Telerau ac amodau
Rhagymadrodd
Mae hyn yn berthnasol pan fyddwch chi’n defnyddio cerdyn talu digyswllt neu ddyfais i ‘dalu wrth fynd’ ar gyfer eich teithiau gyda TrC a gweithredwyr rheilffyrdd eraill lle mae hyn yn ddull derbyniol o dalu.
Mae'r telerau ac amodau yn nodi eich hawliau a’ch rhwymedigaethau wrth ddefnyddio cerdyn talu digyswllt, ac maen nhw’n berthnasol hefyd i Amodau Cludiant eraill. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael yn ein Siarter i Deithwyr.
Talu wrth fynd
Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth Talu wrth Fynd dim ond ar gael yn y gorsafoedd canlynol:
Caiff gorsafoedd ychwanegol eu hychwanegu drwy gydol 2024.
Os ydych chi eisiau teithio yn ôl ac ymlaen i unrhyw orsaf arall, bydd angen i chi brynu tocyn o beiriant gwerthu tocynnau, swyddfa docynnau, ar-lein neu ar yr ap.
Os ydych chi’n teithio gyda Cross Country ar lwybr TrC sy’n derbyn talu wrth fynd (fel Caerdydd-Casnewydd), gallwch chi ei ddefnyddio o hyd. Yn syml, tapiwch i mewn ac allan fel y byddech chi wrth ddefnyddio gwasanaeth TrC.
**Nid yw teithiau Talu wrth Fynd ar gael ar wasanaethau GWR ar hyn o bryd.
Cyfnod teithio talu wrth fynd
Ein cyfnod teithio talu wrth fynd yn weithredol o ddydd Llun i ddydd Sul.
Amser teithio talu wrth fynd
Os byddwch yn dewis teithio a thalu wrth fynd 2.5 awr i deithio a chwblhau taith. (Mae cwblhau taith yn golygu tapio i mewn a thapio allan ar ddechrau a diwedd y daith).
Os na fyddwch chi’n cwblhau taith o fewn 2.5 awr, ni fyddwn yn gallu cyfrifo pris tocyn ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am daith anghyflawn.
Os ydych chi’n sylweddoli nad ydych chi wedi cwblhau taith ar ôl y ffenestr o 2.5 awr, byddwn yn rhoi cyfle i chi gywiro tap hwyr drwy ap TrC neu’r porth talu wrth fynd. Peidiwch â cheisio cwblhau taith ar ddilyswr platfform neu gât ar ôl y ffenestr o 2.5 awr.
Bydd tapiau sy’n cael eu prosesu ar ôl y ffenestr o 2.5 awr yn cael eu hystyried yn ddechrau taith newydd.
Tâl am Daith Anghyflawn
Codir tâl ar gwsmer sydd wedi methu â chwblhau taith. Gallai taith anghyflawn fod yn un o’r canlynol:
-
Nid yw’r cwsmer wedi tapio ar ddechrau neu ar ddiwedd ei daith.
-
Nid yw’r cwsmer wedi cwblhau taith o fewn ffenestr deithio o 2.5 awr.
Archwiliad prisiau
Wrth ddefnyddio talu wrth fynd, nid oes angen tocyn corfforol arnoch i deithio. Yn lle hynny, bydd y dargludydd yn gofyn ichi dapio'ch cerdyn talu neu ddyfais ar eu dyfais archwilio i gadarnhau eich bod wedi tapio cyn mynd ar y trên.
Os nad ydych wedi tapio i fewn, bydd angen i chi dalu tâl arolygu, a fydd yn uwch na’ch tâl talu wrth fynd. Bydd y tâl hwn yn cael ei gymryd o’ch banc y diwrnod wedyn ac ni ellir ei ad-dalu.
Os ydych yn credu eich bod wedi cael tâl arolygu drwy gamgymeriad, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu.
Byddant yn adolygu eich gwybodaeth teithio ac yn gwirio a yw'r tâl arolygu yn ddilys.
Mae rhagor o wybodaeth am tâl arolygu ar gael yma.
Capiau dyddiol ac wythnosol
Mae capiau ar brisiau tocynnau Talu wrth Fynd yn gosod cyfyngiadau ar y swm y bydd cwsmer yn ei dalu ar lefel ddyddiol ac wythnosol.
Unwaith i gap dyddiol neu wythnosol ddechrau, gall cwsmeriaid gymryd mantais o deithiau diderfyn am weddill y diwrnod neu wythnos benodol honna, o fewn y parth lle mae'r cap wedi'i gymhwyso. Bydd teithio y tu allan i gap parth yn golygu y bydd angen i chi dalu'r gwahaniaeth hyd nes y bydd y cap parthol newydd yn cael ei gymhwyso. Darganfyddwch fwy yma.
