Cwestiynau cyffredin

Ynglŷn â thalu wrth fynd

Sut mae talu wrth fynd yn gweithio?

Defnyddiwch gerdyn digyswllt  Europay, Mastercard neu Visa i dapio i mewn ar ddechrau eich taith a thapio allan yn eich cyrchfan.

Gallwch hefyd ddefnyddio dyfais glyfar fel eich ffôn neu oriawr glyfar.

Ni ellir defnyddio cardiau American Express, Maestro na Chase corfforol.

Bydd angen i chi ddefnyddio'r un cerdyn neu ddyfais i dapio i mewn ac allan.

Byddwn yn cyfrifo eich taith ac yn codi'r pris rhataf posibl arnoch yn awtomatig.

Pa orsafoedd alla i ddefnyddio talu wrth fynd ynddynt?

Ar hyn o bryd, gorsafoedd ar ein rhwydwaith Metro De Cymru. Gweler ble gallwch deithio gyda thalu wrth fynd ar y map hwn.

Rydym yn ehangu talu wrth fynd i rannau o ogledd Cymru yn 2026.

Ar ba drenau alla i ddefnyddio talu wrth fynd?

Gwasanaethau TrC a CrossCountry ar draws ein rhwydwaith Metro De Cymru yn unig. Gweler ble gallwch deithio gyda thalu wrth fynd ar y map hwn.

Nid yw'n ddilys ar wasanaethau Great Western Railway.

A oes cyfyngiadau ar ddefnyddio talu wrth fynd?

Ni ellir defnyddio talu wrth fynd:

  • ar wasanaethau Great Western Railway
  • gyda Cherdyn Rheilffordd
  • i brynu tocynnau Dwyffordd (mae angen i chi dapio i mewn / allan o hyd ar eich taith yn ôl)
  • i brynu tocynnau Dosbarth Cyntaf
  • i brynu tocynnau Grŵp
  • i brynu tocynnau Teulu
  • i brynu tocynnau Oriau Brig neu docynnau y Tu Allan i Oriau Brig (gallwch deithio unrhyw bryd).
A allwn i arbed arian gyda thalu wrth i chi fynd?

Mae prisiau talu wrth fynd fel arfer yn rhatach na phrisiau tocynnau eraill. Maent wedi'u capio ar lefel ddyddiol ac wythnosol i roi'r gwerth gorau i chi.

I weld faint y gallech chi ei arbed, ewch i’r dudalen prisiau a chapiau talu wrth fynd.

Sut ydw i'n gweld hanes fy nheithiau a thaliadau?

Gallwch naill ai gofrestru ar gyfer cyfrif talu wrth fynd neu ddefnyddio ein porth ymwelwyr.

Byddem yn argymell cofrestru. Fe gewch chi hanes eich teithiau a'ch taliadau am y flwyddyn ddiwethaf, derbynebau teithio y gellir eu lawrlwytho a rhybuddion os byddwch yn anghofio tapio allan.

Mae ein porth ymwelwyr yn dangos hanes eich teithiau a thaliadau am y 7 diwrnod diwethaf o deithio yn unig.

I gofrestru

  • lawrlwythwch ac agorwch ap TrC
  • ewch i ‘talu wrth fynd’ yn y troedyn
  • ychwanegwch fanylion eich cerdyn digyswllt
  • lanlwythwch a chadarnhewch fanylion eich cerdyn

I ddefnyddio'r porth ymwelwyr

  • ewch i'r porth ymwelwyr yma
  • dewiswch ‘gweld hanes fy nheithiau fel ymwelydd’ ar y gwaelod
  • dilynwch y cyfarwyddiadau i lanlwytho manylion eich cerdyn

 

Yn ystod eich taith

Ble ydw i'n tapio i mewn / allan?

Tapiwch wrth y gatiau tocynnau neu ar y darllenydd cardiau melyn ar blatfformau mewn gorsafoedd llai (neu blatfform 0 yng ngorsaf Caerdydd Canolog).

Arhoswch i'r giât docynnau agor neu i'r darllenydd cardiau platfform bipio. Chwiliwch hefyd am y tic gwyrdd i ddangos bod eich taith wedi dechrau. Mae croes goch yn dangos bod eich tap wedi methu.

