Gemau rhyngwladol Cymru 2026

Teithio i Gymru v Portiwgal

Bydd Cymru'n wynebu Portiwgal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Fawrth 17 Tachwedd 2026, gyda'r gic gyntaf am 19:45. Mae disgwyl torf fawr yng Nghaerdydd wrth i gefnogwyr deithio i brifddinas Cymru ar gyfer y gêm hon yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.

Teithio i Dîm Menywod Cymru v Tîm Menywod Norwy

Bydd Tîm Menywod Cymru yn wynebu Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd a Ddydd Mawrth 1 Rhagfyr 2026, gyda'r gic gyntaf am 19:45.

Denodd eu gêm ddiwethaf yn erbyn Albania ym Mharc y Scarlets y dorf uchaf o 4,837 ar gyfer gêm ryngwladol i fenywod a degfed gêm heb ei golli yn olynol i'r tîm. Bydd Cymru nawr yn wynebu her anoddach yn erbyn Norwy yn rownd nesaf yr ymgyrch ragbrofol o flaen torf obeithiol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae prisiau tocynnau cynnar ar gael tan 12:00 ar Ddydd Mawrth 3 Tachwedd. Mae tocynnau ar gyfer y gêm ar gael trwy wefan CBDC.

 

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid diwydiant i'ch helpu i deithio i'r gêm ac oddi yno yn ddiogel ac mewn modd cyfleus. Rydym ni wrthi’n cwblhau trefniadau teithio a bydd manylion yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

Edrychwch ar ein ap a'n gwefan cyn i chi deithio am y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau ar gyfer digwyddiadau.

 

Dyddiadau gemau cartref

GêmCGDyddiadLleoliad
Cymru v Portiwgal19:45Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2026Stadiwm Dinas Caerdydd
Cymru v Norwy19:45Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2026Stadiwm Dinas Caerdydd

Gorsafoedd agosaf: Parc Ninian a Grangetown

 

Arbedwch ar deithio diwrnod y gêm gyda'n tocyn teulu

Mae ein tocyn teulu yn docyn trên unffordd neu ddwyffordd sy'n caniatáu i hyd at ddau blentyn dan 16 oed deithio am ddim ar ein rhwydwaith, gan gynnwys i gemau, gyda phob oedolyn sy'n talu tocyn.

 

Ar ôl y gêm

Tickets

Prynwch cyn teithio

Rhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. I arbed amser wedyn, prynwch docyn dwyffordd ar eich ffordd i mewn. Gallwch hefyd brynu’ch tocyn ar yr ap TrC neu ar wefan trc.cymru. Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn archwilio tocynnau cyn ac ar ôl y gêm.

Public safety

Diogelwch y cyhoedd

Bydd unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol sy'n cael ei ystyried yn fygythiad i'w diogelwch ei hun neu i ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei atal rhag teithio.

Public safetyBydd unrhyw un sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu ymddygiad bygythiol tuag ein cwsmeriaid neu ein cydweithwyr yn cael ei atal rhag teithio.

 

Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau

Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.