Tocynnau trên, nawr ar eich stryd fawr
Os ydych chi’n byw yn ardal Metro De Cymru, gallwch nawr brynu rhai o docynnau trên TrC gan y manwerthwyr Payzone sy’n cymryd rhan, gan ddefnyddio arian parod neu gerdyn.
Felly, y tro nesaf y byddwch chi ar y stryd fawr yn codi’r hanfodion, beth am achub ar y cyfle i arbed amser a phrynu eich tocyn trên hefyd?
Mae'n gyflym ac yn hawdd. Chwiliwch am y sticer ffenestr i ddod o hyd i'r siopau dan sylw neu gwelwch y rhestr lawn o'r siopau sy'n cymryd rhan yma.
Ddim yn siŵr ble mae eich Payzone agosaf? Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am holl leoliadau siopau Payzone drwy fynd i wefan Payzone.
Ble alla i fynd?
Cliciwch yma i weld neu lawrlwytho ein map rhwydwaith
Mae’r tocynnau sydd ar gael gan adwerthwyr Payzone yn cynnwys:
Math o docyn | Cyfyngiadau |
Tocyn Diwrnod Unrhyw Bryd | Dim ond ar gyfer un daith allan fesul teithiwr y gellir defnyddio'r tocyn. |
Tocyn Diwrnod Dwyffordd Unrhyw Bryd | Dim ond ar gyfer un daith allan AC un daith ddwyffordd y gellir defnyddio’r tocyn. Rhaid i’r daith ddwyffordd fod ar yr un dyddiad â’r daith allan. |
Tocyn Diwrnod Dwyffordd Grŵp Bach | Dim ond ar gael ar gyfer teithiau byr yn unig. Rhaid i’r grŵp wneud pob siwrnai gyda’i gilydd gan na fydd y tocyn yn ddilys ar gyfer grwpiau anghyflawn. Ni ddylai nifer y teithwyr sy’n teithio fod yn fwy na’r nifer sydd wedi’i argraffu ar y tocyn. Nid yw plant dros 5 oed yn teithio am ddim gyda’r tocyn hwn. Rhaid i’r daith ddwyffordd fod ar yr un dyddiad â’r daith allan. |
Derbynnir cardiau rheilffordd yn amodol ar delerau ac amodau'r cerdyn rheilffordd. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwahanol fathau o docynnau ar gael yma.
Cofiwch mai dim ond tocynnau hyd at uchafswm o £10 y bydd modd i chi gael ad-daliad amdanynt mewn adwerthwr Payzone. Ni fyddwch yn gallu cael ad-daliad am docynnau gan orsfafoedd TrC na gan Wasanaethau i Gwsmeriaid. Mae yna ffi weinyddol o £5 am ad-daliadau. I gael rhagor o wybodaeth am ad-daliadau, cliciwch yma.
Telerau ac Amodau’n berthnasol. I weld Telerau ac Amodau Payzone, cliciwch yma.