Dyma amlinelliad o’n polisiau ar gyfer Cyfryngau Cymdeithadol TrC.

X: @tfwrail (Gwasanaeth Cwsmer) X: @transport_wales
Whatsapp: 07790 952 507 Facebook
Instagram: @transport_wales Linkedin
YouTube  

 

Mae ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro rhwng 07-00 a 20:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 08:00 a 20:00 ar ddydd Sadwrn, a rhwng 11:00 a 20:00 ddydd Sul. Gallwch ofyn cwestiwn i ni, rhoi adborth ar ein gwasanaeth, awgrymu gwelliannau, cael gwybodaeth am sut mae ein trenau’n rhedeg, a darllen gwybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

 

Rydym yn adolygu’r polisïau hyn o bryd i’w gilydd.

Cofiwch edrych ar y dudalen hon bob hyn a hyn i sicrhau eich bod chi’n ymwybodol o unrhyw newidiadau.

 

Rheolau

Rydym yn awyddus i annog sgyrsiau gonest sydd hefyd yn gwrtais ac yn barchus ar gyfryngau cymdeithasol. Er mwyn helpu i sicrhau hyn, cofiwch y canlynol:

  • Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth gwahaniaethol, hiliol, difrifol, anweddus, ymfflamychol nac anghyfreithlon
  • Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth difenwol am unigolyn na sefydliad arall
  • Dylech osgoi siarad am achosion llys agored ac ymchwiliadau’r heddlu
  • Peidiwch â defnyddio deunyddiau hawlfraint heb ganiatâd y perchennog
  • Peidiwch â defnyddio’r fforwm hwn i hunanhyrwyddo nac i gael budd masnachol

I gynnal amgylchedd diogel a chroesawgar i bobl eraill, gofynnwn i’n ddefnyddwyr roi’r gorau i anfon negeseuon neu sylwadau sy’n torri’r rheolau hyn, neu ddileu neu roi gwybod am rai sy’n gwneud hynny. Byddwn yn rhoi gwybod am batrymau o weithgarwch sy’n aflonyddu ar bobl, neu’n rhwystro neu wahardd defnyddwyr pan fydd lle i dybio bod angen.

Mae ‘riportio’ yn golygu, os byddwn yn credu bod postiad (neges unigol neu sgwrs), neges uniongyrchol neu gyfrif yn ymosodol neu’n niweidiol - nail ai i’n cydweithwyr neu i eraill a allai weld y cynnwys neu’r cyfrif - byddwn yn ei rwystro gan ddefnyddio trefn ‘riportio’ y sianel cyfryngau cymdeithasol berthnasol.

Os ydym ni’n credu bod y postiad, neges uniongyrchol neu gyfrif yn dreisgar neu’n fygythiol, efallai y byddwn hefyd yn riportio’r mater i’r heddlu.

Os caiff cyfrifon eu blocio oherwydd eu bod wedi torri ein polisi cyfryngau cymdeithasol, ni allwn nhw apelio yn erbyn y penderfyniad. Cofiwch y gall hyn effeithio ar eich gallu i gael gafael ar wybodaeth fyw am ein gwasanaeth rheilffyrdd neu dderbyn diweddariadau uniongyrchol am statws eich taith gan ein tîm cyfryngau cymdeithasol.

 

Gwnewch gyfryngau cymdeithasol yn llefydd braf i fod:

  • Ceisiwch fod yn deg, yn onest ac yn gywir
  • Parchwch farn ac enw da pobl eraill
  • Peidiwch â phostio lluniau o staff heb eu cydsyniad
  • Byddwch yn garedig wrth dynnu sylw at gamgymeriad neu gamddehongliad rhywun arall
  • Peidiwch ag anfon sbam i bobl eraill - mae’n ei gwneud hi’n anodd cael sgwrs go iawn
  • Cofiwch fod ein negeseuon yn cael eu hysgrifennu gan ein staff, sy’n bobl go iawn.

Mae ein rheolau yn berthnasol i holl sianeli cyfryngau cymdeithasol Trafnidiaeth Cymru.