I fod yn gymwys ar gyfer cap dyddiol/wythnosol, rhaid i gwsmeriaid ddefnyddio’r un dull talu ar gyfer y diwrnod neu wythnos o deithio honna (Dydd Llun-Sul).
Ystyrir unrhyw newid rhwng cardiau digyswllt neu ddyfeisiau symudol i fod yn ddull talu unigol a ni fydd yn bosib gosod unrhyw gapiau ar brisiau.
Enghraifft:
Mae cwsmer yn teithio 1 diwrnod neu fwy’r wythnos. Mae’r cwsmer yn tapio arno gyda’i gerdyn banc. Dylai ddefnyddio’r un cerdyn banc am weddill yr wythnos. Os yw’r cwsmer yn dechrau cap dyddiol ar ddiwrnod penodol, bydd gweddill y diwrnodau teithio’n rhad ac am ddim. Fodd bynnag, os yw’r cwsmer yn dechrau cap wythnosol (dywedwn ar ddiwrnod 3, er enghraifft), bydd gweddill y teithiau’r wythnos honna’n rhad ac am ddim.
Caiff pob cap ei ailosod am 04:00 bob bore dydd Llun.
Prisiau
Mae Talu wrth Fynd yn cynnig y pris tocyn 'unrhyw bryd' cyfwerth â'r gwerth gorau am y daith rydych wedi'i gwneud.
Ystyrir pob tap ar ac oddi ar drên i fod yn daith unffordd a bydd y cwsmer yn talu am daith unffordd. Mae mwy o wybodaeth yma.
Taliadau talu wrth fynd TrC
Ar ddiwedd pob diwrnod, bydd eich holl deithiau’n cael eu hasesu i gyfrifo faint o arian sydd angen i chi ei dalu.
Byddwn ni’n gwneud cais am daliad i’ch cerdyn talu cysylltiedig ar y diwrnod ar ôl i chi deithio.
Os na allwn gasglu ffi’r daith y diwrnod canlynol, bydd eich cerdyn yn cael ei roi ar restr gwrthod teithio hyd nes y gallwn gasglu’r taliad.
Byddwn yn ceisio casglu'r pris sy'n weddill dair gwaith dros wythnos, ac ar ôl hynny bydd angen i chi dalu â llaw trwy ein ap neu siarad â'n tîm Gwasanaeth Cwsmer.
Unwaith y byddwn wedi derbyn yr holl docynnau sydd heb eu talu, byddwch yn gallu dechrau defnyddio talu wrth fynd eto. Mae hyn fel arfer yn cymryd tua 15 munud ar ôl derbyn taliad.
*Nid yw’r rhestr gwrthod yn eich atal rhag defnyddio’ch dyfais talu i brynu tocyn ar ein gwefan neu ap neu o swyddfa docynnau neu beiriant tocynnau.
Tapio i mewn ac allan
Eich cyfrifoldeb chi yw tapio i mewn ac allan yn gywir trwy osod eich cerdyn credyd/debyd neu ddyfais glyfar ar y darllenydd sydd wedi’i leoli wrth y gât docynnau neu ddilyswyr platfform yn y gorsafoedd rheilffordd lle byddwch yn dechrau ac yn gorffen eich taith.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'r un cerdyn talu neu ddyfais glyfar ar gyfer cychwyn a gorffen eich taith. Os na fyddwch, efallai y bydd angen i chi dalu dau dâl taith anghyflawn gan na fyddwn yn gallu dweud o ble rydych wedi teithio.
Defnyddiwch yr un dull talu bob amser am gyfnod teithio o wythnos (Llun - Sul). Os na wnewch chi, ni fyddwch yn gallu manteisio ar ein capiau dyddiol ac wythnosol.
Tapiau Hwyr (teithiau anghyflawn)
Os na fyddwch chi’n cwblhau taith, gallai hyn olygu y byddwch chi’n gorfod talu am daith anghyflawn. O ganlyniad i hyn, mae’n bosibl y byddwch chi’n talu mwy nag sydd raid. Y rheswm am hyn yw nad oes modd cyfrifo pris taith.
Bydd cwsmeriaid sydd wedi bod yn hwyr yn tapio yn cael cyfle i gwblhau eu taith hyd at a chan gynnwys y ‘Dydd Mercher’ ar ôl cyfnod teithio’r wythnos flaenorol (dydd Llun i ddydd Sul).
-
Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer hysbysiadau talu wrth fynd drwy ap TrC, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost yn gofyn i chi gwblhau eich taith gan ddefnyddio eich cyfrif.
