DPA: Boddhad cwsmeriaid

Rydym yn mesur boddhad cwsmeriaid â Wavelength, adnodd monitro a mesur gwasanaeth i gwsmeriaid y diwydiant rheilffyrdd. Mae'n mesur pa mor fodlon yw ein cwsmeriaid â'u taith gyffredinol.

 

Trosolwg

Mae boddhad cwsmeriaid 2025/26 yn 87.7%, sy’n cynrychioli 3.9 pwynt canran. Yng Nghyfnod 8, cyflwynwyd yr Arolwg Profiad Cwsmeriaid Rheilffyrdd newydd. Mae cynulleidfa ehangach yr arolwg wedi gwella’r ddarpariaeth yn sylweddol, gan ein galluogi i gasglu amrywiaeth ehangach a mwy cynrychioliadol o safbwyntiau ein cwsmeriaid.

2024/25

84.4%

2025/26

87.7%

Ch4 2025/26

90.1%

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

1. Cymru lewyrchus

5. Gymru o Gymunedau Cydlynys

 

Edrych tua’r dyfodol

Byddwn yn cryfhau ein gallu i ddeall cwsmeriaid ymhellach drwy barhau i fuddsoddi yn ein tîm data a gwybodaeth am gwsmeriaid, a’i ddatblygu. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i feincnodi ein perfformiad drwy’r Arolwg Profiad Cwsmeriaid Rheilffyrdd, byddwn yn monitro ac yn ymateb i adolygiadau Trustpilot (sgôr gyfredol 3.9), a byddwn yn olrhain ein cynnydd ym Mynegai Bodlonrwydd Cwsmeriaid y DU.

 


 

DPA: Cwynion fesul 100,000 o deithiau rheilffordd

Unrhyw fynegiant o anfodlonrwydd gan gwsmer neu gwsmer posibl ynghylch Rheilffyrdd TrC fel cyfran o 100,000 o deithiau gan deithwyr ar drenau.

 

Trosolwg

Nifer cyfartalog y cwynion fesul 100,000 o deithiau yn 2025/26 oedd 104 ac mae hyn yn cynrychioli gostyngiad bach o ddwy gŵyn o’i gymharu â 2024/25.

2024/25

106

2025/26

104

Ch4 2025/26

90

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

1. Cymru lewyrchus

5. Gymru o Gymunedau Cydlynys

 

Edrych tua’r dyfodol

Byddwn yn parhau i adolygu’r themâu a’r materion allweddol a nodwyd drwy gwynion cwsmeriaid a chyswllt ehangach â chwsmeriaid, a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i sbarduno gwelliannau wedi’u targedu i brofiad cwsmeriaid. Byddwn yn adeiladu ar ein ffyrdd sefydledig o weithio gydag arweinwyr Rhwydwaith T, gan sicrhau bod adborth cwsmeriaid yn llywio blaenoriaethau a chamau gweithredu lleol a rhanbarthol. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y busnes i rannu gwybodaeth, olrhain cynnydd a gwreiddio dull gweithredu cydgysylltiedig ar gyfer gwella gwasanaethau, gyda’r nod o sicrhau canlyniadau mwy cyson a phrofiad cyffredinol gwell i’n cwsmeriaid. 

 


 

DPA: Teithiau gan deithwyr rheilffordd

Cyfanswm nifer y teithwyr rheilffordd a brynodd docynnau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau. Mae hyn yn cynnwys Llinellau Craidd y Cymoedd a Chymru a'r Gororau.

 

Trosolwg

Cynyddodd teithiau gan deithwyr rheilffyrdd 9.9% yn FY26 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cafodd hyn ei sbarduno’n bennaf gan dwf yn rhanbarthau De-ddwyrain Cymru a De/Gorllewin Cymru a’r Gororau.

2024/25

31.7M

2025/26

34.9M

Ch4 2025/26

10.6M

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

1. Cymru lewyrchus

2. Cymru gydnerth

5. Gymru o Gymunedau Cydlynys

 

Edrych tua’r dyfodol

Yn 2026/27, ein nod yw denu cwsmeriaid newydd a pharhau i gynyddu teithiau ar drenau. Byddwn yn cynyddu'r galw drwy symleiddio prisiau tocynnau a gwella gwerth.

