Yn awr, gallwch dapio i mewn a thapio allan ym mwy o orsafoedd yng ngogledd Cymru. Edrychwch le gallwch chi ddefnyddio talu wrth fynd fan hyn.
Talwch lai i deithio yng Ngogledd Cymru
Mae talu wrth fynd yn gwneud teithio ar y trên yng Ngogledd Cymru yn gyflym, yn syml ac yn fforddiadwy. Dyma sut mae'n gweithio:
- Tapiwch i mewn ar ddechrau eich taith gyda cherdyn neu ddyfais dalu digyswllt.
- Tapiwch allan yn eich cyrchfan gan ddefnyddio'r un cerdyn neu ddyfais.
- Talwch y pris cyfatebol gorau am eich taith.
Yn barod i ddechrau teithio am lai o arian yng Ngogledd Cymru?
Bwriwch olwg ar faint y gallech chi ei arbed
Ble alla i ddefnyddio talu wrth fynd yng Ngogledd Cymru?
- Mae talu wrth fynd ar gael ar hyn o bryd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.
Gweler y map yma
- Ni ellir ei ddefnyddio i deithio y tu allan i'n hardal talu wrth fynd yng Ngogledd Cymru.
- Ni ellir ei ddefnyddio i deithio i ardal talu wrth fynd De Cymru.
- Ar hyn o bryd mae'n ddilys ar wasanaethau TrC yn unig.
Gweld pob lleoliad
Gellir defnyddio talu wrth fynd yn y gorsafoedd canlynol:
| Bidston | Y Waun | Penarlâg | Neston | Dwyrain Runcorn |
| Bwcle | Y Fflint | Pont Penarlâg | Pen-y-ffordd | Shotton |
| Caergwrle | Frodsham | Helsby | Prestatyn | Upton |
| Cefn-y-Bedd | Gobowen | Heswall | Y Rhyl | Wrecsam Canolog |
| Caer | Gwersyllt | Yr Hôb | Rhiwabon | Wrecsam Cyffredinol |
Gellir defnyddio talu wrth fynd yn y gorsafoedd canlynol:
Bidston
Bwcle
Caergwrle
Cefn-y-Bedd
Caer
Y Waun
Y Fflint
Frodsham
Gobowen
Gwersyllt
Penarlâg
Pont Penarlâg
Helsby
Heswall
Yr Hôb
Neston
Pen-y-ffordd
Prestatyn
Y Rhyl
Rhiwabon
Dwyrain Runcorn
Shotton
Upton
Wrecsam Canolog
Wrecsam Cyffredinol
Telerau ac amodau
Gweler y telerau ac amodau sy'n berthnasol pan fyddwch chi'n defnyddio talu wrth fynd gyda Trafnidiaeth Cymru.