-
Ni fyddwn yn gallu anfon hysbysiadau at gwsmeriaid sydd heb gofrestru oherwydd ni fydd gennym unrhyw wybodaeth gyswllt. Nid yw hyn yn eich atal rhag cywiro tapiau coll.
Gall cwsmer nad yw’n cofrestru ar gyfer cyfrif wirio ei daith a’i hanes talu drwy ein porth gwestai talu wrth fynd, ond dim ond am y teithiau yn y 7 diwrnod diwethaf y gallwch chi wneud hyn.
Gall cwsmeriaid gywiro tapiau hwyr hyd at dair gwaith mewn cyfnod o 28 diwrnod. Bydd angen i chi gysylltu â’n tîm Gwasanaeth i Gwsmeriaid ar ôl y cyfnod hwnnw.
Llenwi teithiau anghyflawn yn awtomatig
Ar gyfer cwsmeriaid sydd wedi cofrestru ar gyfer talu wrth fynd a bod patrwm teithio clir, byddwn yn defnyddio’r swyddogaeth cwblhau teithiau’n awtomatig i gwblhau taith lle nad yw cwsmer wedi tapio.
**Nifer cyfyngedig o awto-gwblhau y bydd y system yn ei wneud, felly mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn sicrhau eu bod yn cwblhau teithiau er mwyn osgoi costau uwch.
Byddwch yn cael gwybod am weithgaredd awto-gwblhau drwy e-bost y diwrnod ar ôl eich taith.
Os nad yw’n bosibl cwblhau teithiau yn awtomatig, bydd rhaid i chi ddiwygio eich taith anghyflawn yn eich cyfrif erbyn y dydd Mercher ar ôl y cyfnod teithio o ddydd Llun i ddydd Sul (sef y cyfnod y gwnaethoch chi deithio). Ar ôl y cyfnod hwn, ni ellir diwygio eich taith mwyach, a bydd tâl teithio anghyflawn yn cael ei godi a’i dynnu o’r cerdyn talu sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif.
Taith Gadawedig
Os byddwch chi’n penderfynu peidio â theithio, er enghraifft oherwydd amhariadau neu drenau wedi’u canslo, bydd angen i chi dapio allan yn yr un orsaf y gwnaethoch chi dapio i mewn o fewn 1 awr (a ‘gadael yr un orsaf’).
Os byddwch chi’n tapio allan ar ôl y ffenestr 1 awr, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am ddwy daith anghyflawn gan na fyddwn ni’n gwybod i ble rydych chi wedi teithio nac o ble.
Os byddwch chi’n dewis peidio â theithio a ddim yn tapio allan, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am daith anghyflawn gan na fyddwn ni’n gallu cyfrifo pris taith.
Ad-daliadau
Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael y tocyn anghywir ar gyfer eich teithiau, cysylltwch â’n tîm Gwasanaeth i Gwsmeriaid.
Bydd gennych chi tan ddydd Mercher ar ôl y cyfnod teithio o ddydd Llun i ddydd Sul (sef y cyfnod y gwnaethoch chi deithio) i ofyn am wneud unrhyw newidiadau. Ni fydd modd gwneud newidiadau ar ôl hynny.
Os byddwn ni’n gweld bod y pris anghywir wedi’i godi arnoch chi, byddwn ni’n addasu balans eich cyfrif yn unol â hynny.
Bydd pob ad-daliad yn cael ei brosesu yn ôl i’r dull talu gwreiddiol. Ni allwn ad-dalu i ddulliau talu eraill.
Oedi Ad-dalu ar deithiau rhwng yr orsaf
Mae Ad-daliad am Oedi ar gael i gwsmeriaid drwy ein proses safonol.
Eithriadau
Mae’r eithriadau canlynol yn berthnasol wrth ddefnyddio talu wrth fynd, ond mae’n bosibl y bydd y rhain yn newid.
-
Nid yw teithiau Talu wrth Fynd ar gael ar wasanaethau GWR ar hyn o bryd.
-
Dim tocynnau grŵp. Bydd angen i chi brynu tocynnau grŵp o swyddfa docynnau.
-
Ni chaniateir teithio yn y dosbarth cyntaf.
-
Dim cyfnodau prysur a chyfnodau tawelach.
-
Dim tocynnau i blant, ewch i trc.cymru/plant-i-gael-teithio-am-ddim i gael gwybodaeth am ffyrdd fforddiadwy i’r teulu deithio.
-
Nid oes modd defnyddio cardiau rhatach hefo dalu wrth fynd.
Amrywiol
Ein hatebolrwydd mwyaf i chi dan y telerau a’r amodau hyn fydd ad-dalu’r balans - os o gwbl - ar y dyddiad y caiff ein hanghydfod gyda chi ei setlo.