
Cysylltu
Mae beicio hefyd yn ddewis gwych ar gyfer teithio o A i B dros bellteroedd hirach, o’i gyfuno â thrafnidiaeth gyhoeddus. P’un a ydych chi’n teithio i’r gwaith neu i’r siopau, efallai mai beicio yn hytrach na mynd yn y car yw’r ffordd orau o gyrraedd lle rydych chi eisiau bod.
Dim beic?
Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod mwy o feiciau ar gael. Mae gorsafoedd docio Brompton ar gael yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Llanelli a Phorth Tywyn, lle gallwch fynd ar feic plygu am ddiwrnod, wythnos neu hyd yn oed yn hirach. Gallwch ddod o hyd i’ch doc agosaf yma.
Gallwch hefyd edrych ar yr opsiynau llogi hyn.
Llogi beiciau Ovo yng Nghaerdydd
Ewch o amgylch y ddinas mewn steil gan ddefnyddio’r cynllun rhannu hwn. Ewch i Ovo bikes i gael rhagor o wybodaeth.
- Cofrestrwch unwaith a rhentu beiciau drwy’r ap, BikeComputer, terfynfa neu ffonio’r llinell gymorth.
- Gallwch rentu beic Ovo unrhyw bryd, mewn 100 a mwy o leoliadau gwahanol yng Nghaerdydd neu mewn 30 a mwy o wledydd ledled y byd
- 5 lleoliad arall yn dod yn fuan - Sblot, Butetown, Grangetown a Rhymni, yn ogystal â’r tu allan i Orsaf Parc Ninian
Beicio yn Abertawe
Gallwch deithio o amgylch Abertawe ar ddwy olwyn gyda Santander Cycles. Mae beiciau llogi hunanwasanaeth 24/7 ar gael o chwe gorsaf ddocio gyfleus, gan gynnwys y Ganolfan Ddinesig ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - sydd ill dau bellter cerdded byr o Orsaf Drenau Abertawe.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti