Beth yw Tocyn Tymor?

Os ydych chi'n teithio ar y trên yn aml, mae tocynnau tymor yn ffordd wych o arbed arian. Mae gennym ni opsiynau gan gynnwys rhai wythnosol, misol a hyd yn oed yn flynyddol.

Mae yna hefyd ein tocyn Multiflex, ar gyfer 12 taith dros dri mis.

Mae tocynnau tymor yn ddelfrydol ar gyfer cymudwyr a theithwyr rheolaidd. Os gwnewch yr un daith fwy na thair gwaith yr wythnos, gallech arbed arian. Po hiraf yw tymor y tocyn, y mwyaf o arbedion fyddwch chi'n eu gwneud*. Defnyddiwch y tabl isod i ddod o hyd i'r tocyn tymor cywir i chi.

 

Beth yw'r mathau o docynnau trên tymor?

Poriwch ein tocynnau Tymor i ddod o hyd i'r ffordd berffaith o deithio isod.

Math o docyn

Multiflex

Tymor Wythnosol

Tymor Misol

Tymor Blynyddol

Y dewis gorau ar gyfer:Gallwch chi ddefnyddio tocynnau Multiflex i’r naill gyfeiriad rhwng y gorsafoedd o un pen y daith i’r llall. Mae’r tocyn yn ddilys am dri mis ar ôl ei brynu.1 wythnos o deithio 1 mis o deithioTeithio am 10 mis
Esboniad12 tocyn unffordd am bris 11. Rhaid iddynt fod yr un ddwy gyrchfan yn unig.  Prynwch docyn ar yr ap yn unig.Gallwch ddefnyddio’r tocyn unrhyw bryd dros unrhyw saith niwrnod ar ôl ei gilydd Mae tocyn misol yn ddilys am un mis calendr llawnMae tocyn blynyddol yn ddilys am flwyddyn galendr lawn, gan arbed hyd yn oed fwy na phrynu 10 neu fwy o docynnau misol
Ar gael ar Gerdyn Clyfar?✖  Nac ydy✔  Ydy✔  Ydy✔  Ydy
Rhatach na thocyn safonol?✔  Ydy*✔  Ydy✔  Ydy✔  Ydy
Ar gael gyda chynllun Tocyn Tymor corfforaethol?✖  Nac ydy✖  Nac ydy✖  Nac ydy✔  Ydy

*Ar sail cymhariaeth â Thocyn Diwrnod Dwyffordd Unrhyw Bryd. Mae 12 Tocyn Taith Unffordd Multiflex yn costio’r un faint â phum Tocyn Diwrnod Dwyffordd Unrhyw Bryd (11 taith) sy’n cael eu prynu ar ddiwrnod y daith am yr un siwrnai.

Multiflex
Y dewis gorau ar gyfer:Teithio ar yr un llwybr ychydig o weithiau dros gyfnod o 3 mis
Esboniad12 tocyn unffordd am bris 11. Rhaid iddynt fod yr un ddwy gyrchfan yn unig.  Prynwch docyn ar yr ap yn unig.
Ar gael ar Gerdyn Clyfar?✖  Nac ydy
Rhatach na thocyn safonol?✔  Ydy
Ar gael gyda chynllun Tocyn Tymor corfforaethol?✖  Nac ydy
Tymor Wythnosol
Y dewis gorau ar gyfer:1 wythnos o deithio
EsboniadGallwch ddefnyddio’r tocyn unrhyw bryd dros unrhyw saith niwrnod ar ôl ei gilydd
Ar gael ar Gerdyn Clyfar?✔  Ydy
Rhatach na thocyn safonol?✔  Ydy
Ar gael gyda chynllun Tocyn Tymor corfforaethol?✖  Nac ydy
Tymor Misol
Y dewis gorau ar gyfer:1 mis o deithio
EsboniadMae tocyn misol yn ddilys am un mis calendr llawn
Ar gael ar Gerdyn Clyfar?✔  Ydy
Rhatach na thocyn safonol?✔  Ydy
Ar gael gyda chynllun Tocyn Tymor corfforaethol?✖  Nac ydy
Tymor Blynyddol
Y dewis gorau ar gyfer:Teithio am 10 mis
EsboniadMae tocyn blynyddol yn ddilys am flwyddyn galendr lawn, gan arbed hyd yn oed fwy na phrynu 10 neu fwy o docynnau misol
Ar gael ar Gerdyn Clyfar?✔  Ydy
Rhatach na thocyn safonol?✔  Ydy
Ar gael gyda chynllun Tocyn Tymor corfforaethol?✔  Ydy

