
Mae’r Laniard Blodau'r Haul yn caniatáu i’r bobl sy’n ei wisgo ddangos y gallant fod ag anghenion ychwanegol sydd ddim yn amlwg yn syth.
Nid oes rhaid i gwsmeriaid ddweud wrth unrhyw un beth yw eu hanabledd ac mae ein staff wedi’u hyfforddi i adnabod y laniard ac i ddeall efallai y byddwch angen cymorth ychwanegol.
Bydd y staff yn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu eu gweld, eu hadnabod a’ch bod yn gallu mynd atynt yn hawdd er mwyn ceisio’r cymorth sydd ei angen arnoch. Mae ein staff yn cael eu hannog i fod yn rhagweithiol ac i fynd at unrhyw gwsmer sy’n gwisgo laniard blodau'r haul i gynnig cymorth.
Bydd cwsmeriaid yn gallu cael laniard blodau’r haul am ddim wedi’i bostio’n syth atyn nhw drwy gysylltu â’n tîm ar 03333 211 202 neu drwy anfon e-bost at community@tfwrail.wales.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti