
Yn Trafnidiaeth Cymru, mae gennym amrywiaeth o wasanaethau rheoli teithiau ar gael ar gyfer eich ysgol, busnes neu fenter.
Yn ein Prif Swyddfa yng nghanol de Cymru, gall ein tîm pwrpasol eich helpu i arbed arian, amser ac ymdrech, drwy gynnig siop un stop ar gyfer yr holl fuddion teithio ar drenau. Yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00, mae ein tîm wrth law i’ch helpu gydag archebion, ymholiadau neu gwestiynau.