Pam prynu tocyn trên tymor?

Gall tocynnau tymor trên arbed tua 1/3 i chi ar deithio ar y trên.

Tocynnau tymor yw'r ffordd orau i deithwyr rheolaidd arbed arian, p'un a ydych chi'n cael wythnos brysur o deithiau trên neu'n teithio i'r gwaith bob dydd.

Gallwch chi wasgaru eich taliadau ar docynnau dros £30 gyda PayPal Pay. Mae hyn yn helpu i wneud eich tocynnau'n fwy fforddiadwy heb orfod gwneud un taliad mawr.

Yn fwy na hynny, gallwch deithio gan ddefnyddio'ch ffôn yn unig gyda Cherdyn Clyfar Rheilffordd TrC.

Tocynnau tymor ar eich Cerdyn Clyfar rheilffordd

Ar gyfer teithio digyswllt, gallwch gael tocyn Tymor ar eich Cerdyn Clyfar Rheilffordd TrC. Dilynwch y tri cham hawdd hyn i ddechrau:

Smartcard

Prynu

Prynwch eich Tocynnau Tymor ar ein ap neu ar ein gwefan.

Llwytho

Llwythwch eich tocynnau tymor i lawr ar eich Cerdyn Clyfar TrC drwy ei dapio ar ddarllenydd cerdyn clyfar mewn gorsaf neu drwy ddefnyddio eich ffôn clyfar.

Teithio

Rydych chi'n barod i fynd

TfW app process - Step 1Prynu

Prynwch eich Tocynnau Tymor ar ein ap neu ar ein gwefan.

 

TfW app process - Step 2Llwytho

Llwythwch eich tocynnau tymor i lawr ar eich Cerdyn Clyfar TrC drwy ei dapio ar ddarllenydd cerdyn clyfar mewn gorsaf neu drwy ddefnyddio eich ffôn clyfar.

 

TfW app process - Step 3Teithio

Rydych chi'n barod i fynd

 

Does gennych chi ddim Cerdyn Clyfar RheilfforddTrC? Cliciwch y botwm isod i gael eich cerdyn am ddim.

Archebu eich Cerdyn Clyfar

 

Faint yw tocyn tymor trên?

Mae pris eich tocyn yn dibynnu ar eich llwybr dewisol, y math o docyn a ddewiswch a pha un a ddewiswch Ddosbarth Safonol neu Ddosbarth Cyntaf.

Cynlluniwch eich taith heddiw a hidlwch i'r Tocynnau Tymor i ddod o hyd i'r opsiwn gorau i chi.

 

Sut ydw i'n prynu tocyn tymor?

Gallwch brynu tocynnau Tymor o'n gwefan, ap, peiriannau tocynnau a swyddfeydd tocynnau.

Os ydych chi'n defnyddio ein Cerdyn Clyfar i deithio, gallwch brynu ac adnewyddu eich tocyn Tymor ar ein gwefan neu ap. Ni fydd angen cerdyn llun National Rail arnoch i brynu tocynnau Tymor Cerdyn Clyfar ar gyfer ein gwasanaethau. Rydym yn gofyn i chi gario llun adnabod wrth deithio gyda ni.

