DPA: Gwariant ar Weithrediadau

Gwariant gweithrediadau blwyddyn lawn.

 

Trosolwg

Mae cyfanswm gwariant ar weithrediadau TrC ar gyfer 2023/24 yn unol â'r llythyr cyllido diwygiedig ar gyfer Rheilffyrdd. Mae'r cynnydd o 2022/23 yn adlewyrchu cost gwasanaethau uwch fel cerbydau newydd, costau cynnal a chadw a chostau gwasanaethau rheng flaen. Mae refeniw tocynnau wedi cynyddu 15% ers y flwyddyn flaenorol.
 

2022/23

£312.2M

2023/24

£396.9M

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

1. Cymru lewyrchus

 

Edrych ymlaen

Rydym yn parhau i adolygu a herio gwariant net ar draws TrC i reoli costau yn effeithiol a sicrhau gwerth am arian. Rydym yn hyrwyddo sianeli manwerthu tocynnau sy'n fwy effeithlon ac yn cyflawni ein strategaeth diogelu refeniw. Rydym yn manteisio ar ein hunedau hysbysebu a manwerthu i greu refeniw ychwanegol trwy ddenu cwsmeriaid gyda gwell gwasanaethau a thocynnau ar gyfer ein trenau ac yn yr hirdymor, ceisio anelu at fod yn ddarparwr aml-ddull.

 


 

DPA: Gwariant Cyfalaf

Gwariant cyfalaf blwyddyn lawn.

 

Trosolwg

Mae gwariant cyfalaf TrC ar gyfer 2023/24 yn cael ei wneud yn bennaf ar raglen trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, gan gynnwys trydaneiddio a rhoi cerbydau trên newydd ar waith.  Mae gwariant arall yn cynnwys cyllid grant i awdurdodau lleol ar gyfer teithio llesol ag adeiladu Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd.  Mae prosiectau eraill fel Depo Rheilffordd Ffynnon Taf o fewn y flwyddyn ariannol.

2022/23

£536.5M

2023/24

£446.4M

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

1. Cymru lewyrchus

 

Edrych ymlaen

Rydym yn parhau i gynllunio prosiectau cyfalaf a rheoli gwariant sy'n achosi her debyg i'r un ledled y DU o ran mynediad at ddeunyddiau, adnoddau a chostau cysylltiedig.

 


 

DPA: Gwerthu Tocynnau

Refeniw gwerthu tocynnau trên; cyfeirir at hyn yn gyffredin fel Refeniw Teithwyr (er bod Farebox Income yn cael ei ddefnyddio'n gyfnewidiol ar draws y diwydiant).

 

Trosolwg

Mae'r refeniw gwerthu tocynnau trên wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn o 2022/23 i 2023/24 gan adlewyrchu'r cynnydd yn nifer y gwasanaethau a ddarperir yn ogystal ag adferiad i lefelau cyn COVID. Ysgogwyd y cynnydd hwn yn bennaf gan y twf yn nifer y teithiau teithwyr a wnaed.

2022/23

£129.3M

2023/24

£148.4M

Ch4 2023/24

£43.4M

 

Amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a drafodwyd:

1. Cymru lewyrchus

 

Edrych ymlaen

Byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd i wella profiad y cwsmer i greu cynnydd pellach ymysg teithiau teithwyr trên er mwyn sbarduno twf mewn refeniw. Byddwn yn darparu prisiau rheoli refeniw mwy deinamig ar draws y rhwydwaith ac yn archwilio dull mwy arloesol o ran costau a phrisiau yn ystod 2024-25. Rydym hefyd yn rhoi ein strategaeth farchnata twf refeniw ar waith. Bydd hyn yn ceisio manteisio ar flwyddyn gyffrous wrth i fwy o drenau newydd gael eu rhoi ar waith ar ein rhwydwaith ac wrth i waith i wella'r profiad i'n cwsmeriaid barhau gyda gwelliannau i'n ap a'n gwefan ac ehangu ein cynnig talu wrth fynd.

 


Mwy o ddangosyddion perfformiad allweddol