Prisiau a chapio

Parth Gorsafoedd Tref
Glynebwy
Parcffordd
Glynebwy
Llanhiledd Trecelyn Crosskeys Rhisga
a
Phontymister
Tŷ-du Pye Corner Casnewydd Caerdydd
Canolog
Pont-y-clun
Parth 6 Tref Glynebwy   1.60 3.20 3.50 3.80 3.80 4.10 4.10 4.10 4.10 4.10
Parth 5 Parcffordd Glynebwy 1.60   2.10 3.20 3.50 3.50 3.80 3.80 3.80 3.80 3.80
Parth 4 Llanhiledd 3.20 2.10   1.60 3.20 3.20 3.50 3.50 3.50 3.50 3.50
Parth 3 Trecelyn 3.50 3.20 1.60   2.10 2.10 3.20 3.20 3.20 3.20 3.20
Parth 2 Crosskeys 3.80 3.50 3.20 2.10   1.60 2.10 2.10 2.90 2.90 3.20
Parth 2 Rhisga a Phontymister 3.80 3.50 3.20 2.10 1.60   1.60 2.10 2.90 2.90 3.20
Parth 1 Tŷ-du 4.10 3.80 3.50 3.20 2.10 1.60   1.60 2.10 2.60 3.20
Parth 1 Pye Corner 4.10 3.80 3.50 3.20 2.10 2.10 1.60   1.60 2.60 3.20
Parth 1 Casnewydd 4.10 3.80 3.50 3.20 2.90 2.90 2.10 1.60   2.60 3.20
Parth 1 Caerdydd Canolog 4.10 3.80 3.50 3.20 2.90 2.90 2.60 2.60 2.60   3.20
Parth 3 Pont-y-clun 4.10 3.80 3.50 3.20 3.20 3.20 3.20 3.20 3.20 3.20  

 

Math Cap Dyddiol Cap Wythnosol
Parth 1 5.70 17.10
Parth 1 - 3 7.00 21.00
Parth 1 - 7 9.00 27.00
Parth 2 - 7 8.30 20.70

 

Enghraifft o sut mae capiau wythnosol yn gweithio

Enghraifft 1: cap wythnosol = £21.00
Mae’r cwsmer yn teithio ar dri diwrnod yn olynol:
Diwrnod 1 – Tocyn Teithio Dyddiol = £7.00
Diwrnod 2 – Tocyn Teithio Dyddiol  = £7.00
Diwrnod 3 – Tocyn Teithio Dyddiol  = £7.00
 
Cyfanswm = £21.00

Os bydd y cwsmer yn parhau i deithio am weddill yr wythnos, bydd y teithiau’n rhad ac am ddim. 

Fodd bynnag, mae’r cwsmer yn parhau i fod yn gyfrifol am dapio i mewn ac allan ar gyfer pob taith.

 

Enghraifft o gapio dyddiol ac wythnosol gan ddefnyddio Talu wrth fynd gyda chwsmeriaid yn teithio’n rheolaidd:

  • Rhwng tref Glynebwy a Threcelyn bydd eu taith yn cychwyn ym mharth 6 ac yn mynd trwy barthau 6, 5,4, a 3 byddant felly'n gymwys ar gyfer y capiau parthau dyddiol ac parth 2 – 7 yn wythnosol.

  • Rhwng Caerdydd Canolog a Phont-y-clun cychwyn eu taith ym mharth 1 a bydd yn mynd trwy barthau, 1,2, a 3 ac felly byddant yn gymwys ar gyfer y capiau parthau dyddiol ac parth 1 – 3 yn wythnosol.

  • Rhwng Pont-y-clun i Barcffordd Glynebwy bydd yn cychwyn ar eu taith ym mharth 3 ac yn mynd trwy barthau, 1,2,3,4, a 5 ac felly'n gymwys ar gyfer capiau parthau dyddiol ac parth 1-7 wythnosol.

  • Rhwng Caerdydd Canolog, Casnewydd, bydd Pye Corner, a Thŷ-du yn mynd trwy barth 1 yn unig a byddant yn gymwys ar gyfer capiau parth 1 dyddiol ac wythnosol.

 

Pan fydd taith yn cael ei gwneud yn ein hardal rhwydwaith talu wrth fynd, byddwn ni’n codi’r pris rhataf sydd ar gael i chi ar gyfer y diwrnod a’r llwybr rydych chi’n ei ddefnyddio. Byddwn ni’n defnyddio’r tapiadau rydych chi wedi’u gwneud ar eich taith, yn ogystal â hyd y daith (mewn pellter), er mwyn cyfrifo’r llwybr rydych chi wedi’i ddilyn.
 
Os byddwch chi’n mynd ar daith sy’n sbarduno cap parthol, bydd cyfrifiadau pris gwerth gorau’r parthau yn seiliedig ar bwynt terfyn allanol y parth(au) teithio perthnasol. 

Er enghraifft, cyfrifir capiau prisiau parthol hefyd yn erbyn pob cyfnod teithio o ddydd Llun i ddydd Sul, a byddwn ni’n adolygu eich teithiau’n barhaus er mwyn penderfynu a oes modd codi tâl am docyn wythnosol yn hytrach na sawl tocyn dyddiol.

Ar ddiwedd pob diwrnod, bydd eich holl deithiau’n cael eu hasesu i gyfrifo faint o arian sydd angen i chi ei dalu. 

Bydd y teithiau hyn wedyn yn codi tâl ar y cerdyn talu cofrestredig ar y diwrnod ar ôl i chi deithio.

Ar gyfer y cynllun peilot, bydd y tair gorsaf yn cael eu trin fel petaent o fewn un parth at ddibenion capio. Mae hyn yn debygol o newid ar ôl cyfnod cychwynnol y cynllun peilot.

Sylwch nad oes modd teithio yn y Dosbarth Cyntaf wrth ddefnyddio ein gwasanaeth talu wrth fynd. Os ydych chi’n dymuno teithio yn y Dosbarth Cyntaf, bydd angen i chi naill ai brynu tocyn Dosbarth Cyntaf ar wahân neu dalu am uwchraddio i docyn penwythnos Dosbarth Cyntaf neu i docyn Dosbarth Cyntaf yn ystod yr wythnos.