Mae ein tîm rheoli teithiau wedi gweithio gydag awdurdodau lleol ers blynyddoedd lawer i annog ysgolion a cholegau i brynu Tocynnau Tymor ar ran eu myfyrwyr.
Rydyn ni'n cynnig y modd i brynu tocynnau Tymor Addysgol mewn swmp, sy'n galluogi sefydliadau addysgol i gael disgownt ar bris sydd eisoes wedi ei ostwng ar docyn Tymor Blynyddol, fel ei bod yn haws o lawer i fyfyrwyr fynd yn ôl ac ymlaen i'w Hysgol neu Goleg yn ystod y tymor.
Gellir archebu ein tocynnau Tymor Addysgol naill ai ar gyfer y flwyddyn academaidd, neu ar gyfer pob tymor unigol yn unol â gofynion eich sefydliad addysgol.
Gyda thocyn Tymor Addysgol, mae myfyrwyr yn cael:
- Arbedion o hyd at 75% o’i gymharu â chost tocyn Diwrnod Unffordd Safonol i oedolion, o’i brynu drwy ein tîm rheoli teithiau
- Gall myfyrwyr deithio faint bynnag a ddymunant rhwng y ddwy orsaf o’u dewis, unrhyw ddiwrnod o’r wythnos - gan gynnwys gweithgareddau ar ôl ysgol a phenwythnosau
- Ffordd fwy gwyrdd o deithio o’i gymharu â’r car
Gostyngiadau ar docynnau Tymor Addysgol
Cyfnod tocyn tymor | Cyfyngiadau oedran | Disgownt |
Blynyddol | O dan 18 oed | 75% oddi ar gost tocyn Tymor Blynyddol |
Blynyddol | 18 oed | 25% oddi ar gost tocyn Tymor Blynyddol |
Blynyddol | Dros 18 oed | 5% oddi ar gost tocyn Tymor Blynyddol |
Bob tymor | O dan 18 oed | 55% oddi ar gost tocyn Tymor Blynyddol |
Bob tymor | Dros 18 oed | 5% oddi ar gost tocyn Tymor Blynyddol |
Rhaid i archebion gael eu rhoi gan y sefydliad addysgol a fydd hefyd yn cael cais i ymrwymo i god ymddygiad TrC (a fydd yn caniatáu i’r cynnig gael ei dynnu’n ôl mewn achosion o ddiffyg cydymffurfio neu ymddygiad gwrthgymdeithasol).
Cofrestrwch eich diddordeb isod ac fe fyddwn yn cysylltu â chi
Gallwch wneud ymholiad ynghylch archebu tocynnau trwy lenwi'r ffurflen isod a bydd ein tîm yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith.