Mae teithio o Gaerffili i brifddinas Cymru yn haws nag erioed, diolch i’n trên o Gaerffili i Gaerdydd.

Gyda’r trên cyntaf yn gadael Caerffili am 06.00 a’r trên olaf yn dychwelyd o orsaf Caerdydd Canolog am 22.30, gallwch chi deithio ar amser sy’n gyfleus i chi. Gwnewch y daith 20 munud pryd bynnag sydd fwyaf cyfleus i chi gyda’n tocynnau Unffordd Diwrnod Unrhyw Bryd.

Gan mai hon yw’r ddinas fwyaf yng Nghymru, fyddwch chi ddim yn brin o bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd. Mae cymaint o bethau ar gael i’r teulu cyfan eu mwynhau, o’r hanes a’r diwylliant i’r siopau dylunwyr.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Trenau o Gaerffili i Gaerdydd

Mae ymweld â Chaerdydd ar y trên yn ffordd wych o weld y ddinas. Gan gyrraedd mewn dim ond 20 munud, mae’n fwy cynaliadwy na gyrru ac mae’n golygu y gallwch chi osgoi’r holl draffig oriau brig ofnadwy. Beth am i chi lwytho i lawr ein ap hawdd ei ddefnyddio er mwyn i chi allu archebu tocynnau wrth i chi deithio a chael yr wybodaeth deithio ddiweddaraf. Mae gennym ni hefyd ein gwiriwr capasiti sy’n gadael i chi weld pa mor brysur yw pob gwasanaeth, ynghyd â digon o ostyngiadau ar gardiau rheilffordd er mwyn i chi allu mynd i mewn i’r ddinas.