
Archwiliwch Llandeilo

Mae’r llwybr hwn yn rhoi dewis i chi rhwng taith hygyrch neu daith gerdded gyda phocedi o goetir
ar ei hyd, wrth i chi fynd o’r orsaf drwy Landeilo i safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol Parc Dinefwr.
Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.
Llwybr hygyrch Llandeilo Ramblers Cymru

- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael yr orsaf drenau drwy’r maes parcio - mae man rheilffordd hygyrch i wneud hyn os oes angen. Gadewch yr orsaf a mynd ar hyd ochr chwith Heol yr Orsaf. Dilynwch hon nes i chi gyrraedd cyffordd-T. Ewch i’r chwith yma gan fynd i fyny'r rhiw ar Stryd Rhosmaen, sef y brif ffordd drwy Landeilo. Ychydig i fyny’r ffordd, defnyddiwch y groesfan i groesi i’r ochr arall ac yna cymerwch y troad nesaf i'r dde ar Heol Newydd.
- Dilynwch y ffordd hon sy’n mynd i fyny'r rhiw ac o amgylch i'r dde wrth iddi droi’n Heol Caerfyrddin. Defnyddiwch fan croesi diogel ar y darn hwn i fynd i ochr arall y ffordd. Ar ôl ychydig, ewch drwy fynedfa Parc Dinefwr ar y chwith gyferbyn â mynedfa Heol Diana. Rydych chi nawr ar y prif lwybr a fydd yn mynd â chi at fynedfa Parc Dinefwr - does dim llwybr symudedd diogel felly byddwch yn ofalus gan y bydd ceir yn eich pasio ar y llwybr hwn.
Llwybr Llandeilo Ramblers Cymru
- Gadewch yr orsaf drwy ochr y maes parcio a dringo'r grisiau serth sy’n rhan o Lwybr Rheilffordd Calon Cymru - cadwch lygad am y mynegbyst. Ar ben y grisiau, ewch i’r chwith a dilyn Heol Alan i gyrraedd cyffordd-T. Ewch i'r chwith yma gan fynd i fyny’r rhiw ar Stryd Rhosmaen, wedyn cymerwch y troad nesaf i’r dde ar Heol Newydd.
- Dilynwch y ffordd hon i fyny, ac ar ben y rhiw, ewch yn syth ymlaen i Barc Penllan. Dilynwch y prif lwybr wrth iddo fynd o amgylch i’r chwith ac arhoswch ar y llwybr gwaelod gyda’r bandstand uwchben. Dilynwch y llwybr hwn wrth iddo fynd o amgylch a dechrau dringo i fyny. Cyn i’r llwybr hwn ddechrau troi i’r dde i fynd o amgylch y bandstand, dilynwch y llwybr i lawr i’r chwith i fynd i mewn i Goed Castell.
- Rheolir y coetir hwn gan yr Ymddiriedolaeth Natur. Dilynwch y llwybr hwn i fyny ac i lawr wrth iddo eich arwain drwy’r coetir sy’n mynd i lawr i lwybr llydan is yn y pen draw. Ewch i’r dde yma a pharhau i’r dde wrth i’r llwybr hwn ddringo i fyny i gyrraedd prif lwybr Parc Dinefwr.
- Yn hytrach na mynd ar y prif lwybr hwn, ewch ar y llwybr llai ar y chwith i barhau drwy’r pocedi o goetir sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r prif lwybr hwn. Dilynwch y llwybr hwn i’r diwedd, lle byddwch yn dod allan ar y prif lwybr. Ewch i’r chwith yma a dilyn y prif lwybr hwn wrth iddo eich arwain yr holl ffordd i fynedfa Parc Dinefwr.
Ar ôl mwynhau eich amser ym Mharc Dinefwr, ar eich ffordd yn ôl i’r orsaf, cymerwch yr amser i fynd i brif stryd fawr Llandeilo. Wrth i chi ddychwelyd i Stryd Rhosmaen, ewch i'r dde gan fynd i fyny'r rhiw a bydd hyn yn mynd â chi i'r brif ardal siopa lle mae digon o lefydd i gael lluniaeth.
Wrth ddychwelyd i’r orsaf, mae mwy o opsiynau i’w hystyried ar yr ochr arall i'r orsaf drenau. Dilynwch y llwybr sy’n eich arwain y tu ôl i’r platfform ac ar draws yr afon dros y bont. Ewch i’r dde yma a dilynwch y llwybr hwn i'r pen nes i chi gyrraedd ffordd. Croeswch y ffordd hon sy’n rhoi mynediad i chi i Warchodfa Natur Coed Tregib.
Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX
Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau
Cyrraedd
Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.