Ein nod bob amser yw cynnig ein pris tocyn isaf ar i chi pan fyddwch chi'n prynu tocynnau trwy ein gwefan, ap, swyddfeydd tocynnau, neu beiriant gwerthu tocynnau

Byddwn yn rhoi gwybodaeth gywir, amserol a chyfredol i chi am y prisiau pan fyddwch chi’n prynu i’ch helpu i ddod o hyd i’n prisiau rhataf.

Os byddwch chi’n dod i wybod y gallech chi fod wedi prynu tocyn rhatach am yr un siwrne, bydd gennych chi hawl i gael ad-daliad am y gwahaniaeth rhwng y prisiau cyn pen 28 diwrnod i ddyddiad y daith ar eich tocyn. Cysylltwch â’n hadran Cysylltiadau Cwsmeriaid ni drwy anfon e-bost neu ffurflen ar y we gan nodi’r wybodaeth berthnasol.

 

Ydych chi’n defnyddio talu wrth fynd?

Mae ein gwarant o’r pris tocyn isaf sydd ar gael yn berthnasol i’r tocynnau a brynwyd ar ein gwefan neu ap, neu mewn swyddfeydd tocynnau neu beiriannau tocynnau. Nid yw’n berthnasol i deithiau talu wrth fynd.

Mae gan y rhain strwythur prisio ar wahân er mwyn sicrhau y byddwn yn dod o hyd i’r tocyn cyfwerth a thocyn ‘unrhyw bryd’ ar gyfer eich taith.

Os ydych yn credu bod pris eich tocyn talu wrth fynd yn anghywir, cysylltwch â ni a byddwn yn edrych i mewn i’r mater.