Teithio ar y funud olaf

Mwynhewch ein tocynnau Advance pellter hir am bris isel, sydd nawr ar werth ar y dyddiad teithio

Fel arfer, y cyntaf i’r felin gaiff falu, ond nawr gall pawb fanteisio ar y fargen orau wrth brynu tocynnau. Rydym nawr yn cynnig ein tocynnau Advance pellter hir am bris isel ar y dyddiad teithio, felly nid oes angen archebu tocyn o flaen llaw i gael y fargen orau. Y tro nesaf i chi drefnu taith funud olaf, byddwch yn gwybod y byddwch yn cael y tocyn rhataf posib.

Mae’r ticedi yn amodol ar faint sydd ar gael ac mae’n amrywio â phob gwasanaeth. Mae’r ticedi ar gael hyd at 5 munud cyn i’r trên adael yr orsaf. Ni ellir prynu ticedi drwy Beiriannau Gwerthu Tocynnau, ond gellir eu prynu drwy bob dull arall gan gynnwys: ar ap TrC, ar y wefan, mewn Swyddfeydd Archebu Tocynnau, gan oruchwylwyr ar y trên neu gan werthwyr trydydd parti.

Rydym yn cynnig yr opsiwn i chi ledaenu taliadau dros 3 rhandaliad gyda Paypal Pay in 3 os ydych chi'n gwario dros £30. Mae rhagor o wybodaeth am yr opsiwn hwn ar gael ar y sgrin talu.

 

Telerau ac Amodau

Tocynnau Advance sy’n cynnig y fargen orau ar gyfer teithiau hirach. Maent ar gael i’w prynu 12 wythnos o flaen llaw. Prynwch cyn y dyddiad teithio am y fargen orau. Tocynnau unffordd yw’r tocynnau Advance, ac maent ar gael ar gyfer gwasanaethau Safonol a gwasanaethau Dosbarth Cyntaf. Ewch i trc.cymru/advance am y telerau a’r amodau llawn ar docynnau Advance.