd parcio yng ngorsaf drenau Caerdydd Canolog

Bydd maes parcio Heol Penarth ar ochr ddeheuol Gorsaf Caerdydd Canolog a maes parcio Glan yr Afon (Fish Jetty) ger platfform 0 yn yr orsaf, yn cau Ddydd Mercher 1 Gorffennaf, gan gynnwys casglu a gollwng yn y ddau leoliad.

Bydd cau'r meysydd parcio yn ein galluogi i ddechrau gwneud gwaith paratoi fel y gallwn symud ymlaen gyda dechrau ar y gwaith adeiladu ar gyfer y gwelliannau arfaethedig i orsaf Caerdydd Canolog a Chledrau Croesi Caerdydd.

Mae maes parcio ar gael gerllaw - Maes parcio aml-lawr Cei Caerdydd Canolog yn ne'r orsaf a reolir gan Network Rail a gaiff ei redeg gan APCOA ar ran Network Rail. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y maes parcio aml-lawr, siaradwch ag aelod o staff APCOA ar y safle, neu cysylltwch ag APCOA yma. Caniateir 20 munud i ollwng a chasglu am ddim ym mhob bae parcio yn y maes parcio aml-lawr (ar wahân i'r mannau ar y llawr gwaelod, sydd ar gyfer parcio cerbydau trydan a pharcio hygyrch i gerbydau trydan yn unig). Mae yna hyblygrwydd i gwsmeriaid â bathodyn anabledd dilys sydd efallai angen mwy nag 20 munud, siaradwch ag aelod o staff APCOA ar safle.

Noder, bydd y llwybr i gerddwyr rhwng y maes parcio aml-lawr a mynedfa ddeheuol yr orsaf yn hirach o'i gymharu â'r llwybr blaenorol rhwng maes parcio Heol Penarth a mynedfa ddeheuol yr orsaf.

Wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo, gall llwybrau i gerddwyr o amgylch yr orsaf newid. Dilynwch yr arwyddion cyfeiriadol, gan gynnwys y rhai rhwng y maes parcio aml-lawr a mynedfa ddeheuol yr orsaf ar Heol Penarth.

Caniatewch amser ychwanegol hefyd ar gyfer codi a gollwng, gan y bydd y llwybr i gerddwyr hefyd yn hirach. Os ydych chi'n defnyddio maes parcio Glan yr Afon (Pysgodfa) yn rheolaidd (gan gynnwys ar gyfer codi a gollwng), caniatewch amser ychwanegol i deithio i'r maes parcio aml-lawr ar ochr arall yr orsaf a pharcio ynddo.

Os oes gennych anawsterau symudedd ac wedi trefnu cymorth i deithwyr yn yr orsaf, defnyddiwch faes parcio aml-lawr Cei Caerdydd Canolog ar gyfer gollwng / codi a pharcio hygyrch. Siaradwch â chydweithiwr TrC ar ôl cyrraedd yr orsaf.

Bydd y gwasanaeth tacsis casglu a gollwng yn parhau i weithredu o safle tacsi Ffordd Saunders ar ochr ogleddol yr orsaf (ac eithrio ar ddiwrnodau digwyddiadau). Gellir defnyddio maes parcio aml-lawr Cei Caerdydd Canolog hefyd i godi a gollwng ar gyfer gwasanaethau rhannu lifft a cherbydau llogi preifat (mae’r cyfnod casglu a gollwng o 20 munud yn berthnasol).

Gwasanaethau bws yn lle trên yn newid lleoliad o ddydd Sadwrn 01 Awst

O ddydd Sadwrn 01 Awst, bydd y man casglu a gollwng ar gyfer gwasanaethau bws yn lle trên yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn symud i'r safle bws y tu allan i 3 Sgwâr Callaghan, ger cyffordd Heol Penarth a Glanfa Gorllewin y Gamlas. Bydd y lleoliad hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio ar ddiwrnodau digwyddiadau.

Dilynwch yr arwyddion gyda chyfarwyddiadau a fydd yn eich tywys rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a'r man casglu a gollwng newydd ar gyfer gwasanaethau bws yn lle trên.