 


 

DPA: Llinellau Craidd y Cymoedd ar amser (hyd at 3 munud)

Canran y gwasanaethau trên sy'n cyrraedd o fewn 3 munud i'r amser cyrraedd a drefnwyd ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd. Cyfeirir at hyn yn fewnol fel Amser Teithwyr a Gollwyd. Mae pwysoliad yn cael ei roi i orsafoedd rheilffordd sydd â'r nifer uchaf o gwsmeriaid, felly mae oedi mewn lleoliadau lle mae mwy o ymwelwyr yn cael mwy o effaith ar y mesur. Er enghraifft, mae oedi yng ngorsaf Caerdydd Heol y Frenhines yn cael mwy o effaith ar y ganran o'i gymharu â Threherbert.

 

Trosolwg

Yn 2025/26, roedd prydlondeb ar Linellau Craidd y Cymoedd wedi gwella ymhellach ac roedd yn cynrychioli ein cyfnod perfformiad gorau yn ddiweddar, gyda lefelau prydlondeb a gwelliant o un flwyddyn i’r llall sydd gyda’r gorau yn y diwydiant.

2024/25

85.3%

2025/26

92.1%

Ch4 2025/26

94.2%

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

1. Cymru lewyrchus

5. Gymru o Gymunedau Cydlynys

 

Edrych tua’r dyfodol

Cyn bo hir, byddwn yn cyflwyno mwy o drenau newydd i Linellau Craidd y Cymoedd (gan gynnwys ein trenau tram Dosbarth 398 newydd) a byddwn yn gwneud rhagor o welliannau i'n seilwaith. Byddwn yn parhau i weithio gyda Network Rail a Seilwaith Amey Cymru i wella prydlondeb a lleihau tarfiadau.

 


 

DPA: Cymru a’r Gororau ar amser (hyd at 3 munud)

Canran y gwasanaethau trên sy'n cyrraedd o fewn 3 munud i'r amser cyrraedd a drefnwyd ar draws gwasanaethau Cymru a’r Gororau. Cyfeirir at hyn yn fewnol fel Amser Teithwyr a Gollwyd. Mae pwysoliad yn cael ei roi i orsafoedd rheilffordd sydd â'r nifer uchaf o gwsmeriaid, felly mae oedi mewn lleoliadau lle mae mwy o ymwelwyr yn cael mwy o effaith ar y mesur. Er enghraifft, mae oedi yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn cael mwy o effaith ar y canran o gymharu â Phont-y-pŵl a New Inn.

 

Trosolwg

Yn 2025/26, roedd prydlondeb ar lwybr Cymru a’r Gororau wedi gwella ymhellach ac wedi dangos gwelliant sylweddol o un flwyddyn i’r llall, gan ddarparu gwasanaethau ychwanegol ac amserlenni gwell ar yr un pryd.

2024/25

74.7%

2025/26

77.1%

Ch4 2025/26

81.3%

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

1. Cymru lewyrchus

5. Gymru o Gymunedau Cydlynys

 

Edrych tua’r dyfodol

Cyn bo hir, byddwn yn cyflwyno rhagor o drenau newydd a gwasanaethau ychwanegol ar draws mwy o lwybrau a fydd yn lleihau amseroedd teithio ymhellach ac yn gwella prydlondeb ar rwydwaith Cymru a'r Gororau. Byddwn yn gweithio gyda'n cyflenwyr i wella argaeledd a dibynadwyedd trenau. Byddwn yn gweithio gyda Network Rail i wella dibynadwyedd amserlenni, lleihau nifer y bobl sy’n tresmasu ar y rhwydwaith rheilffyrdd, a lliniaru effaith tywydd eithafol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a tharfiadau eraill.

 


 

DPA: Cansladau ar-y-diwrnod

Canran y gwasanaethau trên a gafodd eu canslo ar y diwrnod ar draws y rhwydwaith fel cyfran o gyfanswm y gwasanaethau a nodwyd yn y cynllun trên dyddiol.

 

Trosolwg

Rydym wedi gwella cansladau yn sylweddol o'i gymharu â 2024/25. Hwyluswyd hyn drwy wella argaeledd trenau ar lwybrau a oedd yn perfformio'n wael o'r blaen. Rydym hefyd wedi gweithredu cynlluniau wrth gefn i wella'r broses o adfer gwasanaethau'n gyflym pan fydd pethau'n mynd o’i le.

