
Archwiliwch Aberdâr

Mae'r llwybr hwn yn daith gerdded hawdd trwy ganol tref Aberdâr hyd at hyfrydwch Parc Aberdâr. Mae yna lawer o ardaloedd chwarae i blant yn y parc ynghyd â digonedd o fywyd gwyllt a phwll hardd. Gallwch hefyd gerdded i Barc Gwledig Cwm Dâr.
Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.
Llwybr Aberdâr Ramblers Cymru

- Wrth i chi gyrraedd Aberdâr, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i ddiwedd y platfform i fynd ar hyd y ramp a fydd yn eich arwain i lawr i’r ffordd. Defnyddiwch y man croesi dros y ffordd a mynd ar y bont i fyny a thros y ffordd. Ar ôl i chi ddod oddi ar y bont, ewch i'r dde ar Stryd y Dug ac yna cymerwch y troad nesaf i'r chwith i ymuno â Commercial Street, sef man cychwyn prif ardal siopa'r dref.
- Ewch i ben y stryd hon a gyferbyn â’r eglwys, ewch i’r dde ar hyd Stryd y Canon. Dilynwch y ffordd hon nes iddi gyrraedd croesffordd, lle mae Llyfrgell Aberdâr dros y ffordd i chi, yn ogystal â man agored gyda rhywfaint o gaffis. Defnyddiwch y mannau croesi hygyrch yma i groesi i ochr y llyfrgell o'r ffordd ac yna ewch i'r dde ar hyd y Stryd Fawr sy'n eich arwain o gwmpas tuag at gylchfan.
- Croeswch yn syth ar draws y gylchfan i ymuno â Heol Gadlys. Ychydig i fyny'r ffordd, defnyddiwch y groesfan sebra i sicrhau bod cyrbiau is sy’n fwy hygyrch. Ewch ymlaen i fyny’r ffordd ac wrth archfarchnad Lidl, croeswch y ffordd eto gan ddefnyddio'r opsiynau hygyrch gorau. Daliwch i fynd ymlaen i fyny’r ffordd a chyn bo hir bydd y fynedfa i Barc Aberdâr ar draws y ffordd.
- Ar ôl i chi fynd i mewn i’r parc, mae gennych chi opsiynau. Mae llwybr llydan braf sy’n mynd â chi ar gylchdaith o’r parc, neu gallwch fynd yn syth at y pwll, y caffi a'r toiledau. Cymerwch eich amser yma i fwynhau popeth sydd gan y parc hwn i’w gynnig.
- Pan fyddwch chi’n barod i fynd yn ôl i’r orsaf, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dilyn yr un llwybr yn ôl. Treuliwch amser yn mwynhau’r siopau a'r caffis yng nghanol tref Aberdâr.
Os ydych chi eisiau crwydro ymhellach na Pharc Aberdâr, mae mynediad da i Barc Gwledig Cwm Dâr o’r orsaf drenau. Wrth i chi ddod i lawr y ramp, cadwch lygad am arwyddion sy’n eich arwain yr holl ffordd allan i’r Parc.
Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX
Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau
Cyrraedd
Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.