Mae cyrraedd Caerdydd o Abertawe yn hynod o hawdd wrth deithio ar y trên gyda Trafnidiaeth Cymru.
Mae ein llwybrau cyflymaf yn cymryd 50 munud yn unig, ac mae trenau’n rhedeg rhwng dydd Llun a dydd Gwener pob 20 munud oddeutu, felly mae’n ffordd gyfleus dros ben o deithio. Gyda thocynnau Advance yn ogystal ag opsiynau hyblyg fel tocynnau Unrhyw amser, gallwch naill ai eu harchebu ymlaen llaw i gael y cynigion gorau neu ei chadw hi’n hyblyg gan benderfynu ar y diwrnod.
- Hyd y daith: Tua 50 munud
- Trenau uniongyrchol: Oes
- Amlder: Tua 50 trên y dydd
- Trên cyntaf: Tua 03:45 o Abertawe
- Trên olaf: Tua 23:30 o Abertawe
- Gorsaf ymadael: Abertawe
- Gorsaf gyrraedd: Caerdydd Canolog
- Cyfleusterau: Mannau eistedd helaeth, Wi-FI am ddim ar y trên
- Arbedion: Archebwch docynnau Advance yn gynnar, defnyddiwch gerdyn rheilffordd, neu teithiwch y tu allan i oriau brig am y gwerth gorau am eich arian.
Pam teithio ar y trên o Abertawe i Gaerdydd?
P’un a ydych yn teithio i Gaerdydd ar gyfer siopa, chwaraeon neu i fwynhau’r holl gyrchfannau, ni fydd hi’n anodd llenwi’ch diwrnod â phethau i’w gwneud.
- Mwynhewch y siopa yng Nghaerdydd - Mae yna rywbeth i bawb gyda siopau ar gyfer pob steil a chyllid mewn amrywiaeth o siopau o fewn y ddinas. P’un a ydych yn chwilio am frandiau mawr, labeli, neu drysorau sy’n fwy ‘niche’ ac unigryw, mae yna rywbeth i bawb o fewn canolfan siopa Arcêd y Frenhines a’r strydoedd sy’n ei hamgylchynu.
- Mynd ar antur - Os oes yn well gennych chi antur, mae ymweliad i ‘Cardiff International White Water’ yn ffordd berffaith o dreulio’ch diwrnod. Rhowch gynnig ar rafftio dŵr gwyllt, padl fyrddio ar eich traed, cerdded ceunentydd neu caiacio, a does dim angen ichi fecso ychwaith am fod yn rhy flinedig i deithio adref, diolch i’n gwasanaeth trên.
- Mwynhewch chwaraeon o’r radd flaenaf - Os oes yn well gennych chi fwynhau chwaraeon yn y stadiwm ei hun, mae gan Gaerdydd rhywbeth i bawb. Pêl droed gyda thîm pêl Droed Dinas Caerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, rygbi gyda thîm rygbi’r undeb Caerdydd yn stadiwm enwog Parc Yr Arfau neu hyd yn oed hoci iâ yn arena iâ, ‘Vindico Arena,’ gyda thîm hoci iâ’r Cardiff Devils - bydd gymaint o ddewis gennych chi.
- Ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru - Yma ceir perfformiadau ar gyfer yr holl deulu, gan gynnwys y sioeau mwyaf enwog o’r West End, yn ogystal â sioeau llai ar gyfer teuluoedd a sesiynau crefft i blant. Mae yna rywbeth i bawb yma.
Ewch i’n canllaw pethau i'w gwneud yng Nghaerdydd i ddod o hyd i ragor o bethau gwych i’w gwneud.
-
Wi-Fi am ddim -
Pwyntiau gwefru -
Uniongyrchol
Yr argymhellion gorau ar gyfer prynu eich tocynnau trên rhwng Abertawe a Chaerdydd
Arbedwch arian ar eich taith gyda’r opsiynau canlynol:
- Tocynnau Advance* - Prynwch yn gynnar ar gyfer y prisiau gorau
- Cardiau Rheilffordd - Arbedwch hyd at dreian oddi ar eich taith nesaf
- Tocynnau Unrhyw bryd - Teithio hyblyg unrhyw adeg o’r diwrnod
- Tocynnau tymor - Gwerth gwych ar gyfer teithio rheolaidd
Beth am roi cynnig ar ein ap? Mae’n galluogi ichi weld ein holl gynigion mewn un lle ac arbed arian.
*Tocynnau Advance sydd â’r prisiau gorau a gellir defnyddio cardiau rheilffordd i’w prynu. Ni allwn sicrhau argaeledd tocynnau Advance gan fod nifer gyfyngedig ohonynt ac maent ar werth tan 18:00 cyn diwrnod eich taith yn unig. Rydym yn argymell prynu’n gynnar i osgoi unrhyw siom.
Cwestiynau cyffredin
Alla i gael trên uniongyrchol o Abertawe i Gaerdydd?
Gelli, mae yna ddigonedd o drenau uniongyrchol ar gael a fydd yn cymryd tua 50 munud o Abertawe i Gaerdydd.
Pa mor rheolaidd ydy’r trenau o Abertawe i Gaerdydd?
Mae trenau tua bob 20 munud, gyda thua 50 trên ar gyfartaledd bob dydd.
Pryd ydy’r trên cyntaf o Abertawe i Gaerdydd?
Mae trenau’n dechrau o tua 03:45, yn dibynnu ar y diwrnod. Defnyddiwch y cynllunydd teithiau i ddod o hyd i’r trên ar ddiwrnod eich taith.
Am faint o’r gloch ydy’r trên olaf o Abertawe i Gaerdydd?
Bydd trenau’n rhedeg tan tua 23:30, yn dibynnu ar ddiwrnod eich taith.
Faint ydy’r trên o Abertawe i Gaerdydd yn costio?
Mae pris tocyn trên fel arfer yn dechrau o £9.50 o Abertawe i Gaerdydd.
Archebwch eich tocyn ar gyfer y trên o Abertawe i Gaerdydd yn uniongyrchol gyda TrC heddiw ar gyfer y prisiau gorau heb ffioedd bwcio.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Ymweld â Chaer Dewch i ddarganfod Visit Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-