Gofynnwch i un o'n cydweithwyr os nad ydych chi'n siŵr ble i dapio.

Os yw'r gatiau tocynnau ar agor, bydd angen i chi dapio o hyd.

Mae angen i mi newid trenau a defnyddio platfform 0 yng Nghaerdydd Canolog

Os byddwch yn cyrraedd ar blatfformau 1-8 ac angen newid i blatfform 0:

  • tapiwch i mewn yn eich gorsaf gychwyn i ddechrau eich taith
  • tapiwch allan wrth y gatiau tocynnau yng Nghaerdydd Canolog
  • tapiwch i mewn wrth y darllenydd cardiau ar blatfform 0
  • tapiwch allan ar ddiwedd eich taith

Os byddwch yn cyrraedd platfform 0 ac angen newid i blatfformau 1-8:

  • tapiwch i mewn yn eich gorsaf gychwyn i ddechrau eich taith
  • tapiwch allan wrth y darllenydd cardiau ar blatfform 0
  • tapiwch i mewn wrth y gatiau tocynnau yng Nghaerdydd Canolog
  • tapiwch allan ar ddiwedd eich taith

Peidiwch â phoeni. Dim ond am un daith y codir tâl arnoch.

Oes angen i mi ddefnyddio'r un ddyfais i dapio i mewn ac allan?

Oes, mae angen i chi ddefnyddio'r un cerdyn banc neu ddyfais dalu i dapio i mewn ac allan er mwyn osgoi taliadau am deithiau anghyflawn.

Er enghraifft, os ydych chi'n tapio i mewn gyda cherdyn banc corfforol, rhaid i chi dapio allan gyda'r un cerdyn banc corfforol. Os ydych chi'n tapio i mewn gydag Apple Pay, rhaid i chi dapio allan gydag Apple Pay.

Byddem yn argymell defnyddio'r un cerdyn neu ddyfais drwy gydol yr wythnos, gan y bydd hyn yn rhoi'r pris rhataf posibl i chi pan fyddwch chi'n cyrraedd ein capiau prisiau dyddiol ac wythnosol.

Beth os bydd y gyrrwr yn gofyn am weld fy nhocyn?

Dywedwch wrthyn nhw eich bod chi'n defnyddio talu wrth fynd. Byddan nhw'n gofyn i chi dapio'ch cerdyn neu ddyfais talu ar eu dyfais archwilio, gan gadarnhau eich bod chi wedi tapio i mewn.

Cofiwch dapio'r un cerdyn neu ddyfais a ddefnyddiwyd gennych i dapio i mewn yn ystod yr archwiliad.

Am ba hyd y gallaf deithio ar y rhwydwaith ar ôl tapio i mewn?

Ar ôl i chi dapio i mewn, gallwch deithio mewn ardaloedd lle mae talu wrth fynd yn ddilys am hyd at 2.5 awr cyn bod angen i chi dapio allan.

Os byddwch chi'n tapio allan ar ôl y terfyn amser o 2.5 awr, bydd hyn yn ysgogi taith newydd. Gall hyn arwain at un neu fwy o daliadau am deithiau anghyflawn.

Rwyf am ddechrau / gorffen fy nhaith mewn gorsaf lle nad yw talu wrth fynd ar gael

Yn anffodus, bydd angen i chi brynu tocyn cyn teithio. Gallwch brynu un ar ein gwefan neu ap, neu o swyddfa docynnau gorsaf neu beiriant tocynnau.

Gweler ble gallwch ddefnyddio talu wrth fynd ar y map hwn.

A allaf ganslo fy nhaith ar ôl i mi dapio i mewn?

Gallwch. Gallwch chi dapio allan yn ôl yn yr un orsaf o fewn awr i dapio i mewn, gan ganslo'ch taith ac osgoi unrhyw daliadau.

Byddai tapio allan ar ôl awr yn cael ei nodi fel dwy daith anghyflawn ar wahân h.y. taith o orsaf i leoliad anhysbys a thaith o leoliad anhysbys i orsaf. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dau dâl am deithiau anghyflawn wedyn.

Beth os nad yw'r darllenydd cerdyn melyn yn gweithio?

