Prisiau Tocynnau Cosb - Diagram parth

Ardal Tocynnau Cosb newydd TrC

Rydyn ni'n gwybod bod y mwyafrif helaeth o'n cwsmeriaid yn talu’n llawn am eu tocynnau. Dim ond nifer fach sy’n ceisio osgoi talu eu ffordd. Nod y system Tocynnau Cosb yw atal ymddygiad annheg.

O ddydd Llun 4 Mawrth 2024 ymlaen, os ydych chi’n teithio heb docyn dilys ar gyfer eich taith ar wasanaeth TrC yn yr ardal Tocyn Cosb newydd rhwng Caerfyrddin a Chyffordd Twnnel Hafren, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Tocyn Cosb (£20*) neu ddwywaith y pris unffordd llawn sy’n berthnasol i’ch taith, pa un bynnag sydd fwyaf).

*Gallai’r gosb hon gynyddu i £100 yn y dyfodol (a fyddai’n cyfateb i’r Tocyn Cosb sy’n berthnasol yn Lloegr ar hyn o bryd).

Rhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. Mae gan bob gorsaf yn yr ardal Tocyn Cosb hon gyfleusterau prynu tocynnau. Gallwch hefyd brynu tocynnau ar ap TrC.

Gellir codi Tocyn Cosb os ydych chi:

  • yn teithio heb docyn dilys
  • yn teithio mewn cerbyd Dosbarth Cyntaf gyda thocyn Safonol
  • yn methu dangos Cerdyn Rheilffordd priodol ar gyfer tocyn rhatach
  • yn 16 oed neu’n hŷn ac yn defnyddio tocyn plentyn
  • yn teithio y tu hwnt i’r gyrchfan ar eich tocyn neu ar wasanaeth trên lle nad yw eich tocyn yn ddilys

Sylwch ein bod hefyd yn gweithredu ardal Tocynnau Cosb rhwng yr Amwythig a Birmingham International. Mae’r llwybr hwn yn gyfan gwbl yn Lloegr ac, o’r herwydd, mae’n rhan o gynllun Tocynnau Cosb Lloegr sy’n seiliedig ar ddeddfwriaeth Diwygio Rheoliadau Tocynnau Cosb 2022.

 

Cwestiynau cyffredin am Docynnau Cosb

  • Beth yw tocyn dilys?
    • Gwnewch yn siŵr bob amser fod eich tocyn yn ddilys ar gyfer y gwasanaeth trên rydych chi'n teithio arno, ac ar gyfer yr amser penodol rydych chi eisiau teithio. Os ydych chi wedi prynu eich tocyn gyda gostyngiad cerdyn rheilffordd, rhaid i’r cerdyn fod gyda chi. Os ydych chi'n teithio ar docyn plentyn, efallai y bydd angen dangos prawf oedran.

    • Os ydych chi'n defnyddio tocyn digidol / SMART, rhaid i chi ddilysu eich tocyn cyn dechrau eich taith neu ni fydd yn ddilys.

    • Gellir codi Tocyn Cosb os ydych chi:

      • yn teithio heb docyn dilys

      • yn teithio mewn cerbyd Dosbarth Cyntaf gyda thocyn Safonol

      • yn methu dangos Cerdyn Rheilffordd priodol ar gyfer tocyn rhatach

      • yn 16 oed neu’n hŷn ac yn defnyddio tocyn plentyn

      • yn teithio y tu hwnt i’r gyrchfan ar eich tocyn neu ar wasanaeth trên lle nad yw eich tocyn yn ddilys

  • Sut mae prynu tocyn?
    • Mae sawl ffordd o brynu tocyn cyn mynd ar y trên:

    • Ar-lein

    • Gallwch chi brynu tocynnau ar ein gwefan. Dydyn ni ddim yn codi ffioedd archebu os ydych chi’n prynu’n uniongyrchol gennym ni.

    • Gallwch hefyd lwytho ein ap tocynnau i lawr - chwiliwch am ap TrC yn eich siop apiau.

    • Tocynnau tymor

    • Os ydych chi'n teithio’n gyson ar y llwybr hwn, efallai y byddai tocyn wythnos, misol, neu flynyddol yn rhoi arbedion gwych i chi. Ewch i trc.cymru/tocynnau-tymor neu i’ch swyddfa docynnau leol i gael rhagor o fanylion.

    • Peiriannau gwerthu tocynnau hunan wasanaeth

    • Mae gan bob gorsaf rhwng Caerfyrddin - Cyffordd Twnnel Hafren beiriannau tocynnau hunanwasanaeth sy'n gwerthu'r ystod lawn o docynnau ar gyfer y llwybr hwn. Gallwch chi hefyd brynu tocynnau wythnos a thocynnau â gostyngiad cerdyn rheilffordd.

    • Swyddfeydd tocynnau

    • Rhwng Caerfyrddin a Chyffordd Twnnel Hafren, mae swyddfeydd tocynnau yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Abertawe, Castell-nedd, Parcffordd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd Canolog, Casnewydd a Chyffordd Twnnel Hafren.

