Cyflwyniad

Croeso i Her 100, ein cynllun syniadau disglair newydd ar gyfer cydweithwyr TrC.

Fel busnes sy'n esblygu'n barhaus, mae'n bwysig iawn ein bod yn nodi ac yn manteisio ar gyfleoedd sy'n codi. Mae hyn er mwyn i ni allu datblygu a gwella profiad ein cwsmeriaid yn barhaus.

Byddwn yn treialu'r cynllun hwn am 3 mis yn y lle cyntaf. Yn ystod y cyfnod hwn ein nod yw cael 100 o syniadau gwych o bob rhan o'r busnes a allai ein helpu naill ai i greu refeniw newydd neu i wneud rhywbeth yr ydym eisoes yn ei wneud yn fwy cost-effeithlon.

Cliciwch ar y tab 'awgrym newydd' uchod i ddechrau arni.

 

Her 100

 

 

Cefndir

Mae arloesi yn bwysig iawn i TrC. Os ydym am gyflawni'r targedau a nodwyd ar ein cyfer yn Llwybr Newydd, Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021 - Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021 | LLYW.CYMRU - mae angen i ni greu atebion newydd i'r heriau sy'n ein hwynebu, yn ogystal â dysgu oddi wrth arfer da o bob cwr o'r byd.

Gall pob un ohonom gyfrannu at wella'r ffordd yr ydym yn cyflawni ein gweithrediadau a sicrhau bod ein cwsmeriaid yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn. Felly, oes gennych chi syniad allai wella'r ffordd y mae eich rôl yn gweithio o ddydd i ddydd a fyddai'n helpu'ch adran? Efallai rhywbeth a allai gael effaith gadarnhaol ar ran arall o TrC? Rydym am eich helpu i roi bywyd i’ch syniadau.

Gyda'r heriau rydym yn eu gweld ar draws yr economi ac yn ein diwydiant ar hyn o bryd, byddwn yn blaenoriaethu syniadau a allai ein helpu i roi hwb i'n refeniw neu leihau ein costau presennol. Rydym hefyd am wella profiad ein cwsmeriaid ac annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref a theithio'n fwy cynaliadwy.

Mae croeso i chi gyflwyno cymaint o syniadau ag y dymunwch! Bydd yr holl syniadau a dderbyniwn yn cael eu hadolygu gan ein huwch dîm arweinyddiaeth, ynghyd ag arbenigwyr pwnc o bob rhan o TrC. Rydym am fod yn hyderus ein bod yn datblygu'r syniadau sydd â'r potensial i weithio'n dda a gwneud gwahaniaeth i'n cyllidebau.

Byddwn yn darparu adborth a diweddariadau rheolaidd am yr holl syniadau a ddaw i law.

Diolch.

Your first name: