Gwelliannau Caerdydd Canolog Cwestiynau Cyffredin

  • Pa welliannau eraill sydd ar y gweill yng ngorsaf Caerdydd Canolog?
    • Bydd y rhaglen waith yn gwella’r orsaf drenau drwy gynyddu capasiti, lleihau tagfeydd a thrawsnewid yr amgylchedd i deithwyr. Bydd hefyd yn gwella ardaloedd cyhoeddus a chyfnewidfeydd gyda chysylltiadau newydd i gerddwyr a beicwyr, cyfleusterau cyfnewid ar gyfer dulliau trafnidiaeth eraill (gwasanaethau bysiau, bysiau moethus, tacsis, metro lleol), hyb beiciau, cyfuno darpariaeth meysydd parcio (yn cynnwys cerbydau trydan a seilwaith digidol) a galluogi datblygiadau masnachol newydd.

      Nod y buddsoddiad cyffredinol yw creu hyb trafnidiaeth integredig sy’n gwella mynediad at ganol Caerdydd yn sylweddol, yn ogystal â sicrhau twf pellach ar draws y rhanbarth.

  • Sut bydd rhaglen waith gorsaf Caerdydd Canolog yn rhyngweithio â chynlluniau eraill sy'n cael eu cyflwyno yn yr ardal?
    • Rydym yn cydweithio â phartneriaid i drawsnewid teithio yng nghanol Caerdydd. Nod y buddsoddiad arfaethedig cyffredinol yn yr ardal yw creu canolfan drafnidiaeth integredig sy'n gwella mynediad i ganol Caerdydd yn sylweddol, yn ogystal â galluogi twf pellach ar draws y rhanbarth.

      Yng nghanol Caerdydd, mae cynlluniau'n cael eu cyflwyno gan sefydliadau partner i wella ardaloedd cyhoeddus ac ardaloedd cyfnewid drwy gynnig cysylltiadau newydd i gerddwyr a beiciau, cyfleusterau ar gyfer cyfnewid rhwng dulliau trafnidiaeth eraill (bysiau, coetsys, tacsis, gwasanaethau metro lleol), canolfan feicio, drwy gydgyfnerthu darpariaeth meysydd parcio (gan gynnwys cerbydau trydan a seilwaith digidol) a galluogi datblygiadau masnachol newydd.

  • Beth yw’r gyllideb ar gyfer y gwelliannau hyn?
    • Cytunodd y partneriaid ar gyllideb gyffredinol o £113m yn 2020.

  • Sut mae’r prosiect yn cael ei ariannu?
    • Bydd y cyllid yn cael ei ddarparu drwy gyfres o bartneriaid – yr Adran Drafnidiaeth, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

  • Pam mae angen gwario’r arian hwn?
    • Mae gorsaf Ganolog Caerdydd wedi aros yr un fath ers degawdau ac mae angen ei moderneiddio a’i huwchraddio. Gyda nifer gynyddol o deithwyr, mae’n gorlenwi’n rheolaidd, yn enwedig yn ystod oriau brig y bore a’r nos, ac mae pryderon ynghylch ei gallu i ddarparu lle diogel i deithwyr yn y dyfodol, gan amharu’n benodol ar botensial y ddinas i gynnal digwyddiadau mawr a byd-eang.

       
  • A fydd unrhyw gyfle i deithwyr gael dweud eu dweud ynghylch y gwelliannau hyn?
    • Cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu yn 2021 i geisio barn gyffredinol am yr hyn roedd pobl yn ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer yr orsaf Ganolog Caerdydd a’r ardal gyfagos, yn enwedig o ran hygyrchedd. Yn ystod gwanwyn 2023, mae TrC yn gobeithio cyflwyno cais cynllunio llawn a fydd yn darparu rhagor o gyfleoedd i randdeiliaid gyflwyno sylwadau, gan gynnwys teithwyr a’r cyhoedd yn ehangach.

  • A fydd gwelliannau i’r orsaf yn golygu unrhyw welliannau i berfformiad trenau a dibynadwyedd y gwasanaethau sy’n stopio yng ngorsaf Caerdydd Canolog?
    • Bydd prosiect gwella’r orsaf yn gwella capasiti ar blatfform 0 er mwyn galluogi trenau newydd, hirach i’w ddefnyddio, yn ogystal â gwella profiad cyffredinol teithwyr o gael mynediad at yr orsaf a’i defnyddio.

      Mae prosiectau ar wahân, i wella capasiti ar y llwybrau i mewn ac allan o orsaf Caerdydd Canolog, yn cael eu datblygu gan Network Rail a Trafnidiaeth Cymru. Nod y gwaith hwn yw cynyddu capasiti’r rheilffordd i’r orsaf, ac mae hyn wedyn yn gwella dibynadwyedd ac yn creu cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau newydd.

  • Wrth ymchwilio a datblygu eich cynlluniau, ydych chi wedi ystyried yr effaith y mae pandemig y coronafeirws wedi’i gael ar ddyfodol teithio ar reilffordd?
    • Fel rhan o’r gwaith cynllunio i nodi’r opsiwn ymarferol gorau i wella mynediad yn yr orsaf, mae ymarfer wedi cael ei gwblhau i gasglu data ar y defnydd presennol o’r orsaf (Mai 2022), gan fesur cyfnodau cymudo brig cyffredinol a ‘diwrnodau digwyddiadau’ yng Nghaerdydd, pan mae nifer yr ymwelwyr fel arfer yn codi. Bydd hyn yn sicrhau bod gwelliannau i’r orsaf yn cyfrif am newidiadau mewn patrymau teithio ac yn cael eu cyfuno â’r rhagolygon twf diweddaraf i roi achos busnes crwn ar gyfer y cynllun.

  • Sut bydd y prosiect hwn yn cyd-fynd â’r gyfnewidfa bysiau newydd gyfagos?
    • Mae tîm y prosiect sy’n darparu gwelliannau i’r orsaf yn gweithio’n agos gyda’u cydweithwyr sy’n datblygu’r gyfnewidfa bysiau i sicrhau y bydd y ddwy yn integreiddio’n ddi-dor. Bydd hyn yn cynnwys systemau gwybodaeth i gwsmeriaid modern, hawdd eu deall a dulliau ‘canfod y ffordd’ clir yn yr orsaf drenau a’r gyfnewidfa bysiau. Mae opsiynau i wella cysylltedd yn uniongyrchol yn cael eu hystyried.

  • A fyddwch chi’n gwella’r cyfleoedd ar gyfer integreiddio â mathau eraill o drafnidiaeth, yn enwedig beicio?
    • Bydd y prosiect yn gwella ardaloedd cyhoeddus a chyfnewidfeydd gyda chysylltiadau newydd i gerddwyr a beicwyr a gwaith i ddarparu gwell cyfleusterau cyfnewid ar gyfer dulliau trafnidiaeth eraill (bysiau, bysiau moethus, tacsis a gwasanaethau Metro lleol yn y dyfodol). Mae hyb beiciau newydd yn cael ei ystyried fel rhan o’r cynlluniau a fyddai’n cyfuno â’r ddarpariaeth meysydd parcio (gan gynnwys cerbydau trydan a seilwaith digidol).