    • Cewch weld amseroedd agor y swyddfeydd tocynnau yn trc.cymru/gorsafoedd

    • Talu wrth Fynd

    • Ar hyn o bryd rydym yn treialu cynllun talu wrth fynd digyswllt rhwng Casnewydd, Caerdydd Canolog a Phontyclun, lle gallwch ddefnyddio eich cerdyn banc digyswllt.

    • Addewid i Dalu / Trwydded i Deithio

    • Os ydych chi’n talu gydag arian parod a dim ond peiriant hunanwasanaeth cerdyn sydd ar gael, gofynnwch am daleb addewid yn lle tocyn arferol cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn dangos eich bwriad i dalu am eich taith ac ni fydd angen rhoi tocyn cosb i chi. Rhaid i chi gyfnewid eich taleb addewid i dalu gyda’r arian angenrheidiol naill ai ar y trên gan y goruchwyliwr tocynnau, neu yn eich cyrchfan.

  • Beth os nad yw'r cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf ar agor neu beth os nad ydynt yn gweithio?
    • Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau ar gael, rhaid i chi dalu am eich taith ar y cyfle cyntaf sydd ar gael. Mae goruchwylwyr ar gael ar bob un o'n gwasanaethau a gallant wirio gyda'n canolfan reoli i gadarnhau bod cyfleusterau prynu tocynnau ar gael.

  • Beth os ydw i’n cyrraedd yn hwyr a bod ciw hir i brynu tocyn?
    • Gall cyfleusterau prynu tocynnau fod yn brysur, yn enwedig yn ystod y prif gyfnodau teithio. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n caniatáu digon o amser i brynu tocyn cyn i chi fynd ar y trên. Mae ciwiau hir mewn cyfleusterau prynu tocynnau yn anarferol, ond fe’ch cynghorir i ganiatáu digon o amser i brynu eich tocyn yn ystod cyfnodau prysur er mwyn osgoi gorfod talu am docyn cosb.

  • Faint mae Tocyn Cosb yn ei gostio?
    • Mae’r Tocyn Cosb yn £20.00 neu’n ddwywaith cost y tocyn sengl llawn sy'n berthnasol i’ch taith (pa un bynnag sydd fwyaf).

  • Pam mae’r Tocyn Cosb yn £20 yng Nghymru a pham y gallai godi yn y dyfodol?
    • Mae’r tocyn cosb wedi’i osod ar £20 (neu ddwbl union bris y daith, pa un bynnag sydd fwyaf) yn unol â Rheoliadau Tocynnau Cosb 2018 sy’n berthnasol yng Nghymru. Ei nod yw lleihau’r costau osgoi talu am docynnau ar gyfer TrC, cwsmeriaid TrC a threthdalwyr sy’n rhoi cymhorthdal i deithiau TrC yng Nghymru yn y pen draw. Bydd y cynllun yn sicrhau nad yw cwsmeriaid gonest sy’n talu am docyn yn cael eu cosbi’n annheg a bod TrC yn gallu targedu pobl sy’n osgoi talu am docyn yn benodol. Yn y dyfodol, gallai hyn gynyddu yn unol â’r cynllun Tocynnau Cosb yn Lloegr sy’n seiliedig ar Ddiwygiad Rheoliadau Tocynnau Cosb 2022. Nid yw’r diwygiad hwn ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, os bydd hyn yn newid, gall y cynllun Tocynnau Cosb a weithredir gan TrC newid yn unol â hynny hefyd.
  • Pwy sy'n cael rhoi Tocyn Cosb?
    • Dim ond casglwr awdurdodedig sydd â cherdyn a rhif adnabod unigryw gaiff roi Tocynnau Cosb. Fel arfer, bydd arolygydd gwarchod refeniw ar y trên neu yn yr orsaf, a gallai fod mewn gwisg swyddogol neu ddillad plaen.

  • Sut mae talu'r Tocyn Cosb?
    • Bydd angen i chi roi eich enw a’ch cyfeiriad, yna byddwch chi’n cael hysbysiad tocyn cosb gyda chyfarwyddiadau. Bydd raid i chi, dan y gyfraith, roi eich enw a’ch cyfeiriad pan fyddwch chi’n cael tocyn cosb. Mae’n drosedd ddifrifol rhoi manylion ffug, ac os byddwch chi'n gwneud hynny byddwn yn ystyried eich bod yn ceisio osgoi talu, a gallech gael eich erlyn a chael hyd at £1000.00 o ddirwy.

    • Rhaid talu Tocyn Cosb neu gyflwyno apêl o fewn 21 diwrnod ar ôl i’r Tocyn Cosb gael ei roi. Nid yw'r arolygwyr gwarchod refeniw yn cael derbyn taliadau pan fyddant yn rhoi’r hysbysiad. Gellir talu ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd/credyd, neu drwy'r post gyda siec.

  • Beth sy’n digwydd i’r data rwy'n ei roi i chi?
    • Caiff y data ei gadw yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ac ni chaiff ei ddefnyddio at ddibenion marchnata na’i ddosbarthu i drydydd partïon. Cedwir manylion y bobl sy’n derbyn y tocynnau cosb yn electronig er mwyn monitro troseddwyr rheolaidd.

