
Teithio'n Saffach gyda thocynnau tymor ar Gerdyn Clyfar
Teithiwch yn ddigyswllt mor aml ag y dymunwch ac arbed arian gyda thocynnau Tymor wythnosol, misol a blynyddol.
- Prynwch eich tocyn tymor ar ein ap neu ar ein gwefan
- Llwythwch docynnau ar eich Cerdyn Clyfar TrC drwy ei daro ar darllenydd Cerdyn Clyfar mewn gorsaf neu ar eich ffôn clyfar.
- Rydych chi’n barod i fynd
Trefnwch eich Cerdyn Clyfar heddiw trwy greu cyfrif/mewngofnodi i’ch cyfrif cyfredol. Ar ôl creu cyfrif/mewngofnodi, gallwch reoli eich Cardiau Clyfar a chlicio i archebu Cerdyn Clyfar newydd.
Sut mae Cerdyn Clyfar yn gweithio?
1. Prynu eich tocyn
- Gallwch brynu tocynnau ar-lein, yn unrhyw un o’n peiriannau gwerthu tocynnau o 1 Ebrill 2020 ymlaen, a gallwch eu prynu yn y rhan fwyaf o swyddfeydd gwerthu tocynnau.
- Os ydych chi wedi prynu eich tocyn ar-lein drwy ein gwefan neu’r ap, dewiswch ‘Cerdyn Clyfar’ fel y dull danfon
Mae rhai Wythnosol, Misol a Blynyddol ar gael ar y llwybrau canlynol:
Llwybr |
Caerdydd* - Penarth |
Caer - Amwythig |
Caerdydd* - Rhymni |
Caerdydd* - Ynys y Barri |
Caerdydd* - Abertawe |
Caerdydd* - Aberdâr |
Caerdydd* - Treherbert |
Caerdydd* - Parcffordd Glynebwy |
Caerdydd* - Maesteg |
Caerdydd* - Bae Caerdydd |
Caerdydd* - Merthyr Tudful |
Caerdydd* - Abertawe** / Cyffordd Twnnel Hafren |
Caerdydd* - Pen-y-bont ar Ogwr (via Y Barri) |
City Line (Coryton - Radur) |
Caerdydd* - Amwythig |
Abertawe - Caerfyrddin |
Amwythig - Manchester Piccadilly |
Caerfyrddin - West Wales |
Caer - Caergybi |
Aberystwyth - Amwythig |
Lydney |
*Caerdydd Canolog a Caerdydd Heol y Frenhines
**7 Diwrnod Dosbarth Cyntaf hefyd ar gae
2. Llwytho eich tocynnau
- Os byddwch chi’n prynu o unrhyw un o’n peiriannau gwerthu tocynnau, llwythwch eich tocyn ar eich cerdyn pan fydd yn gofyn i chi wneud hynny - Dewiswch cerdyn clyfar o’r hafan a dal eich cerdyn wrth y darllenydd cardiau.
- Swyddfa Docynnau - Bydd y cerdyn clyfar yn cael ei roi ar y darllenydd a bydd y tocyn yn cael ei lwytho pan fydd y cerdyn yn cael ei ddarllen
- Bydd eich tocyn ar gael i’w lwytho ar eich cerdyn clyfar, a fydd yn rhoi mynediad i’r giât i chi
- Os bydd tocynnau tymor yn cael eu harchebu drwy'r wefan, mae modd eu llwytho ar gerdyn clyfar drwy ddefnyddio ein ap pan fyddwch chi wedi cysylltu â Wi-Fi. Sut mae llwytho cerdyn clyfar gan ddefnyddio eich ffôn
Sut mae llwytho cerdyn clyfar gan ddefnyddio'ch ffôn
1) Newid ar NFC.
2) Mewngofnodwch i Ap TrC a chlicio ar yr eicon hafan.
3) Cliciwch ar yr eicon clyfar.
4) Bydd y sgrin yn gofyn i chi ddangos eich cerdyn clyfar.
- Mae modd i docynnau tymor sy’n cael eu harchebu drwy'r wefan gael eu llwytho ar gerdyn clyfar ym man cychwyn y daith ac o'r dyfeisiau canlynol (pan fyddant ar gael)
- Gatiau - Daliwch y cerdyn clyfar wrth y darllenydd cardiau melyn
- Dilyswyr Platfform - A fydd yn cael eu gosod yn ystod 2020
3. Tapio a Mynd
- Mae eich Cerdyn Clyfar yn barod i’w ddefnyddio. Cyflwynwch eich Cerdyn Clyfar i'r darllenydd wrth gatiau'r tocynnau neu'r Dilysydd Platfform a thapiwch allan wrth y gatiau neu'r Dilysydd Platfform wrth adael yr orsaf yn eich cyrchfan, bob tro y byddwch yn teithio. Bydd angen i chi hefyd gyflwyno'ch cerdyn i'w archwilio pan ddaw'r rheolwr trên draw.
Pam Dewis Cerdyn Clyfar?
- Teithio’n Gyflymach - Gwibio drwy’r Orsaf Gallwch brynu eich tocyn yn un o’n peiriannau gwerthu tocynnau a thapio i mewn ac allan mewn gorsafoedd.
- Gwydn a dibynadwy - Cewch ffarwelio â thocynnau papur wedi’u difrodi ac oedi wrth y gatiau tocynnau. Mae popeth wedi'i lwytho ar eich Cerdyn Clyfar gwydn.
- Tawelwch meddwl - Wedi colli eich Cerdyn Clyfar? Ffoniwch ein tîm ar 03333 211 202. Gall cwsmeriaid barhau i ffonio'r rhif i ofyn am ad-daliad am docyn tymor neu Gerdyn Clyfar; fodd bynnag, ni all Traveline Cymru, JourneyCall na chanolfannau cyswllt Cysylltiadau Cwsmeriaid archebu cerdyn clyfar newydd i gwsmeriaid. Dim ond y cwsmer ei hun all wneud hynny trwy ei gyfrif.
- Treial am ddim - mae Cerdyn Clyfar TrC yn rhad ac am ddim.
Trefnwch eich Cerdyn Clyfar heddiw trwy greu cyfrif/mewngofnodi i’ch cyfrif cyfredol. Ar ôl creu cyfrif/mewngofnodi, gallwch reoli eich Cardiau Clyfar a chlicio i archebu Cerdyn Clyfar newydd.
-
Oeddech chi’n gwybod?Mae gan Gymru lawer i’w gynnigDarganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth CymruArchwiliwch ein Rhwydwaith