Gan redeg yn gyfochrog â’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, mae'r daith drên o Gaer i Gaerdydd yn eich tywys drwy rai o'r tirweddau mwyaf hyfryd a welwch erioed.

 

Faint o amser mae’r trên o Gaer i Gaerdydd yn ei gymryd?

Mae’n cymryd tua dwy awr a hanner. Pa un ai gwaith ynteu bleser sy’n dod â chi yma, mae mynd ar y trên o Gaer i Gaerdydd yn ffordd wych o deithio. Ymlaciwch, mwynhewch ein bwyd a’n diod ar y trên, a chyrraedd yn teimlo’n braf Cadwch olwg ar ein ap hawdd ei ddefnyddio.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pam teithio o Gaer i Gaerdydd?

Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn ddinas gyfoethog, ddiwylliannol fywiog. Gyda mwy o fannau gwyrdd y pen nag unrhyw ddinas arall yn y Deyrnas Unedig, mae'n lle delfrydol i fyw ac yn gyrchfan berffaith ar gyfer diwrnod allan ar y trên, gyda digonedd o bethau i’w gwneud.

Os ydych chi’n chwilio am wefr a chyffro, mae digon i’ch difyrru. Mae Canolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd, teithiau beic traws gwlad a gwersi dringo yn hanfodol. Yn weladwy o bob rhan o Gaerdydd, mae muriau'r Castell yn esgyn tuag at ei dyredau hudolus. Drwy gydol y dydd, mae teithiau tywys yn mynd â chi o'r dwnsiynau dyfnaf i'r mannau uchaf, lle gallwch fwrw golwg dros y ddinas hyfryd, fywiog hon.

Neidiwch ar drên o Gaer i orsaf Caerdydd Canolog heddiw a mwynhewch yr hyn sydd gan y brifddinas i’w gynnig.

 

Trenau o Gaer

Trenau a thocynnau o Gaer i Fanceinion

Caer i Fangor

Caer i Birmingham

 

Trenau i orsaf Caerdydd Canolog

Abertawe i orsaf Caerdydd Canolog

Casnewydd i orsaf Caerdydd Canolog

Castell-nedd i orsaf Caerdydd Canolog