Ar gyfer y rhan fwyaf o docynnau Tymor eraill, bydd angen cerdyn llun National Rail arnoch. Os byddwch yn rhoi dau lun pasbort diweddar ohonoch eich hun i ni, byddwn yn darparu un am ddim yn swyddfeydd tocynnau ein gorsafoedd.

 

Cwestiynau cyffredin am docynnau trên tymor

Sut ydw i'n archebu a llwytho fy nhocyn tymor ar fy Ngherdyn Clyfar?

Cyn y gallwch archebu eich Cerdyn Clyfar, bydd angen i chi fewngofnodi neu greu cyfrif ar ein gwefan neu ddefnyddio ein ap.

Ar ôl i chi greu cyfrif/mewngofnodi, ewch i'r adran 'Fy Nghyfrif' a dewiswch 'Rheoli Cardiau Clyfar' i archebu eich Cerdyn Clyfar TrC.

Gallwch brynu eich tocynnau Tymor yma neu ar ein ap.

Ar ôl i chi brynu eich tocynnau, gallwch eu llwytho ar eich Cerdyn Clyfar yn yr orsaf wreiddiol drwy eu tapio ar y darllenydd Cerdyn Clyfar melyn wrth y gatiau tocynnau. Fel arall, defnyddiwch ein peiriannau tocynnau, dilyswyr platfform neu swyddfeydd tocynnau.

Gallwch hefyd ddewis llwytho tocynnau ar eich Cerdyn Clyfar gan ddefnyddio ein ap. Agorwch y waled docynnau ar eich dyfais Android neu iOS, dewiswch 'Tymor' a daliwch eich Cerdyn Clyfar yn gadarn ar gefn y ddyfais Android neu flaen y ddyfais iOS.

Unwaith i chi lwytho eich Cerdyn Clyfar, rydych chi'n barod i fynd. Dysgwch ragor.

Sut alla i brynu tocyn tymor papur?

Os oes gennych chi gerdyn llun National Rail eisoes, gallwch chi brynu tocyn Tymor ar y diwrnod yn ein peiriannau tocynnau neu swyddfeydd tocynnau. Gallwch chi hefyd eu prynu cyn teithio ar ein ap neu wefan.

Noder, wrth brynu ar ein ap, efallai na fydd tocynnau tymor papur ar gael ar gyfer rhai llwybrau. Cynigir tocynnau tymor Cerdyn Clyfar fel dewis arall yn y sefyllfa hon.

Sut ydw i'n adnewyddu fy nhocyn tymor?

Gallwch adnewyddu’r rhan fwyaf o docynnau Tymor ar ein ap neu wefan hyd at 28 diwrnod cyn i’ch tocyn presennol ddod i ben* Gallwch hefyd eu hadnewyddu yn ein swyddfeydd tocynnau*.

Rhaid bod gennych gerdyn llun National Rail dilys i adnewyddu eich tocynnau Tymor papur ar ein gwefan neu ap, mewn swyddfeydd tocynnau neu beiriannau tocynnau, neu ar y trên.

Gallwch adnewyddu tocynnau misol a thocynnau Tymor 7 diwrnod gan ddefnyddio peiriannau tocynnau.*

Gallwch adnewyddu tocynnau Tymor 7 diwrnod ar rai o’n gwasanaethau, lle mae cyfleusterau manwerthu yn caniatáu*

Noder: dim ond ar ôl 12:00 y diwrnod cyn y dyddiad cychwyn ar y tocyn y gellir prynu tocyn papur 7 diwrnod.*

Sut alla i gael ad-daliad am docyn tymor?

Os ydych chi wedi prynu tocyn Tymor ac nad ydych chi eisiau ei ddefnyddio mwyach, rhaid i chi wneud cais am ad-daliad cyn gynted â phosibl naill ai drwy gysylltu â'n tîm Cymorth i Gwsmeriaid, neu drwy ymweld â'ch swyddfa docynnau agosaf.

Dim ond os prynwyd y tocyn Tymor gan TrC y byddwn yn prosesu ad-daliad. Os prynwyd eich tocyn yn rhywle arall, cysylltwch â'ch manwerthwr gwreiddiol.

Mae ad-daliad am docyn tymor yn seiliedig ar y gwahaniaeth rhwng y pris a dalwyd gennych a chost tocyn am yr amser a gedwir. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan National Rail.

Sut ydw i'n prynu tocynnau Multiflex?

Gallwch brynu tocynnau Multiflex ar ein ap neu wefan. Noder, bydd angen i chi fod wedi lawrlwytho ein ap i ddefnyddio'ch tocynnau.

Ar ein ap: Yn ein cynllunydd teithiau, nodwch fan cychwyn a chyrchfan eich taith, cliciwch ar yr eicon Multiflex a bwriwch ymlaen i'w prynu.

Ar ein gwefan: Yn ein cynllunydd teithiau, nodwch fan cychwyn a chyrchfan eich taith, cliciwch y botwm Multiflex a gwasgwch “Chwilio a Phrynu” i fwrw ymlaen i brynu. Ar ôl eu prynu, bydd y tocynnau ar gael ar ein ap.

Pryd alla i ddefnyddio fy nhocynnau Multiflex?

Mae gennych dri mis i ddefnyddio'ch tocynnau Multiflex o'r adeg y cawsant eu prynu.

Gellir gwneud y 12 taith unigol yn eich tocyn Multiflex ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y mae’n ddilys.

Os byddwch chi'n colli'ch tocyn Tymor neu os caiff ei ddwyn, rhowch wybod am hyn ar unwaith i'r manwerthwr y gwnaethoch chi ei brynu ganddo.

Beth os ydw i wedi colli fy nhocyn tymor papur neu fy Ngherdyn Clyfar?

Os byddwch chi'n colli'ch tocyn Tymor neu os caiff ei ddwyn, rhowch wybod am hyn ar unwaith i'r manwerthwr y gwnaethoch chi ei brynu ganddo.

Os na ellir cael y tocyn yn ôl, gallwch wneud cais am Docyn Tymor dyblyg os oedd y gwreiddiol yn ddilys am gyfnod o fis neu fwy. Nid ydym yn rhoi rhai newydd yn lle tocynnau Tymor 7 diwrnod coll neu wedi'u dwyn na thocynnau Tymor Hyblyg.

Mae tâl gweinyddu am docyn Tymor dyblyg.

Os ydych chi wedi colli eich Cerdyn Clyfar, bydd angen i chi archebu un newydd - byddwn yn ad-dalu unrhyw docynnau Tymor sydd arno o hyd (yn amodol ar y dilysrwydd sy'n weddill). Bydd angen i chi brynu tocyn Tymor newydd ar gyfer eich Cerdyn Clyfar newydd.

Oes cynllun tocynnau tymor corfforaethol?

Gwnewch eich taith i'r gwaith hyd yn oed yn rhatach drwy fanteisio ar ein cynllun tocynnau Tymor corfforaethol. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 08448 560 688 neu e-bostiwch tms@tfwrail.wales. Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 09:00 - 17:00.

A allaf uwchraddio o Ddosbarth Safonol i Ddosbarth Cyntaf gyda fy nhocyn Tymor?

Gallwch uwchraddio o docyn Dosbarth Safonol i Ddosbarth Cyntaf ar ein gwasanaethau, lle bo'n berthnasol. Mae hyn yn berthnasol i'n holl docynnau Safonol, gan gynnwys Tocynnau Unffordd Unrhyw Bryd ac Advance, Tocynnau Dychwelyd, Tocynnau Tymor a thocynnau Rover a Ranger.

Rhowch wybod i reolwr y trên os hoffech chi uwchraddio, gan y bydd angen iddyn nhw gadarnhau bod lle yn y Dosbarth Cyntaf. Cofiwch y bydd cost ychwanegol hefyd am unrhyw brydau bwyd rydych chi'n eu harchebu ar y trên os ydych chi wedi uwchraddio i'r Dosbarth Cyntaf.