Pan fyddwch chi’n prynu tocyn gyda ni. Fyddwn ni ddim yn codi unrhyw ffioedd ychwanegol arnoch.

Ar-lein

Gallwch brynu tocynnau ar-lein a’u derbyn drwy’r post, eu casglu o beiriant tocynnau neu eu llwytho i lawr fel e-docyn.

  • Os ydych chi’n prynu e-docyn, gallwch roi enw’r teithiwr wrth archebu. Bydd angen iddyn nhw gael dogfen adnabod (ID) wrth deithio.
  • Os ydych chi'n casglu tocynnau o beiriant tocynnau, bydd angen i chi fynd â'ch cerdyn talu gyda chi. Sylwch, ni fyddwch yn gallu casglu'ch tocynnau o beiriant gwerthu tocynnau os ydych chi wedi defnyddio dulliau talu fel Google Wallet, Apple Pay neu PayPal. Mae hyn oherwydd bod yr ap talu wedi aseinio rhif cerdyn rhithwir, na ellir ei wirio i'w gasglu gan y peiriant gwerthu tocynnau.

 

Ar ddyfais symudol/ap

Gallwch brynu tocynnau a’u llwytho i lawr i’n ap symudol neu ddewis eu casglu o beiriant tocynnau hyd at pum munud cyn bod y trên yn gadael.

Mae angen i chi lwytho’r ap i lawr o’r Siop Apiau neu Google Play a dewis ‘m-ticket’ neu ‘mobile ticket’ fel dewis danfon.  

 

Dros y ffôn

Gallwch chi ein ffonio ni ar 03333 211 202 a dewis derbyn eich tocynnau drwy’r post neu eu casglu o beiriant tocynnau. Mae ein llinellau ffôn ar agor 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan).

 

Yn yr orsaf

Gallwch brynu tocynnau yn un o’n swyddfeydd tocynnau neu beiriant tocynnau. Dim ond os ydych chi’n teithio ar y diwrnod hwnnw y gallwch chi brynu tocyn o’n peiriannau tocynnau. Rydym yn derbyn yr holl brif gardiau credyd a debyd.

 

Ar y trên

Rhaid i chi brynu eich tocyn cyn camu ar y trên, ac eithrio os nad oedd swyddfa docynnau neu beiriant tocynnau ar gael.