 

Polisi X

Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i gyfrifon swyddogol X Trafnidiaeth Cymru @tfwrail a @transport_wales

Rydym yn monitro ein cyfrifon X yn ystod oriau gweithredol ond nid ydym yn gallu ymateb i’r holl negeseuon X yn unigol. Rydym yn ceisio ateb yr holl gwestiynau perthnasol a phriodol sy’n cael eu hanelu at ein ffrwd.

I roi gwybod am drosedd ar y rheilffordd, cysylltwch â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 0800 405 040 neu tecstiwch 61016

Beth i’w ddisgwyl

Os ydych chi’n ein dilyn ni, yn ystod ein hamseroedd agor gallwch ddisgwyl cynnwys sy’n ymwneud a’r wybodaeth isod, neu a rhywfaint ohoni:

  • Gwybodaeth fyw am deithio, gan gynnwys yr holl wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a all effeithio ar eich taith neu ar y systemau trafnidiaeth yn ehangach.
  • Gwybodaeth am deithio neu dagfeydd, newyddion, negeseuon diogelwch, dolenni i ragor o wybodaeth a dolenni i adnodau ar-lein sy’n ymwneud a thrafnidiaeth.
  • Gwahoddiadau I roi adborth ar faterion penodol
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf yn ystod digwyddiadau tyngedfennol - dylech ddefnyddio ein gwefan fel eich ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth yn ystod argyfwng
  • Newyddion a gwybodaeth sy’n ymwneud a thrafnidiaeth a theithio ar draws ein rhwydwaith ac yn ehangach.
  • Deunyddiau hyrwyddo sy’n ymwneud a’n prisiau a’n teithiau

Ein polisi sylwadau

Rydym yn awyddus i annog sgyrsiau gonest a di-flewyn-ar-dafod sydd hefyd yn gwrtais ac yn barchus ar X. Gallwch ein helpu i sicrhau hynny drwy ddilyn ein rheolau.

@Ymatebion a negeseon uniongyrchol

Rydym yn croesawu adborth a syniadau gan ein holl ddilynwyr ac yn ymuno yn y sgwrs pan fyddwn yn gallu cyfrannu rhywbeth defnyddiol. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu ateb yn unigol i’r holl negeseuon rydym yn eu cael ar X.

Mae’r tîm yn darllen yr holl @ymatebion a’r Negeseuon Uniongyrchol, gan sicrhau bod unrhyw themâu newydd neu awgrymiadau defnyddiol yn cael eu trosglwyddo i’r bobl berthnasol.

Nid ydym yn cydnabod X fel fforwm ar gyfer gwneud cwynion ffurfiol, ond rydym yn monitro adborth sy’n dod drwy’r dull hwn fel ffordd o hybu gwelliant parhaus. Os ydych chi’n gwneud cwyn drwy X, byddwch yn cael cyfarwyddyd i wneud cwyn ffurfiol drwy ein ffonio neu drwy ysgrifennu atom. Mae’r holl wybodaeth am sut mae cysylltu â ni i wneud cyn ar gael ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’.

Mae ein staff yn bwysig i ni ac rydym yn gwneud pob ymdrech i barchu eu preifatrwydd. Felly, ni fyddwn yn trafod cwynion am staff ar gyfryngau cymdeithasol. Os hoffech chi roi adborth ar unrhyw aelod o’n staff, cysylltwch â’r tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Byddwn yn ymchwilio i bob cwyn yn briodol a bydd ymateb yn cael ei anfon atoch chi ar ôl i’r broses ddod i ben.

Argaeledd

Rydym yn monitro ein cyfrifon X yn ystod oriau gweithredol, a nodi'r ym mhroffil y cyfrif.

Weithiau ni fydd X ar gael, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros ddiffyg gwasanaeth oherwydd cyfnodau segur ar X.

 

Polisi Facebook

Mae’r rheolau a’r polisi hwn yn berthnasol i dudalen Facebook Trafnidiaeth Cymru yn https://www.facebook.com/TfWTrafnidiaethCymru

Byddwn yn gwirio ac yn monitro Facebook yn ystod oriau gweithredol ac yn ceisio ateb yr holl gwestiynau perthnasol a phriodol sydd wedi’u hanelu at ein ffrwd.