Mae gan y rhan fwyaf o'n gorsafoedd ddau ddilysydd platfform. Os nad yw un dilysydd yn gweithio, defnyddiwch y dilysydd ar y platfform gyferbyn.

Os mai dim ond un dilysydd platfform sydd gan eich gorsaf ac nad yw'n gweithio, ni fyddwch yn gallu defnyddio talu wrth fynd i ddechrau eich taith. Prynwch docyn ar ein gwefan neu ap, neu o swyddfa docynnau neu beiriant tocynnau'r orsaf.

Os ydych chi'n dod â'ch taith i ben ac nad yw'r dilysydd platfform yn gweithio, ychwanegwch eich tap coll gan ddefnyddio ein ap neu wefan y diwrnod canlynol. Os na wnewch chi hyn, byddwch yn derbyn tâl am daith anghyflawn.

Beth os nad oes gen i signal na Wi-Fi?

Peidiwch â phoeni, gallwch chi dal dapio i mewn ac allan a gwneud taliadau gan ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

Beth os oes digwyddiad ymlaen?

Cyn y digwyddiad

Tapiwch i mewn fel arfer cyn mynd ar eich trên. Fel arfer bydd system giwio ar waith yng Nghaerdydd Canolog a bydd un o'n cydweithwyr yn gofyn i chi dapio allan ar ddyfais law.

Ar ôl y digwyddiad

Os oes system giwio ar waith, bydd ein cydweithwyr ar gael gyda dyfeisiau llaw i chi dapio i mewn. Peidiwch ag anghofio tapio allan yn eich gorsaf gyrchfan.

 

Ar ôl eich taith

Pryd fydd taliad yn cael ei gymryd am fy nhaith talu wrth fynd?

Byddwn yn gofyn am daliad gan eich banc y bore ar ôl y diwrnod y gwnaethoch deithio.

Os oes gennych dâl am daith anghyflawn, byddwn yn gohirio cymryd taliad am ddau ddiwrnod fel y gallwch ychwanegu unrhyw dapiau sydd ar goll.

A allaf ychwanegu tapiau coll ar ôl i mi deithio er mwyn osgoi taliadau ychwanegol?

Rydym yn deall bod problemau technegol yn digwydd a bod pobl weithiau'n anghofio tapio allan.

Gallwch ychwanegu tap coll ar gyfer taith anghyflawn y diwrnod ar ôl i chi deithio. Yna byddwn yn codi'r pris cywir arnoch.

Bydd gennych tan ddiwedd dydd Mercher yr wythnos ar ôl i chi deithio i ychwanegu'r tap coll. Mae wythnos yn cael ei dosbarthu fel dydd Llun-dydd Sul, felly byddai gennych 3 diwrnod i ychwanegu unrhyw dapiau coll os gwnaethoch deithio ar ddydd Sul.

Ar ôl i chi newid eich taith, bydd yn ailgyfrifo'r pris dros nos a byddwn yn ad-dalu unrhyw daliadau perthnasol o fewn 10 diwrnod.

Sylwch na allwch ychwanegu tap coll er mwyn derbyn ad-daliad ar gyfer tâl cosb (os na wnaethoch chi dapio i mewn).

Sut ydw i'n ychwanegu tapiau coll at fy nghyfrif talu wrth fynd?

Pam ydw i wedi derbyn tâl ychwanegol?

Efallai eich bod wedi derbyn:

Tâl cosb

Canfuwyd nad oeddech wedi tapio i mewn yn ystod archwiliad tocynnau ar y trên. Ni ellir ad-dalu hyn trwy ychwanegu tap coll at eich cyfrif talu wrth fynd.

Tâl am daith anghyflawn

Ni wnaethoch dapio i mewn nac allan yn ystod taith talu wrth fynd yn ddiweddar neu gwnaethoch ddefnyddio gwahanol ddyfeisiau i dapio i mewn ac allan.

Ni fydd taliadau am deithiau anghyflawn a chosbau yn cyfrif tuag at eich cap pris dyddiol / wythnosol.

Sut ydw i'n herio tâl cosb neu dâl am daith anghyflawn?

Os na allech chi dapio i mewn na thapio allan am reswm, neu os ydych chi'n meddwl eich bod wedi derbyn tâl trwy gamgymeriad, rhowch wybod i ni erbyn dydd Mercher yr wythnos ar ôl i chi deithio. Yna byddwn yn adolygu'r tâl. Os na fyddwch chi'n cysylltu â ni erbyn hynny, ni fyddwn yn gallu cywiro'ch taith

Enghraifft

Os gwnaethoch chi deithio ddydd Mawrth 20 Ionawr, bydd gennych chi tan ddydd Mercher 28 Ionawr i roi gwybod i ni. Ar ôl hyn, ni fyddwn ni’n gallu gwneud newidiadau - byddwch chi wedi talu £10 am y daith honno.

Os gwnaethoch chi deithio ddydd Sul 25 Ionawr, bydd gennych chi tan ddydd Mercher 28 Ionawr i roi gwybod i ni. Ar ôl hyn, ni fyddwn ni’n gallu gwneud newidiadau - byddwch chi wedi talu £10 am y daith honno.

A allaf hawlio Ad-daliad Oedi wrth ddefnyddio talu wrth fynd?

Gallwch, gallwch hawlio Ad-daliad am Oedi wrth ddefnyddio talu wrth fynd. Hawliwch ef os oedd eich trên wedi'i ohirio neu ei ganslo a'ch bod wedi cyrraedd eich gorsaf gyrchfan fwy na 15 munud yn hwyrach na'r disgwyl.

I’w hawlio, bydd angen i chi gofrestru eich cerdyn talu digyswllt ar eich cyfrif gan ddefnyddio ein ap neu wefan.

Os nad ydych chi wedi cofrestru eisoes, dilynwch y camau hyn:

  • agorwch ap TrC
  • ewch i dalu wrth fynd ar y gwaelod
  • ychwanegwch fanylion eich cerdyn digyswllt
  • lanlwythwch a chadarnhewch fanylion eich cerdyn

Ar ôl i chi gofrestru, dewiswch "digyswllt" fel eich math o docyn wrth gwblhau eich hawliad Ad-daliad am Oedi.

Pam nad oedd fy ngherdyn na'm dyfais talu yn gweithio?

Gall hyn fod oherwydd:

  • nid oes digon o arian yn eich cyfrif
  • mae eich cerdyn wedi cael ei riportio fel un sydd wedi’i golli neu wedi’i ddwyn
  • mae eich cerdyn wedi'i rwystro oherwydd nad ydym wedi gallu derbyn taliad
  • ceisiwyd defnyddio cerdyn American Express neu Maestro
  • nid ydych wedi actifadu cerdyn newydd eto
Sut alla i ddadflocio fy ngherdyn?

Os yw eich cerdyn wedi'i rwystro ar gyfer talu wrth deithio, bydd angen i chi glirio unrhyw ddyled heb ei thalu cyn y gellir ei ddadflocio. Dilynwch y camau hyn.

  1. Gwnewch yn siŵr bod gan eich cyfrif arian i dalu am:
  • y balans sy'n weddill
  • cost o leiaf un daith yn y dyfodol

Er enghraifft, os costiodd eich taith wedi'i blocio £5, bydd angen o leiaf £10 ar gael yn eich cyfrif.

  1. Tapiwch eich cerdyn wedi'i rwystro ar y dilysydd platfform melyn / gatiau tocynnau

Arhoswch 15 munud. Unwaith y byddwn wedi cadarnhau bod arian ar gael, bydd eich cerdyn yn cael ei ddadflocio a byddwch yn gallu defnyddio talu wrth fynd eto.

Pam mae sawl trafodiad yn fy nghyfrif ar ôl defnyddio talu wrth fynd?

Os nad oedd gennych chi ddigon o arian i deithio, efallai y byddwn ni’n cynnal gwiriad dros dro gyda’ch banc i gadarnhau bod arian ar gael nawr. Nid cais am daliad yw hwn - ni chymerir unrhyw arian ychwanegol o’ch cyfrif.

Mae'r gwiriadau hyn yn ein helpu i gadarnhau a ellir defnyddio'ch cerdyn eto ar gyfer teithio. Gall y swm a ddangosir amrywio. Gallai fod hyd at £10, neu gost y daith a achosodd y broblem. Os nad oes digon o arian o hyd, byddwn yn ailadrodd y gwiriadau nes bod y balans sy'n weddill wedi'i glirio.

Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn sylwi ar yr hyn sy'n edrych fel symiau dyblyg yn cael eu cymryd o'ch cyfrif banc. Nid taliadau ychwanegol yw'r rhain - maent yn rhan o'n proses ddilysu. Byddant yn dod i ben unwaith y bydd gan eich cyfrif arian i dalu am eich pris gwreiddiol ynghyd â byffer bach ar gyfer taith newydd.

A allaf ddefnyddio cerdyn banc Chase ar gyfer talu wrth fynd?

Peidiwch â defnyddio cerdyn Chase corfforol ar gyfer talu wrth fynd. Bydd diogelwch y cerdyn yn eich atal rhag cael mynediad at hanes eich taith neu ychwanegu tapiau coll ar-lein. Ni fydd gennym welededd o'ch teithiau, gan ein hatal rhag darparu cymorth ar-lein.

Gallwch ddefnyddio'ch cerdyn Chase o hyd trwy waled ddigidol fel Apple Pay neu Google Wallet.

Sut alla i gael help gyda rhywbeth nad yw wedi'i gynnwys yma?

Cysylltwch â ni.

Gallwn ni gynorthwyo gydag ymholiadau talu wrth fynd syml. Ar gyfer rhai ymholiadau, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif talu wrth fynd cyn y gallwn ni ddarparu cymorth.

 

Cofrestru ar gyfer cyfrif

Pam mae'n rhaid i mi gofrestru am gymorth ar gyfryngau cymdeithasol, ffurflen we, e-bost neu sgwrs fyw?

Er mwyn rhoi'r gefnogaeth orau i chi sy'n benodol i'ch gweithgaredd talu wrth fynd, mae angen i chi gofrestru am gyfrif.

Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn cofrestru ar gyfer cyfrif talu wrth fynd?

Pan fyddwch chi'n cofrestru, gallwn ni gael mynediad at hanes eich teithiau a'ch taliadau. Mae hyn yn ein helpu i ddatrys eich ymholiadau'n gyflym a darparu cymorth wedi'i deilwra.

Drwy gofrestru am gyfrif, byddwch yn datgloi buddion drwy ap TrC, gan gynnwys:

  • Hanes llawn eich teithiau a thaliadau mewn un lle cyfleus.
  • Derbynebau teithio y gallwch eu lawrlwytho'n gyflym ac yn hawdd.
  • Rhybuddion os anghofiwch dapio allan, gan eich helpu i osgoi taliadau ychwanegol.
  • Nodweddion clyfar fel cof teithiau rheolaidd, sy'n caniatáu i'r ap gwblhau eich teithiau’n awtomatig yn seiliedig ar eich patrymau teithio.
Sut ydw i'n cofrestru ar gyfer cyfrif?
  1. Lawrlwythwch ac agorwch ap TrC.
  2. Dewiswch "Talu wrth fynd" ar y gwaelod.
  3. Rhowch fanylion eich cerdyn digyswllt.
  4. Lanlwythwch wybodaeth eich cerdyn a’i chadarnhau.
Beth os nad ydw i eisiau cofrestru?

Gallwch ein ffonio ar 03333 211 202. Dewiswch eich dewis iaith, yna gwrandewch am yr opsiwn talu wrth fynd.

Byddwn yn eich tywys trwy borth diogel lle gallwch nodi manylion eich cerdyn. Yna byddwn yn gallu gweld y teithiau sy'n gysylltiedig â'r dull talu hwnnw tra byddwch ar yr alwad.

Os nad ydych chi eisiau ein ffonio ni

Gallwch gael mynediad at hanes eich teithiau a'ch taliadau ar gyfer y saith diwrnod diwethaf o deithio drwy ein porth ymwelwyr. Gellir cywiro teithiau anghyflawn hyd at ac yn cynnwys y dydd Mercher yn dilyn eich wythnos deithio.

Pam oeddech chi’n gallu fy helpu o'r blaen pan nad oeddwn wedi cofrestru ond nawr allwch chi ddim?

Bydd cofrestru yn rhoi'r profiad talu wrth fynd gorau. Mae'n ein galluogi i gael mynediad cyflym at hanes eich teithiau a thaliadau a rhoi cymorth wedi'i deilwra i chi.