Bydd llwybr heb risiau rhwng yr orsaf a lleoliad y gwasanaethau bws yn lle trên ar gael. Darperir trefniadau mynediad hygyrch hefyd i gwsmeriaid sydd eu hangen.

Bydd newid lleoliad y safle bws yn lle trên yn caniatáu i'r gwaith paratoi barhau ar gyfer y gwelliannau arfaethedig yng ngorsaf Caerdydd Canolog a'r gwaith ar Gledrau Croesi Caerdydd.

 

Rydym yn gwella gorsaf Caerdydd Canolog

Gwelliannau Canolog Caerdydd

Rydym yn gweithio ar welliannau i orsaf reilffordd brysuraf Gymru i'w gwneud yn fwy croesawgar, hygyrch a hwylus i bawb.

Er mwyn cyflawni'r newidiadau hyn, bydd yna waith adeiladu yn yr orsaf a'r cyffiniau yn ystod y blynyddoedd nesaf, a allai amharu ar eich taith.

Pe baech chi'n teithio trwy'r orsaf, cynlluniwch ymlaen llaw a chaniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith.

Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am gamau nesaf y gwaith adeiladu ac unrhyw sgil-effeithiau.

Mae ein llyfryn cymunedol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y cynllun gwelliannau a sut y byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i deithwyr, trigolion, busnesau a'r gymuned leol am unrhyw darfu.

Mae’r delweddau a’r fideos a gynhwysir yn y ddogfen hon ar gyfer rhoi syniad yn unig a gallant newid wrth i’r cynllun gael ei ddatblygu.

Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i Amey a Cityscape, sydd wedi gweithio’n agos gyda ni yn rhoi bywyd i gynllun o welliannau drwy gynhyrchu fideo rithwir.

Gyda chyllid o hyd at £140 miliwn gan Yr Adran Drafnidiaeth, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Llywodraeth Cymru, bydd y gwelliannau arfaethedig yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn darparu uwchraddiadau a gwelliannau sylweddol i’r orsaf.

Nod y cynllun gwella yw lliniaru gorlenwi a thagfeydd yn yr orsaf a chyflawni cynnydd hirdymor yn nifer y cwsmeriaid. Bydd hefyd yn gwella’r safle ei hun trwy drawsnewid cyfleusterau cwsmeriaid a chydweithwyr, gwella llif cerddwyr, a galluogi gwell hygyrchedd i’n cwsmeriaid â nam symudedd. Bydd y cynllun yn gwella edrychiad ac awyrgylch yr orsaf er lles y cwsmeriaid gan gadw hanes a threftadaeth yr adeilad ar yr un pryd.

Mae’r cynllun gwella gorsaf Caerdydd Canolog yn cyfrannu at fuddsoddiad sylweddol ehangach o drawsnewid trafnidiaeth yn ninas Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau adfywio uchelgeisiol. Caiff y gwaith trawsnewid ym Metro Canolog ei gyflawni drwy’r gynghrair Ganolog, sy’n bartneriaeth rhwng sefydliadau sector gyhoeddus wrthi’n cydweithio i drawsnewid trafnidiaeth yng nghalon Caerdydd. Bydd y gynghrair Ganolog yn gweithio ar y cyd i ddarparu newid trawsnewidiol i drafnidiaeth yng Nghaerdydd a’r rhanbarth ehangach er mwyn gwella cysylltiadau rhwng bysiau, trenau, cerdded, gyrru ar olwynion a seiclo ac i annog teithio cynaliadwy.

Canolog

 

Dathlu hanes a threftadaeth Caerdydd Canolog

Yn 2025, mae gorsaf Caerdydd Canolog yn 175 mlwydd oed, yr un flwyddyn ag yr ydym yn dathlu 200 mlynedd o’r rheilffordd. I ddathlu’r garreg filltir bwysi ghon, ry’n ni’n dathlu cefndir yr orsaf a’i hanes.

Hanes gorsaf Caerdydd Canolog