Trawsnewid Caerdydd Canolog - Y llinell amser
Mae 2025 yn nodi 175 mlynedd ers sefydlu’r orsaf reilffordd sy’n parhau i sefyll yn falch yng nghanol prifddinas Cymru, sef Caerdydd Canolog. I rai, nid gorsaf reilffordd gyffredin mohoni ond mangre llawn atgofion - lle i groesawu ac i ffarwelio...digwyddiadau unigryw ac hefyd y dechrau i deithiau beunyddiol. Nid yn unig mewn amserlenni a brics mae ei hanes wedi'i hysgrifennu , ond trwy straeon y bobl sydd wedi cerdded trwy ei drysau. Mae’n gronicl byw o dwf y ddinas, ei dyheadau, a'i gorffennol anhygoel.
Hon yw’r orsaf reilffordd fwyaf a phrysuraf yng Nghymru, felly mae Caerdydd Canolog wedi bod yn dyst i drawsnewidiadau Caerdydd o dref borthladd fach i brifddinas fetropolitan brysur. Mae pensaernïaeth yr orsaf wedi'i llunio gan gymysgedd o ddylunio dinesig rhwng y rhyfeloedd, ceinder Art Deco, ac ymarferoldeb trafnidiaeth fodern erbyn hyn - pob haen yn adlewyrchu ei rôl esblygol o fewn tapestri treftadaeth Gymreig sy'n parhau heddiw ac am genedlaethau y dyfodol.
Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn adrodd stori gorsaf Caerdydd Canolog a'i datblygiad wrth i'r gwaith ddechrau ar ei phennod newydd, nesaf.
1840au: Aeth Rheilffordd De Cymru ati i gynnal arolwg o’r ardal gyda’r bwriad o adeiladu safle yng nghanol Caerdydd, ond roedd yn ardal oedd mewn risg o lifogydd; cynigiodd ac aeth Isambard Kingdom Brunel ati i wneud gwaith llawer iawn o waith yn newid llwybr yr Afon Taf i'r gorllewin er mwyn creu safle hir, sych ar gyfer gorsaf i gyfeiriad y dwyrain-gorllewin ym 1849. Roedd yr arglawdd newydd yn gwneud y safle'n hyfyw ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer terfynfa i'r brif lein. Roedd ail-aliniad yr Afon Taf dan arweiniad Brunel yng nghanol y 19eg ganrif yn gamp beirianneg drawsnewidiol a ail-luniodd Gaerdydd am byth. Gosododd hyn y sylfaen ar gyfer ei hesblygiad o borthladd diwydiannol i brifddinas.
19 Mehefin 1850: Agor gorsaf fel "Caerdydd" Rheilffordd De Cymru, gan roi pwrpas i'r ddinas adeiladu prif orsaf ar lein newydd Caerloyw-Abertawe.
Ar ddiwedd y 19eg ganrif: Sefydlodd y gwaith eang ar y safle ôl troed yr orsaf ochr yn ochr â Chamlas Sir Forgannwg a seilwaith ymyl y doc a roeddodd siap i dwf diwydiannol Caerdydd.
1896-1924: Roedd ehangiadau fesul cam a newidiadau gweithredol yn adlewyrchu traffig cynyddol gan deithwyr a nwyddau; ailenwyd yr orsaf yn "Caerdydd Cyffredinol" yn 1924 fel rhan o ail-frandio rhwydwaith ehangach.
1931-1934: Roedd gwaith ailadeiladu mawr gan Reilffordd y Great Western yn cynnwys adeiladu'r cyntedd/ffrynt yr orsaf, cupola ac Art Deco amlwg sydd i'w gweld heddiw; roedd y gwaith a wnaeth GWR hefyd yn cynnwys newid treflun sylweddol i'r gogledd o'r orsaf. Cliriwyd yr ardal dosbarth gweithiol Temperance Town yn ystod diwedd y 1930au er mwyn gwella rhagolygon yr orsaf a ailadeiladwyd gan newid tirwedd ffisegol a chymdeithasol Caerdydd a'r ardal o amgylch yr orsaf. Mae ffasâd Art Deco eiconig Caerdydd o'r 1930au wedi'i orchuddio â cherrig Portland - calchfaen cain, golau a gloddiwyd yn unig ar Ynys Portland yn Dorset, ar Arfordir Jwrasig Lloegr. Roedd GWR yn aml yn defnyddio carreg Portland yn ei brif orsafoedd dinas, ac fe'i defnyddiwyd gan Percey Culverhouse - pensaer yr orsaf - i greu hunaniaeth bensaernïol gyson.
