Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym am i bobl ddewis teithio gyda ni yn hytrach na defnyddio unrhyw ffordd arall o deithio.

Rhaid i ni adeiladu rhwydwaith teithio cynaliadwy ar ran y cymunedau a wasanaethwn.  Yn hyn o beth, mae'n rhaid i ni fod yn agored ac yn dryloyw yn y ffordd rydyn ni'n gweithio. Mae cyhoeddi'r dangosyddion perfformiad allweddol hyn yn gam pwysig tuag at hyn. Bydd yn ein helpu i fagu hyder ein cwsmeriaid, cymunedau a rhanddeiliaid ynom ni.

Mae ein dangosyddion perfformiad allweddol wedi'u rhannu'n bum maes allweddol (diogelwch, cwsmeriaid, pobl, cyllid a chynaliadwyedd) sy'n adlewyrchu cylch gwaith Trafnidiaeth Cymru.

Mae dangos cynnydd ym mhob un o'r meysydd hyn yn flaenoriaeth i ni. Mae pob un yn mesur pa mor agos ydyn ni at gyflawni'r cylch gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i bennu ar ein cyfer. Gallwch ddarllen y blaenoriaethau hyn yn ein cynllun busnes a'n   strategaeth gorfforaethol.

ydd ein dangosyddion perfformiad allweddol yn datblygu wrth i ni gyflawni ein cylch gwaith.

A diagram showing the 7 Well-being of Future Generations Act Well-being Goals: 1. A prospoerous Wales. 2. A resilient Wales. 3. A healthier Wales. 4. A more equal Wales. 5. A Wales of cohesive communities. 6. A Wales of vibrant culture and thriving Welsh language and 7. A globally responsible Wales

Fel corff a enwir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), rydym wedi alinio ein dangosyddion perfformiad allweddol â'r saith nod llesiant.

Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod gan genedlaethau'r dyfodol yr un ansawdd bywyd ag sydd gennym ni nawr. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer gwneud penderfyniadau gwell drwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn:

  • ystyried yr hirdymor
  • helpu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu
  • cymryd agwedd integredig
  • cymryd agwedd gydweithredol ac ystyried a chynnwys pobl o bob oed ac amrywiaeth.