2024/25

5.4%

2025/26

3.9%

Ch4 2025/26

3.5%

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

1. Cymru lewyrchus

5. Gymru o Gymunedau Cydlynys

 

Edrych tua’r dyfodol

Dylai achosion o gansladau ar y diwrnod a achosir gan brinder trenau leihau wrth i fwy o drenau newydd gael eu cyflwyno. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar strategaethau a fydd yn lleihau'r tarfu ar deithwyr os bydd tywydd eithafol, problemau cynnal a chadw trenau, a phroblemau seilwaith.

 


 

DPA: Cansladau ymlaen llaw

Nifer y gwasanaethau trên a gafodd eu canslo cyn 10pm y diwrnod cyn rhoi'r gwasanaeth ar waith fel cyfran o gyfanswm y gwasanaethau a nodwyd y cynllun trên dyddiol.

 

Trosolwg

Ychydig iawn o wasanaethau trên a gafodd eu canslo ymlaen llaw yn ystod y flwyddyn. Roedd hyn yn adlewyrchu ein gwaith gofalus i gynllunio adnoddau, gan sicrhau bod digon o yrwyr trenau, rheolwyr trenau a chydweithwyr eraill sydd â chyfrifoldebau diogelwch hollbwysig ar gael i weithredu'r amserlen. Ar gyfer ein gyrwyr trenau a’n rheolwyr trenau, mae dydd Sul bellach yn rhan o’u hwythnos waith, gan arwain at well gwasanaeth ar ddydd Sul.

2024/25

0.1%

2025/26

0.1%

Ch4 2025/26

0.2%

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

1. Cymru lewyrchus

5. Gymru o Gymunedau Cydlynys

 

Edrych tua’r dyfodol

Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu gwella amserlenni yn y dyfodol a hyfforddi cydweithwyr ar gyfer ein trenau newydd, byddwn yn cynnal nifer y Gyrwyr, y Rheolwyr Trenau a chydweithwyr eraill sy’n hanfodol i ddiogelwch.

 


 

DPA: Cwynion TrawsCymru fesul pob 100,000 o deithiau

Unrhyw fynegiant o anfodlonrwydd gan gwsmer, neu gwsmer posibl, ynghylch teithiau T1, T1C, T2, T3, T6, T10 TrawsCymru fel cyfran o 100,000 o deithiau gan deithwyr TrawsCymru.

 

Trosolwg

Mae cwynion fesul 100,000 o deithiau yn parhau i fod ar lefel gyson isel drwy gydol y flwyddyn, ac maent wedi gostwng ers y flwyddyn ariannol flaenorol. Mae hyn yn dilyn y duedd yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Mae ein cyfathrebu â chwsmeriaid am oediadau a tharfiadau wedi gwella'n sylweddol, ac mae cwsmeriaid nawr yn elwa o hysbysiadau teithio personol. Rydym hefyd yn gweithio’n llawer agosach gyda gweithredwyr i reoli lefelau gwasanaeth lle mae gwaith ffordd yn cael effaith ac rydym yn gwneud newidiadau prydlon i amserlenni lle gallwn ddangos y bydd hyn yn gwella prydlondeb ac yn lleihau’r risg o ganslo gwasanaethau.

2024/25

20

2025/26

16

Ch4 2025/26

1

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

1. Cymru lewyrchus

5. Gymru o Gymunedau Cydlynys

 

Edrych tua’r dyfodol

Rydym wedi dechrau lansio 30 o gerbydau newydd ar draws rhwydwaith TrawsCymru, a fydd yn gwella profiad y cwsmer gyda mwy o wasanaethau’n cael cyhoeddiadau sain a gweledol am y stop nesaf. Byddwn hefyd yn gweithredu ein hail gwrs hyfforddi gyrwyr a fydd yn cael ei gyflwyno ar draws y rhwydwaith, i roi’r sgiliau i’r gyrwyr a fydd yn gwella profiad y cwsmer ymhellach. Mae ein system adborth cwsmeriaid fyw newydd wedi cael ei lansio a bydd hyn yn ein galluogi i gael adborth byw gan gwsmeriaid am deithiau penodol a byddwn yn gallu targedu meysydd allweddol i’w gwella ar sail yr adborth hwn.

