DPA: Allyriadau Carbon Deuocsid am bob cilometr a deithiwyd gan deithwyr
Cyfanswm allyriadau Cwmpas 1 Carbon deuocsid mewn gramau a gynhyrchir gan ein gwasanaethau rheilffordd am bob cilometr a deithiwyd gan deithwyr. Allyriadau Cwmpas 1 yw'r rhai sy'n deillio o'r defnydd o danwydd gan ein trenau. Mae'r fethodoleg hon yn unol â meini prawf adrodd Llywodraeth Cymru ar gyfer allyriadau carbon.
Trosolwg
Gostyngodd allyriadau carbon deuocsid cerbydau am bob cilometr a deithiwyd gan deithwyr gan 0.9% yn Ch1 24/25 o'i gymharu â Ch1 23/24, wrth i ni symud i ffwrdd o drenau hŷn a thuag at drenau newydd, mwy effeithlon yn ogystal â chynyddu nifer y teithwyr sy'n defnyddio ein gwasanaethau.
Ch1 2023/24 83.8 |
Ch1 2024/25 83 |
Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:
2. Cymru gydnerth
3. Gymru Iachach
4. Cymru sy’n fwy cyfartal
7. Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Edrych tuag at y dyfodol
Rydym yn cyhoeddi Cynllun Rheoli Carbon a strategaeth effeithlonrwydd ynni er mwyn cynllunio i ostwng ein hallyriadau carbon.