
Llwybrau hygyrch
Dylai'r awyr agored fod i bawb. Mae'r pum taith gerdded ganlynol yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn, teuluoedd â chadeiriau gwthio a phlant sy'n defnyddio beiciau gwthio neu sgwteri.
Gallwch gyrraedd pob un o'r rhain ar y trên a gallwch gyrraedd nifer ohonynt ar y bws hefyd. Os ydych chi'n gymwys, mae Cerdyn Rheilffordd Pobl Anabl yn golygu y gallwch chi a chydymaith teithio sy'n oedolyn gael traean i ffwrdd o'ch tocynnau teithio. Mae plant yn teithio am ddim ar ein gwasanaethau rheilffordd.
Os ydych chi'n dod ar draws unrhyw broblemau gyda'r teithiau cerdded hyn, rhowch adborth i ramblerscymru@ramblers.org.uk.

Aberdâr | 1.5 awr / 2.66 milltir
Cwbl addas i gadeiriau olwyn, sgwteri a bygis
Mae'r llwybr hwn yn daith gerdded hawdd trwy ganol tref Aberdâr hyd at hyfrydwch Parc Aberdâr. Mae yna lawer o ardaloedd chwarae i blant yn y parc ynghyd â digonedd o fywyd gwyllt a phwll hardd. Gallwch hefyd gerdded i Barc Gwledig Cwm Dâr.

Ynys y Barri | 1.5 awr / 2.35 milltir
Cwbl addas i gadeiriau olwyn, sgwteri a bygis
Mae'r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Nells Point, Bae Whitmore a Friars Point. Mae'r llwybr yn wastad ar wahân i ddringfa gyson ar y dechrau. Mae'r golygfeydd o'r arfordir yn werth chweil. Ar ôl eich taith gerdded gallwch ddod o hyd i sawl opsiwn bwyd da ym Mae Whitmore. Mae yna opsiwn i ymestyn y daith gerdded hon.

Bae Caerdydd | 1.5 awr / 3.24 milltir
Cwbl addas i gadeiriau olwyn, sgwteri a bygis
Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Bae Caerdydd tuag at y morglawdd. Mae’r llwybr yn gwbl wastad ac mae golygfeydd godidog yn edrych yn ôl am Gaerdydd, Ynys Echni, a draw i i Ddyfnaint ar ddiwrnod clir.

Llandeilo | 1 awr / 1.64 milltir
Addas i gadeiriau olwyn, sgwteri a bygis
Mae’r llwybr hwn yn rhoi dewis i chi rhwng taith hygyrch neu daith gerdded gyda phocedi o goetir ar ei hyd, wrth i chi fynd o’r orsaf drwy Landeilo i safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol Parc Dinefwr.

Bangor | 1.5 awr / 3.2 milltir
Dim camfeydd
Mae'r llwybr hwn yn dilyn palmentydd a llwybrau tarmac i'r Pier. Gallwch fwynhau golygfeydd arbennig ar draws Afon Menai...
Opsiynau cysylltiedig
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.