Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithio’n gyson i wella'r ffordd rydyn ni'n gweithredu?
Edrychwch ddim pellach na Hacathon Cinetig TrC; lle daeth y digwyddiad â grŵp amrywiol o unigolion ynghyd i fynd i'r afael â’r heriau byd go iawn sy'n wynebu ein sefydliad.
Beth yw Hacathon?
Dychmygwch le bywiog sy'n llawn creadigrwydd, arbenigedd ac angerdd. Digwyddiad cydweithredol yw’r hacathon lle daw pobl at ei gilydd am gyfnod byr i ddatrys problemau penodol.
Nod ein hacathon Cinetig oedd manteisio ar wybodaeth a phrofiad ein cydweithwyr, partneriaid ac arweinwyr y dyfodol. Rydym yn croesawu cyfranogwyr o bob rhan o TrC, partneriaid yn y diwydiant fel Amey ac Arup, a hyd yn oed myfyrwyr brwdfrydig o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe.
Dros ddau ddiwrnod cyffrous, aeth timau i'r afael â heriau a oedd yn canolbwyntio ar gynyddu refeniw, lleihau costau, gwella profiad ein cwsmeriaid a newid dulliau teithio. Llwyddodd yr awyrgylch cydweithredol hwn i feithrin syniadau arloesol a gwaith tîm.
Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Barry Lloyd (Pennaeth Arloesi a Datblygu Cynnyrch Newydd) ochr yn ochr â Micheal Davies (Rheolwr Syniadau ac Arloesi) a gynhaliodd y digwyddiad ar ran TrC i drafod pwysigrwydd yr hacathon:
Dywedodd Barry Lloyd: "Rydym am greu diwylliant arloesi bywiog yn TrC lle mae pobl yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i rannu eu syniadau a meddwl yn agored a thu hwnt i’r ffiniau arferol. Heriodd yr hacathon gyfranogwyr i fynd i'r afael â phroblemau mewn ffyrdd gwahanol gan ddefnyddio technegau meddylfryd dylunio a arweiniodd at gyfoeth o syniadau newydd.
Roedd yr hacathon yn canolbwyntio ar heriau busnes go iawn, gyda phwyslais cryf ar wella profiad ein cwsmeriaid. Rydym ni yma yn TrC yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi cynllun newid dulliau teithio Llywodraeth Cymru, gan anelu at leihau carbon net erbyn 2050; cyfrannodd yr hacathon yn uniongyrchol at y nod hwnnw."
Dywedodd Micheal Davies: "Fe wnaeth pob tîm feddwl am syniadau da iawn a fydd yn helpu i wella'r hyn rydyn ni'n ei wneud. Roedd Tîm Tango yn llwyddiannus ac rydym bellach yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant er mwyn gwireddu’r syniad o ddarparu storfa ddiogel i gwsmeriaid gael storio eu bagiau ynddi.
Aeth ymlaen i dynnu sylw at gyfraniadau gwerthfawr y myfyrwyr a gymerodd ran.
"Hoffwn ganu clodydd y myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe a helpodd y timau i feddwl yn wahanol yn ogystal â dod â set sgiliau gwahanol. Roedd yn wych gweithio ochr yn ochr â'n cymunedau ac arweinwyr y dyfodol i fynd i'r afael â heriau busnes go iawn."
Wrth i ni fynd ati i weithredu cyfleoedd ac atebion arloesol yr hacathon, rydym yn bwriadu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau a'ch hysbysu pan fydd y syniadau'n cael eu rhoi ar waith.
Os oes gennych chi syniad a all helpu i ganfod a manteisio ar gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg, cyflwynwch eich syniad yma: Her 100