DPA: Diogelwch cydweithwyr
Y ganran gyffredinol o staff Rheilffyrdd TrC a oedd yn gweithio'n ddiogel ac nad oeddent yn agored i weithredoedd neu amodau anniogel, megis ymddygiad gwrthgymdeithasol, digwyddiadau a ddaeth yn agos at niwed neu ddamweiniau.
Trosolwg
Gweithiodd 98.3% o gydweithwyr yn ddiogel yn ystod Ch1. Er gwaethaf tuedd barhaus o lefelau uwch na'r disgwyl o ddigwyddiadau, roedd lefelau disgwyliedig o niwed cyffredinol yn is. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys rhyngweithio â gwrthrychau ac offer neu lithriadau, bagliadau a chwympiau yn bennaf.
Ch1 2023/24 97.7% |
Ch1 2024/25 98.3% |
Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:
2. Cymru gydnerth
3. Gymru Iachach
Edrych tuag y dyfodol
Mae'r cynllun blynyddol ar gyfer Iechyd, Diogelwch a Gwytnwch Busnes wedi'i gymeradwyo i'w weithredu. Bydd y cynllun hwn yn cryfhau ein hymdrechion tuag at wireddu'r strategaeth 'un TrC' ac yn gwella ein perfformiad diogelwch.
DPA: Digwyddiadau Diogelwch fesul 100,000 o Deithiau a gymerir gan Deithwyr
Nifer y digwyddiadau diogelwch sy'n ymwneud ag unrhyw gwsmer, teithiwr, neu aelod o'r cyhoedd fesul 100,000 o deithiau a gymerir gan deithwyr.
Trosolwg
Roedd nifer y digwyddiadau diogelwch sy'n ymwneud â'n teithwyr o'i gymharu â nifer y teithiau a gymerir gan deithwyr yn parhau i fod ar yr un lefel yn Ch1. Mae digwyddiadau'n digwydd yn bennaf mewn gorsafoedd ac wrth fynd ar y trên neu wrth ddod oddi ar y trên. Mae achosion yn aml yn gysylltiedig ag ymddygiad cwsmeriaid, gan gynnwys meddwdod, brysio am drenau a diffyg gofal / sylw ar risiau. Rydym wedi cynyddu nifer y Camerâu a wisgir ar y Corff i'n cydweithwyr rheng flaen eu defnyddio. Mae hyn yn helpu i gadw cydweithwyr a staff yn ddiogel, yn gweithredu fel rhwystr i ymddygiad gwrthgymdeithasol a gall ddarparu tystiolaeth yr ydym yn ei rhannu â Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Rydym wedi diweddaru ein Polisi a'n Gweithdrefnau Diogelu a fydd yn helpu i gynorthwyo’r rhai sydd fwyaf mewn perygl ar ein rhwydwaith.
Ch1 2023/24 1.1 |
Ch1 2024/25 1.2 |
Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:
2. Cymru gydnerth
3. Gymru Iachach
Edrych tuag at y dyfodol
Sefydlwyd y Grŵp Llywio Damweiniau Cwsmeriaid i ddarparu fforwm cydweithredol er mwyn i randdeiliaid rannu gwybodaeth ac arbenigedd. Mae asesiad cynhwysfawr o'n data damweiniau cwsmeriaid yn ein galluogi i nodi meysydd targed ar gyfer gwella, darparu ymwybyddiaeth o ymddygiad a phryderon cwsmeriaid a gwelliant parhaus er mwyn cyflawni ein hamcanion.