  • Sut ydw i'n gwybod os ydw i'n teithio mewn ardal Tocynnau Cosb?
    • Mae posteri i’w gweld ymhob gorsaf yn yr ardal Tocynnau Cosb, a gwneir cyhoeddiadau’n aml yn yr orsaf ac ar y trenau.

  • A fydd Tocyn Cosb yn arwain at gofnod troseddol?
    • Mater sifil yw Tocyn Cosb, ac nid yw’n arwain at gofnod troseddol ohono’i hun. Ond gall cwsmeriaid sy’n cael nifer o hysbysiadau Tocyn Cosb, cwsmeriaid sy'n darparu manylion ffug a chwsmeriaid sy’n peidio â thalu, fod yn agored i fesurau adfer dyledion sifil neu achosion cyfreithiol a allai wedyn arwain at gofnod troseddol.

  • Beth os ydw i eisiau prynu tocyn tymor a bod y swyddfa docynnau ar gau?
    • Os oes gennych gerdyn â llun, gallwch chi brynu tocyn tymor wythnos o beiriant gwerthu tocynnau hunanwasanaeth. Os oes angen tocyn misol arnoch, dylech chi brynu tocyn sengl ar gyfer eich taith a phrynu eich tocyn tymor yng ngorsaf eich cyrchfan. Yna, bydd cost y tocyn sengl yn cael ei dynnu o bris y tocyn tymor.

  • Beth os ydw i wedi anghofio dod â fy nhocyn tymor?
    • Prynwch docyn i dalu am eich taith a gwnewch gais am ad-daliad pan fyddwch chi'n adnewyddu eich tocyn tymor. Dim ond dau gais am ad-daliad sy’n dderbyniol mewn cyfnod o 12 mis, ac mae’n bosibl y bydd rhaid talu ffi weinyddol.

  • Sut gallaf herio’r Tocyn Cosb rwyf wedi'i gael?
    • Gallwch chi apelio yn erbyn y Tocyn Cosb drwy ysgrifennu at y cyfeiriad sydd ar yr hysbysiad Tocyn Cosb. Mae’r system apelio yn gwbl annibynnol ar Drafnidiaeth Cymru, a bydd yn seilio’r apêl ar y ffeithiau a roddwch. Mae proses apelio tri cham ar gael a bydd y cloc yn cael ei stopio am 21 diwrnod er mwyn rhoi digon o amser i chi gyflwyno eich rhesymau dros yr apêl. Os yw eich apêl yn llwyddiannus, bydd y Tocyn Cosb yn cael ei ddiystyru.

 

Telerau ac amodau

Mae system Tocynnau Cosb TrC yn unol â Rheoliadau Rheilffyrdd (Tocynnau Cosb) 2018 sy’n berthnasol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mwy o wybodaeth am ein polisi Gwarchod Refeniw trc.cymru/diogelu-refeniw.

  1. Pan fo angen, rhaid i chi fod yn gallu dangos tocyn neu ganiatâd dilys ar gyfer eich taith (ac unrhyw ddogfen arall sy'n ei wneud yn ddilys, e.e. cerdyn rheilffordd). Rhaid i'r tocyn fod ar gyfer y dosbarth rydych chi'n dymuno teithio ynddo.
  2. Os ydych chi wedi methu dangos tocyn dilys ar gyfer y daith gyfan, rhaid i chi dalu am Docyn Cosb, sef naill ai £20 neu ddwywaith pris taith sengl llawn sy'n berthnasol i'ch taith (pa un bynnag sydd fwyaf).
  3. Rhaid i chi adael y trên yn yr orsaf nesaf, a rhaid i chi dalu am unrhyw daith ar ôl y fan honno am y pris safonol.
  4. Nid yw arolygwyr gwarchod refeniw yn cael derbyn taliadau pan fyddant yn rhoi’r hysbysiad. Gellir talu ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd/credyd, neu drwy'r post gyda siec.
  5. Os nad ydych chi'n dymuno talu ar unwaith, gofynnir am eich enw a’ch cyfeiriad a rhoddir bil i chi er mwyn gallu talu cyn pen 21 diwrnod. Mae’n drosedd i beidio â gwneud hynny (gan gynnwys rhoi manylion ffug neu hen fanylion).
  6. Os ydych chi'n mynd ar y trên heb y modd i dalu am eich tocyn, mae’n bosibl y byddwch chi’n cael eich erlyn.
  7. Os ydych chi eisiau herio’r rheidrwydd i dalu'r Tocyn Cosb, rhaid i chi roi datganiad ysgrifenedig yn esbonio pam rydych chi wedi methu â dangos tocyn neu ganiatâd dilys ar gyfer eich taith, ynghyd ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Rhaid anfon hyn i'r cyfeiriad sydd ar yr hysbysiad tocyn cosb a chyrraedd cyn pen 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pryd cafodd ei roi. Os nad ydych chi'n talu'r holl swm sy'n ddyledus cyn pen 21 diwrnod ar ôl y diwrnod pryd rhoddwyd y tocyn cosb, gallai hynny arwain at achos cyfreithiol yn eich erbyn.