Mynd â chi i'r lleoliad ac adref eto, yn ddiogel
Boed yn gêm Rygbi’r Chwe Gwlad, yn gyngerdd Tom Jones, yn Sioe Frenhinol Cymru neu’n ŵyl fwyd, mae Cymru’n aml yn cynnal digwyddiadau mawr. Gall y rhain ddenu torfeydd enfawr o bob rhan o'r DU ac weithiau ymhellach i ffwrdd.
Mae ein gwasanaethau rheilffordd yn chwarae rhan hanfodol i gael degau o filoedd o bobl i ddigwyddiadau ac yna eu cael adref yn ddiogel wedyn.
Rydym yn gwneud llawer iawn o waith paratoi cyn unrhyw ddigwyddiad mawr a fydd yn effeithio ar ein gwasanaethau. Rydym yn dod â staff a gwirfoddolwyr ychwanegol i mewn i gynorthwyo ein cwsmeriaid ac yn sefydlu systemau ciwio fel y gallwn reoli niferoedd ar lwyfannau. Mae hyn yn helpu i gadw pawb yn ddiogel.
Mae ein timau cynnal a chadw a pheirianneg yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob trên sydd ar gael yn ein fflyd yn barod i wasanaethu pobl ar draws ein rhwydwaith. Byddwn hefyd yn trefnu cludiant bws os bydd angen er mwyn i ni allu cael pawb i'w cyrchfan.
Cyn ac yn ystod diwrnodau digwyddiadau, rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid, megis Heddlu Trafnidiaeth Prydain a chynghorau lleol, i fonitro nifer y teithwyr a chadw ein gwasanaethau’n ddiogel i bawb.
Boed yn sgil gêm bêl-droed neu gyngerdd, mae ein cydweithwyr rheng flaen wrth law i gefnogi teithwyr wrth iddynt gyrraedd ein gorsafoedd. Byddant yn ateb ymholiadau, yn rheoli ciwiau ac yn helpu i gyfeirio pobl at y platfform lle byddant yn dal eu trên adref. Mae ein timau glanhau hefyd yn gweithio'n galed i gadw ein trenau a'n gorsafoedd yn lân ac yn daclus a'u gwneud yn barod ar gyfer dyletswydd y bore canlynol.