Angen ychydig o gymorth?

Ydych chi'n ystyried rhoi cynnig ar dalu wrth fynd? Ydych chi eisoes yn defnyddio talu wrth fynd ac angen ychydig o gymorth? Rydych chi wedi dod i'r lle iawn.

 

Wedi gwirio ein cwestiynau cyffredin?

Mae ein cwestiynau cyffredin yn cynnwys llawer o wybodaeth gan gynnwys:

  • Sut mae talu wrth fynd yn gweithio
  • Sut i dapio i mewn a thapio allan
  • Sut i greu cyfrif talu wrth fynd
  • Sut i olrhain eich taliadau talu wrth fynd
  • Sut mae taliadau cosb a thaliadau am deithiau anghyflawn yn gweithio
  • Beth i'w wneud os oes problem

Bwriwch olwg ar ein Cwestiynau Cyffredin yma

 

Canllaw defnyddwyr talu wrth fynd

Bwriwch olwg ar ein canllaw defnyddwyr talu wrth fynd am ganllawiau cam wrth gam defnyddiol ar sut i ddefnyddio talu wrth fynd.

 

Telerau ac amodau

Gweler y telerau ac amodau sy'n berthnasol pan fyddwch chi'n defnyddio talu wrth fynd gyda Trafnidiaeth Cymru.

 

Cysylltwch â ni

Gallwn ni gynorthwyo gydag ymholiadau talu wrth fynd syml. Ar gyfer rhai ymholiadau, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif talu wrth fynd cyn y gallwn ni ddarparu cymorth.

Os ydych chi wedi cofrestru

Llenwch y ffurflen isod a chliciwch nesaf.

Ymddiheuriadau, nid yw ein ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd.

Os am anfon cwyn, ymholiad neu adborth cadarnhaol, anfonwch e-bost atom: customer.relations@tfwrail.wales.
 

Mae angen cynnwys y wybodaeth ganlynol i’n helpu ni ymateb cyn gynted â phosibl:

  • Dyddiad eich taith.
  • Yr amser roedd eich trên yn fod i gychwyn.
  • Yr orsaf roeddech chi’n teithio ohoni a'r orsaf roeddech chi’n teithio iddi
  • Os oedd eich trên yn hwyr, pa mor hwyr oeddech chi’n cyrraedd yr orsaf roeddech chi’n teithio iddi?
  • Rhowch gopi o'r tocynnau trên ar gyfer y daith. Os nad yw'r tocynnau gennych chi mwyach, gallwn dderbyn cadarnhad o’ch archeb.
  • Dywedwch wrthym sut hoffech i ni dalu unrhyw iawndal sy’n ddyledus i chi. Gallwn gynnig iawndal ar ffurf talebau teithio National Rail, trosglwyddiad banc (BACS). Os byddwn yn cynnig iawndal fel arwydd o ewyllys da, byddwn yn gwneud hynny ar ffurf talebau teithio National Rail fel arfer.

Ffoniwch ni ar 03333 211 202. Dewiswch eich dewis iaith yna gwrandewch am yr opsiwn talu wrth fynd.

Cysylltwch â ni ar Facebook Messenger neu WhatsApp.

Os nad ydych chi wedi cofrestru

Ffoniwch ni ar 03333 211 202. Dewiswch eich dewis iaith yna gwrandewch am yr opsiwn talu wrth fynd.

Byddwn yn eich tywys trwy borth diogel lle bydd angen i chi ddarparu manylion eich cerdyn. Mae hyn yn ein galluogi i weld eich teithiau sy'n gysylltiedig â'r dull talu hwnnw.