1939- 1945: Daeth yr Ail Ryfel Byd â chynnwrf a drama i ganol Gaerdydd. Roedd yr orsaf yn darged strategol allweddol oherwydd ei phwysigrwydd o ran symud milwyr, glo ac arfau. Yn ystod Blitz Caerdydd yn 1941, cafodd yr ardal yr orsaf ei bomio'n drwm, ond goroesodd y prif adeilad yn wyrthiol heb ei ddifrod difrifol.
Newidiadau yng Nghanol yr 20fed Ganrif: Integreiddio ac yn ddiweddarach, cau platfformau cyfagos Glanyrafon ac ailddylunio traciau a phlatfformau i weddu i batrymau traffig newidiol a mathau o gerbydau tren. Canolbwyntiodd moderneiddio wedi’r rhyfel ar wasanaethau yn hytrach nag arddull, gan addasu dyluniad ‘cragen’ Culverhouse i dechnolegau a llifiau newydd.
20 Rhagfyr 1955: Cyhoeddi Caerdydd yn swyddogol yn brifddinas Cymru.
Mai 1973: Ailenwi'r orsaf yn swyddogol i "Caerdydd Canolog" i adlewyrchu ei rôl fel y brifddinas a phrif ganolbwynt y ddinas.
1980au-1990au: Drwy ddiwedaru platfformau cynyddrannol a'r system signalau, roedd modd gwella capasiti a dibynadwyedd ar gyfer gwasanaethau rhanbarthol a rhyng-ddinas. Roedd y gwelliannau yn canolbwynio ar greu cydnerthedd gweithredol yn hytrach na gwaith ailddatblygu mawr ar gyfer y cyhoedd.
1992: Rhestrwyd yr orsaf, ei hadeiladau a'i phlatfformau yn Radd II.
2000au: Aethpwyd ati i wneud gwaith ar yr hygyrchedd, creu systemau gwybodaeth newydd i deithwyr, ac adnewyddu ardaloedd manwerthu ac aros yn bennaf er mwyn moderneiddio profiad y cwsmer ond ar y cyfan, ni wnaethpwyd prin dim gwaith diweddaru i'r prif gyntedd a'r ffrynt hanesyddol.
2010au: Integreiddio Sgwâr Canolog: Gwelodd yr orsaf well capasiti ac ymyriadau cyhoeddus, gwell cyswllt a gwell llifoedd rhwng yr orsaf a datblygiad y Sgwâr Canolog rhwng yr orsaf, y gyfnewidfa fysiau a chanol y ddinas. Mae'r gwelliannau hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer rhaglen wella fawr a chydlynol. Agorwyd y fynedfa newydd ar ochr ddeheuol yr orsaf ym mis Medi 2015, ac agorwyd y Platfform 8 newydd ar ochr ddeheuol yr orsaf ym mis Ionawr 2017.
2020-2025: Dechrau ar y gwaith o gynllunio strategol a llunio achos busnes: rhaglen o waith dylunio a busnes gyda'r nod o wneud gwelliannau trawsnewidiol i Gaerdydd Canolog, gyda phartneriaid cyllido gan gynnwys yr Adran Drafnidiaeth, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru.
4 Rhagfyr 2025: Rhaglen Gwella Caerdydd Canolog yn cael y golau gwyrdd: mae newid trawsnewidiol yn dechrau er mwyn cadw gorffennol hanesyddol yr orsaf, gan warchod ei hetifeddiaeth a chreu gorsaf sy'n bodloni anghenion cwsmeriaid, cydweithwyr a chymunedau ac sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.