Rydyn ni wedi ei gwneud hi’n haws i’n cwsmeriaid byddar sy’n defnyddio BSL gyfathrebu â ni
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth â SignVideo (InterpreterNow gynt) i helpu ein cwsmeriaid byddar sy’n defnyddio BSL a’n gweithwyr rheng flaen i gyfathrebu â’i gilydd.
Ap ar gyfer ffonau symudol yw SignVideo sy’n darparu mynediad ar unwaith, 24/7, at wasanaeth dehongli ar-lein ar gyfer pobl fyddar sy’n defnyddio BSL. Mae’n helpu pobl fyddar a phobl sy’n clywed i gyfathrebu â’i gilydd.
Gall ein cwsmeriaid lawrlwytho’r ap am ddim ac arwyddo i ddehonglydd drwy’r ap drwy alwad fideo. Bydd y dehonglydd wedyn yn dweud wrth gydweithiwr TrC beth yw ymholiad y cwsmer. Wedyn, bydd y dehonglydd yn gallu cyfleu'r ateb i’r cwsmer drwy arwyddo.
Mae modd defnyddio’r ap yn unrhyw le ar draws ein rhwydwaith. O brynu tocynnau i ofyn am wybodaeth mewn gorsaf a hyd yn oed i gyfathrebu â’n goruchwylwyr ar y trên.
Mae Wi-Fi ar gael am ddim ar bron iawn pob un o’n trenau ac yn y rhan fwyaf o’n gorsafoedd bellach. Cofiwch fod angen signal Wi-Fi neu gysylltiad data symudol da ar yr ap. Gallwch lawrlwytho ap SignVideo am ddim ar Android neu iOS:
I gael rhagor o wybodaeth am SignVideo, ewch i wefan SignVideo.
Gan siarad am lansio’r ap newydd, dywedodd Robert Gravelle, y Rheolwr Hygyrchedd a Chynhwysiant:
"Rydyn ni’n falch iawn mai ni yw’r darparwr trafnidiaeth cyntaf yng Nghymru i ddarparu cymorth o’r fath i'r gymuned fyddar sy’n defnyddio BSL. Rydw i’n edrych ymlaen at weld yr ap newydd yma’n mynd â ni gam yn nes at ddarparu teithiau cwbl hygyrch i’n holl gwsmeriaid.
Dywedodd Jonathan Colligan, Datblygwr Busnes SignVideo
"Mae’r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd cynhwysiant yn y modd mae’n gweithredu yn dangos bod Cymru’n wlad sydd â diwylliant gwych a chymuned agored