Digwyddiadau i ddod ar ein rhwydwaith

Gweler rhestr isod o'r digwyddiadau a allai effeithio ar wasanaethau rheilffordd.

Rasys Caer:

  • Dydd Sadwrn 22 Awst 2026
  • Dydd Gwener 11 Medi 2026
  • Dydd Sadwrn 12 Medi 2026
  • Dydd Sadwrn 19 Medi 2026
     

Digwyddiadau yn Stadiwm Principality, Caerdydd:

  • Dydd Sul 16 Awst 2026 - FA Community Shield 2026
  • Dydd Sadwrn 07 Tachwedd 2026 - Cymru v Japan
  • Dydd Sadwrn 14 Tachwedd 2026 - Cymru v Seland Newydd
  • Dydd Sadwrn 21 Tachwedd 2026 - Cymru v Awstralia
     

Digwyddiadau eraill:

  • Dydd Gwener 14 Awst 2026 - Hollywood Vampires, Castell Caerdydd
  • Dydd Sadwrn 15 Awst 2026 - Jimmy Eat World, Castell Caerdydd
  • Dydd Iau 20 Awst 2026 - Dydd Sul 23 Awst 2026 - Gŵyl y Dyn Gwyrdd
  • Dydd Sul 06 Medi 2026 - 10k Caerdydd
  • Dydd Sul 13 Medi 2026 - Ironman
  • Dydd Mercher 23 Medi 2026 - Dydd Gwener 25 Medi 2026 - Gŵyl Elvis Porthcawl
  • Dydd Gwener 25 Medi 2026 - Shine Night Walk Cardiff, Castell Caerdydd
  • Dydd Sul 04 Hydref 2026 - Hanner Marathon Caerdydd

 

Pan fydd digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality, mae gennym system giwio ar waith i ganiatáu i deithwyr wneud eu taith yn ôl yn ddiogel. Mae llwybrau Hygyrchedd pwrpasol ar gyfer teithwyr sydd angen cymorth ychwanegol i deithio.

Ar ddiwrnodau digwyddiadau gofynnwn i deithwyr sydd angen cymorth ychwanegol wneud eu hunain yn hysbys i stiward a all eu cyfeirio at y Llwybrau Hygyrchedd pwrpasol. Mae’n bosibl i deithwyr sydd angen defnyddio’r Llwybr Hygyrch ddod gyda hyd at dri gofalwr neu aelod o’r teulu.

Sign displayed at Cardiff CentralEntrance at Cardiff CentralRamp at Cardiff Central

Mae'r llwybrau Hygyrchedd hefyd yn adnodd defnyddiol i'r rhai ag anableddau cudd. Mae diwrnodau digwyddiadau yn dod â thorfeydd a daw gorsaf Caerdydd Canolog yn lleoliad prysur iawn. Mae'r llwybr Hygyrch yn fan diogel, wedi'i reoli, lle mae staff wrth law i roi help llaw ac mae'r systemau ciwio yn rheoli llif teithwyr yn ddiogel ac yn effeithlon ar y platfformau. Gall staff sydd wedi'u lleoli ar y llwybrau Hygyrchedd hefyd eich helpu i ddod o hyd i doiledau a'ch helpu i gynllunio taith.

 

Lleoliadau toiledau hygyrch yng Nghaerdydd Canolog

  • Platfform 8 (mynediad allwedd RADAR)
  • Isffordd ddwyreiniol (mynediad allwedd RADAR)
  • Mae toiledau symudol hygyrch ar gael yng nghefn yr orsaf, ar y Sgwâr Canolog rhwng adeilad y BBC ac adeilad y Brifysgol oddi ar Stryd Wood ac ym maes parcio Glan yr Afon ger platfform 0.

 

Os hoffech gael cymorth i gynllunio’ch taith cyn i chi fynychu digwyddiad yn Stadiwm Principality, cysylltwch â ni drwy WhatsApp:

07790 952 507

Dydd Llun i Ddydd Gwener: 07:00 - 20:00
Dydd Sadwrn: 08:00 - 20:00
Dydd Sul: 11:00 - 20:00

 

I gael rhagor o wybodaeth am Deithio Hygyrch neu i archebu cymorth ymlaen llaw, ewch i'n tudalen Teithio â Chymorth Archebu.