Drwy sefydlu cyfrif am ddim gyda’n tîm rheoli teithiau, ni fydd rhaid i’ch sefydliad dalu ffioedd archebu na thaliadau cerdyn, a gallwch gael cyfrifon anfonebau.
Fel rhan o’n gwasanaethau rheoli teithiau, rydyn ni'n cynnig 2 brif ddewis i sefydliadau sy’n dymuno cael trefniadau ar gyfer teithiau i gydweithwyr:
Teithiau staff
Gall ein tîm pwrpasol drefnu tocynnau teithio ar gyfer aelodau o staff a allai fod yn teithio i gyfarfodydd neu apwyntiadau at ddibenion gwaith, a hynny gydag unrhyw gwmni rheilffyrdd ledled y Deyrnas Unedig, nid dim ond Trafnidiaeth Cymru. Felly, gallwch drefnu eich holl docynnau teithio corfforaethol drwy un tîm.
Tocynnau tymor corfforaethol
I gwmnïau sy’n gallu cynnig benthyciad di-log i staff i brynu tocynnau Tymor Blynyddol am bris gostyngol, ac sydd â chyfrif wedi ei gofrestru gyda ni, rydyn ni’n cynnig gostyngiad ar brynu tocynnau Tymor Blynyddol.
Archebu teithiau corfforaethol
Ddim yn gleient teithiau corfforaethol eto? Cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer eich sefydliad.