Stadiwm Principality, Caerdydd

Stadiwm Principality Caerdydd yw Stadiwm Genedlaethol Cymru. Yng nghalon y ddinas, mae’r stadiwm yn gartref i rai o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous, o rygbi a phêl-droed i gyngherddau o’r radd flaenaf sy’n denu enwogion megis Coldplay, Oasis, Beyoncé, Ed Sheeran, a llawer mwy.

Bydd Stadiwm Principality yn cynnal ystod o gyngherddau a digwyddiadau'r gwanwyn a’r haf hyn ac rydym wedi ymrwymo at eich cludo adref yn ddiogel. Am wybodaeth ynghylch pa ddigwyddiadau sydd ymlaen ac unrhyw newidiadau sydd angen inni eu gwneud, gweler isod.

 

Beth sy’n digwydd yn Stadiwm Principality?

Mae Haf a Gwanwyn 2026 yn Stadiwm Principality yn llawn digwyddiadau cyffrous. Gweler yr amserlen isod:

Metallica

Dydd Sul 28 Mehefin 2026


FA Community Shield 2026

Dydd Sul 16 Awst 2026

 

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod, ewch i wefan Stadiwm y Principality.

 

Sut i gyrraedd Stadiwm Principality

Wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd, y ffordd orau o gyrraedd Stadiwm Principality yw ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r trên yn hygyrch iawn ac yn un o’r ffyrdd mwyaf cyfleus o deithio.

Yr orsaf agosaf yw Caerdydd Canolog sy’n bum munud ar droed yn unig o’r stadiwm - mae ganddi gysylltiadau rheilffordd ledled Cymru ac i Fanceinion, Llundain a mwy.

Os yw’n fwy cyfleus, gallwch hefyd fynd ar y trên o Gaerdydd Heol y Frenhines sy’n daith 15 munud oddeutu ar droed i’r stadiwm. Mae hyn yn ffordd berffaith o archwilio’n dinas brydferth ymhellach.

Archebwch eich tocynnau gyda’n cynllunydd teithiau hyd at 12 wythnos yn gynnar ar gyfer y prisiau gorau.

Fel arall, mae’r bws yn gyfleus iawn. Mae yna sawl safle bws a lein o amgylch y stadiwm. Defnyddiwch y cynllunydd teithiau bws i ddod o hyd i’r gwasanaeth cywir.

 

Cyngor teithio i ddigwyddiadau yn Stadiwm Principality

Mae disgwyl i wasanaethau trên fod yn brysur, gwiriwch cyn teithio gan adael digon o amser ar gyfer eich siwrneiau.

Tickets icon

Prynwch cyn teithio

Rhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. I arbed amser wedyn, prynwch docyn dwyffordd ar eich ffordd i mewn. Gallwch hefyd brynu’ch tocyn ar yr ap TrC neu ar wefan trc.cymru. Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn archwilio tocynnau cyn ac ar ôl y digwyddiad.

Queue icon

Ciw ar ôl y digwyddiad

Bydd system ciwio yn weithredol yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd nifer y teithwyr yn cael eu cyfyngu ar gyfer teithiau dwyffordd, byddwch yn amyneddgar.

Person under the influence

Diogelwch y cyhoedd

Bydd unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol sy'n cael ei ystyried yn fygythiad i'w diogelwch ei hun neu i ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei atal rhag teithio.

Person shouting at another person
Bydd unrhyw un sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu ymddygiad bygythiol tuag ein cwsmeriaid neu ein cydweithwyr yn cael ei atal rhag teithio.

 

Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau

Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.