Mae Facebook yn ffordd wych o roi gwybod i chi am gynigion a diweddariadau. Fodd bynnag, nid ydym yn cydnabod y llwyfan fel fforwm ar gyfer gwneud cwynion ffurfiol, er ein bod ni’n monitro adborth a ddaw i law drwy’r dull hwn er mwyn hybu gwelliant. Os ydych chi’n gwneud cwyn drwy Facebook, byddwn yn cael cyfarwyddyd i wneud cwyn ffurfiol drwy ein ffonio neu drwy ysgrifennu atom. Mae’r holl wybodaeth am sut mae cysylltu â ni i wneud cwyn ar gael ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’

Sylwadau a negesuon

Rydym yn croesawu adborth a syniadau gan ein dilynwyr i gyd a byddwn yn ymuno a’r sgwrs pan fydd modd i ni gyfrannu mewn ffordd ddefnyddiol. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu ateb yn unigol i’r holl negeseuon rydym yn eu cael ar Facebook.

Mae’r tîm yn darllen yr holl negeseuon ac mae’n sicrhau bod unrhyw themâu newydd neu awgrymiadau defnyddiol yn cael eu trosglwyddo i’r adran berthnasol.

Cadwn yr hawl i ddileu negeseuon anghywir, difenwol neu sarhaus, gan benderfynu ar hynny yn ôl ein disgresiwn.

 

Polisi Instagram

Mae’r rheolau a’r polisi hwn yn berthnasol i dudalen Instagram Trafnidiaeth Cymru @transport_wales

Beth i’w ddisgwyl

  • Lluniau
  • Reels
  • Fideos
  • Storiâu
  • Cynnwys dylanwadwyr
  • Cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr

Rydyn ni’n defnyddio’r sianel hon i ymgysylltu a’n dilynwyr a hefyd wrth ein bodd yn rhannu eich cynnwys, os hoffech chi gael eich cynnwys yna tagiwch ni gan ddefnyddio #TrafnidiaethCymru

Nid ydym yn defnyddio’r sianel hon i ddarparu gwasanaeth cwsmer byw, os ydych chu’n chwilio am gymorth gyda’ch taith yna cysylltwch â ni ar Whatsapp neu X.

Os ydych am wneud cwyn ewch i https://trc.cymru/cymorth-a-chysylltu/rheilffordd/cwyn

 

Polisi Linkedin

Mae’r rheolau a’r polisi hwn yn berthnasol i dudalen Linkedin Trafnidiaeth Cymru https://linkedin.com/company/transport-for-wales

Beth i’w ddisgwyl

  • Cyfleoedd Gwaith gyda TrC
  • Newyddion gan Drafnidiaeth Cymru, gan gynnwys cerrig filltir prosiectau a diweddariadau ar yr effaith gadarnhaol y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei chael ar gymunedau ardraws rhwydwaith Cymru a’r Gororau
  • Dathliad o ddiwylliant TrC a chyflawniadau ein partneriaid.

Nid ydym yn defnyddio’r sianel yma i ddarparu gwasanaeth cwsmer byw a byddwn yn ymuno a’r sgwrs pan fydd modd i ni gyfrannu mewn ffordd ddefnyddiol. Os ydych am gymorth a’ch taith yna cysylltwch â ni ar Whatsapp neu X.

Nid ydym yn cydnabod y dudalen fel fforwm ar gyfer gwneud cwynion. Mae gwybodaeth am sut i gysylltu â gwneud cwyn ar gael ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’

 

Polisi Youtube

Mae’r rheolau a’r polisi hwn yn berthnasol i dudalen Youtube Trafnidiaeth Cymru https://www.youtube.com/channel/UClz-0qCZXUzN40XUuw6545Q

Beth i’w ddisgwyl

  • Llyfrgell o holl fideos TrC sydd wedi’i ddosbarthu ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol

Nid ydym yn defnyddio’r sianel hon i ddarparu gwasanaeth cwsmer byw, os ydych chi’n chwilio am gymorth teithio, yna cysylltwch â ni ar Whatsapp neu X.