
DPA: Ymgeiswyr benywaidd sy’n sicrhau rolau gyda TrC
Canran yr ymgeiswyr benywaidd sy'n llwyddo i gael swydd gyda TrC. Rydym yn datblygu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Trosolwg
Y llynedd, roedd 44.8% o’r holl weithwyr newydd yn fenywod, 35.1% yn 2024/25. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd o 87 o fenywod o un flwyddyn i’r llall a gwelliant o 11 pwynt canran yng nghynrychiolaeth menywod. Rydym wedi gweld mwy o fenywod yn cael eu cynrychioli ar draws y busnes, gan gynnwys cynlluniau doniau cynnar a disgyblaethau STEM. I gefnogi denu a datblygu, rydym wedi rhoi lle amlwg i fenywod yn ein hymgyrchoedd recriwtio, rydym wedi darparu sesiynau cyflogadwyedd Gofal wrth Gamu i godi ymwybyddiaeth o’n cyfleoedd, ac rydym wedi gweithio gyda phartneriaid cymunedol i gynnal sesiynau wedi’u targedu at fenywod o gefndiroedd amrywiol.
2024/25 35.1% | 2025/26 44.8% | Ch4 2025/26 45.4% |
Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:
4. Cymru sy’n fwy cyfartal
5. Gymru o Gymunedau Cydlynys
Edrych tua’r dyfodol
Byddwn yn parhau i gynnal rhaglenni sy’n cefnogi grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys pobl ifanc a menywod, drwy ddarparu llwybrau gyrfa ystyrlon, profiad gwaith gwerthfawr, a datblygu sgiliau cyflogadwyedd. Byddwn yn parhau i gynnwys
menywod mewn ymgyrchoedd recriwtio ac yn cynnal digwyddiadau gweithredu cadarnhaol wedi’u targedu at rolau sy’n cael eu tangynrychioli, gan adeiladu ar y canlyniadau cadarnhaol sydd eisoes wedi’u cyflawni. Ar ben hynny, byddwn yn cynnal digwyddiad ‘HER Place in Tech’ i ddenu menywod ymhellach i rolau STEM.

DPA: Trosiant cydweithwyr
Canran cydweithwyr TrC sy’n gadael y sefydliad am unrhyw reswm. Rydym yn monitro hyn ar y cyd â pham mae cydweithwyr TrC yn gadael y sefydliad i ddyfeisio mentrau i leihau cyfraddau gadael a chynyddu lefelau cadw gweithwyr.
Trosolwg
A rhosodd trosiant cydweithwyr yn isel ar 6.3%, yn gyson â 2024/25 ac yn dynodi gweithlu sefydlog. Ymddeoliadau ac ymddiswyddiadau gwirfoddol oedd y prif reswm am adael.
2024/25 5.4% | 2025/26 6.3% | Ch4 2025/26 1.2% |
Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:
1. Cymru lewyrchus
4. Cymru sy’n fwy cyfartal
Edrych tua’r dyfodol
Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ein gweithlu Doniau Cynnar i greu cyflenwad cryf o arweinwyr y dyfodol, gan flaenoriaethu amrywiaeth a chynhwysiant sy'n bwysig i'n llwyddiant. Byddwn yn parhau i gynnig rhaglenni hyfforddi ac arwain i sicrhau bod ein cydweithwyr wedi ymgysylltu, a byddwn yn cynnig cyfleoedd datblygu gyrfa.