 


 

DPA: Teithiau gan deithwyr TrawsCymru

Cyfanswm nifer y teithwyr a gafodd eu cludo ar lwybrau T1, T1C, T2, T3, T6, T10 TrawsCymru. Mae hyn yn cynnwys y gwasanaethau T4 a T5 o 31 Awst 2025 ymlaen.

 

Trosolwg

Mae teithiau gan deithwyr TrawsCymru yn parhau i gynyddu. Mae ein rhwydwaith bellach yn darparu cynnyrch mwy cyson ledled Cymru ac rydym yn disgwyl rhagor o welliannau wrth i ni gyflwyno cerbydau newydd. Rydym hefyd wedi symleiddio tocynnau ac mae hyn wedi ei gwneud yn haws i gwsmeriaid ddewis y tocyn cywir ar eu cyfer a’u galluogi i deithio ar nifer o wasanaethau gydag un tocyn yn unig.

2024/25

1.2M

2025/26

1.7M

Ch4 2025/26

0.4M

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

1. Cymru lewyrchus

2. Cymru gydnerth

5. Gymru o Gymunedau Cydlynys

 

Edrych tua’r dyfodol

Byddwn yn gwella profiad cwsmeriaid yn y dyfodol drwy ddarparu rhagor o hyfforddiant i yrwyr a pharhau i ganolbwyntio ar brydlondeb, a byddwn yn dadansoddi’r teithiau nad ydynt yn brydlon a’r achosion sylfaenol i sicrhau bod cwsmeriaid yn teimlo budd unrhyw newidiadau rydym yn eu gwneud i’r amserlen. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r tîm rheilffyrdd i wella cysylltiadau â’r rheilffyrdd, lle mae’r bws yn rhyngweithio â’r rheilffyrdd a lle mae dull cyson o ran amseroedd cysylltu.

 


 

DPA: Cansladau TrawsCymru

Canran teithiau T1, T1C, T2, T3, T6, T10 TrawsCymru a gafodd eu canslo ar y diwrnod.

 

Trosolwg

Roedd nifer yr achosion o ganslo teithiau TrawsCymru yn gyson isel yn y flwyddyn ariannol diwethaf. Fe wnaethom weithredu 98.9% o’r holl deithiau a oedd wedi’u trefnu. Y prif resymau dros ganslo oedd tagfeydd ar y ffyrdd, argaeledd gyrwyr, methiant mecanyddol a thywydd garw.

2024/25

1.2%

2025/26

1.1%

Ch4 2025/26

2.0%

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

1. Cymru lewyrchus

5. Gymru o Gymunedau Cydlynys

 

Edrych tua’r dyfodol

Yn 2026/27, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar fonitro tueddiadau a’r prif bethau sy’n achosi i ni orfod canslo er mwyn ein helpu i darfu cyn lleied â phosibl ar gwsmeriaid. Byddwn yn canolbwyntio'n bennaf ar unrhyw achos o ganslo sydd o fewn ein rheolaeth a chynnal safonau ar draws ein rhwydwaith.

 


 

DPA: Cwynion allanol cysylltiedig â’r Gymraeg fesul 100,000 o deithiau

Cwynion newydd fesul 100,000 o deithiau gan deithwyr (TrawsCymru a Rheilffyrdd) i Gomisiynydd y Gymraeg pan nad yw'r achwynydd wedi derbyn gwasanaeth Cymraeg gan TrC, neu os yw'n anfodlon â sut mae TrC yn penderfynu ar fater sy'n ymwneud â'r Gymraeg.

 

Trosolwg

Roedd Cwynion Allanol am y Gymraeg fesul 100,000 o deithiau wedi gostwng o'i gymharu â 2024/25. Rydym wedi cynnal rhaglen waith i wella’r ddarpariaeth Gymraeg ar draws ein rhwydwaith.

2024/25

0.02

2025/26

0.01

Ch4 2025/26

0.00

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

6. Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

 

Edrych tua’r dyfodol

Yn 2026/27, byddwn yn parhau i fonitro ein darpariaeth Gymraeg i gwsmeriaid a staff. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu am welliannau i seilwaith a'n gwaith gyda phartneriaid allanol i sicrhau bod safonau'r Gymraeg yn cael eu dilyn yn drylwyr a bod cyfleoedd diwylliannol Cymreig yn cael eu hyrwyddo.

 


Mwy o ddangosyddion perfformiad allweddol